British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 2838 (Cy.202)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052838w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2838 (Cy.202)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
11 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
14 Hydref 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[
1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sy'n cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol" yw'r ystyr a roddir i "relevant remission question" yn Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,540" ym mhob man y'i gwelir rhodder "£1,575".
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£11,935" rhodder "£12,182".
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—
TABLE
(1)
|
(2)
|
(3)
|
(4)
|
Part of relevant income to which specified percentage applies
|
Only assisted pupil (% )
|
Each of two assisted pupils (% )
|
Each of three assisted pupils (% )
|
That part (if any) which exceeds £12,016 but does not exceed £13,066 |
9 |
6.75 |
5.25 |
That part (if any) which exceeds £13,066 but does not exceed £14,133 |
12 |
9 |
7 |
That part (if any) which exceeds £14,133 but does not exceed £16,247 |
15 |
11.25 |
8.75 |
That part (if any) which exceeds £16,247 but does not exceed £19,509 |
21 |
15.75 |
12.25 |
That part (if any) which exceeds £19,509 but does not exceed £23,761 |
24 |
18 |
14 |
That part (if any) which exceeds £23,761 |
33 |
24.75 |
19.25" |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") at ddibenion "cwestiwn peidio â chasglu perthnasol". Mae hwn yn gwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu trefniadau ar gyfer peidio â chasglu ffioedd ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er gwaethaf diddymu y cynllun lleoedd a gynorthwyir gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,540 i £1,575.
Pan fo'r incwm "perthnasol" ar neu'n is na lefel benodol, ni chesglir y ffioedd o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu o £11,935 i £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw.
Notes:
[1]
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
[2]
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru:. gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136), O.S. 2001/2680 (Cy.221), O.S. 2002/1879 (Cy.188), O.S. 2003/1854 (Cy.204) ac O.S. 2004/1812 (Cy.197).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091193 8
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 October 2005
|