British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 2837 (Cy.201)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052837w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2837 (Cy.201)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
11 Hydref 2005 | |
|
Yn dod i rym |
14 Hydref 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[
1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr "cwestiwn perthnasol" yw'r ystyr a roddir i "relevant question" o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997[3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle "£12,846" rhodder "£13,116".
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhodder—
"
(a) £81 where the relevant income does not exceed £12,182; and
(b) £42 where that income exceeds £12,182 but does not exceed £13,116.".
(4) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle "£11,948" rhodder "£12,195"; a
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle "£11,948" rhodder "£12,195", a
(ii) yn lle "£11,769" rhodder "£12,016".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") at ddibenion "cwestiwn perthnasol". Mae hwn yn gwestiwn o dan Reoliadau 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o Reoliadau 1997 sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer talu grantiau o ran mân dreuliau, ac ar gyfer peidio â chasglu mân dreuliau, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys i barhau i ddal lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun lleoedd a gynorthwyir wedi'i ddiddymu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn llacio'r prawf moddion ariannol ar gyfer grantiau gwisg ysgol a grantiau teithio (a nodir yn rheoliad 2 a 4 o Reoliadau 1997 yn eu trefn) ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy.
Notes:
[1]
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
[2]
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1997/1969, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy.137), O.S. 2001/2708 (Cy.227), O.S. 2002/1880 (Cy.189), O.S. 2003/1779 (Cy.193) ac O.S. 2004/1807 (Cy.195).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091192 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 October 2005
|