Wedi'i wneud | 27 Medi 2005 | ||
Yn dod i rym | 28 Medi 2005 |
Materion y mae'n rhaid rhoi gwybodaeth amdanynt i denantiaid diogel
3.
Mae'r materion a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn faterion a bennir at ddibenion adran 121AA o'r Ddeddf.
Pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r ddogfen
4.
—(1) Rhaid i landlord gyhoeddi'r ddogfen o fewn dau fis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Os bydd landlord yn diwygio'r ddogfen o dan adran 121AA(4) o'r Ddeddf rhaid iddo gyhoeddi'r ddogfen yn ei ffurf ddiwygiedig o fewn mis o'r diwygio.
Pryd y mae'n rhaid rhoi copi o'r ddogfen
5.
—(1) Ar ôl cyhoeddi'r ddogfen yn unol ag erthygl 4(1) neu (2) rhaid i landlord roi copi o'r ddogfen—
(2) Rhaid i landlord roi i bob un o'i denantiaid diogel gopi o fersiwn gyfredol y ddogfen o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan roddwyd y ddogfen yn unol ag erthygl 5(1)(a).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005
2.
—(1) Y ffaith ei bod yn debygol y tynnir costau cychwynnol gan denant diogel sy'n arfer ei hawl i brynu.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gostau cychwynnol yn cynnwys costau o ran—
3.
—(1) Y ffaith ei bod yn debygol y bydd tenant diogel yn gorfod gwneud taliadau rheolaidd fel perchennog tŷ annedd.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at daliadau rheolaidd yn cynnwys taliadau o ran—
4.
Risg adfeddiannu'r tŷ annedd os na wneir y taliadau morgais yn rheolaidd.
5.
Er mwyn cynnal yr eiddo mewn cyflwr da, y ffaith ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i berchennog tŷ annedd dynnu gwariant a allai gynnwys talu taliadau gwasanaeth (blynyddol yn ogystal ag o ran gwaith mawr) lle bo'n briodol.
[2] Gweler O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 121AA, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo.back
© Crown copyright 2005