Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 Rhif 1915 (Cy.158)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051915w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1915 (Cy.158)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005
|
Wedi'u gwneud |
12 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym, ac eithrio |
|
rheoliadau 2 a 7 |
1 Awst 2005, | |
|
Rheoliadau 2 a 7 |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[
2].
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
2.
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
(a) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder —
"
ystyr "Rheoliadau Ffioedd 2000" ("the Charges Regulations 2000") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000[3];";
(b) yn y diffiniad cyntaf o "swp-ddyroddiad" ("batch issue") yn lle "rhagnodydd" ym mhob man y digwydd, rhodder "rhagnodydd amlroddadwy";
(c) hepgorer yr ail ddiffiniad o "swp-ddyroddiad" ("batch issue");
(ch) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "swp-ddyroddiad cyfatebol" ("equivalent batch issue") yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;";
(d) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "ffurflen bresgripsiwn gyfatebol" ("equivalent prescription form") yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol ac nad yw'n cynnwys—
(a) ffurflen bresgripsiwn Gymreig;
(b) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu
(c) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;";
(dd) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol" ("equivalent repeatable prescription") yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu;";
(e) hepgorer y diffiniad o "ffurflen bresgripsiwn" ("prescription form");
(f) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
"
mae "carchar" ("prison") yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—
ystyr "canolfan hyfforddi ddiogel" ("secure training centre") yw man y mae troseddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000[4] (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion cadw a hyfforddi) yn gallu cael eu cadw a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau; ac
ystyr "sefydliad tramgwyddwyr ifanc" ("young offender institution") yw man i gadw tramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i droseddwyr ifanc neu ddalfa am oes;";
(ff) ar ôl y diffiniad o "carchar" mewnosoder—
"
ystyr "carcharor" ("prisoner") yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf a thrwy, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol neu fel arall heblaw yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988[5] (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);";
“ystyr "ffurflen bresgripsiwn Gymreig" ("Welsh prescription form") yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—
(a) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
(b) ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu
(c) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
ac at ddibenion y diffiniad hwn—
ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru ("Welsh NHS Trust") yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;
(i) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
"
ystyr "presgripsiwn amlroddadwy Cymreig" ("Welsh repeatable prescription") yw presgripsiwn ar ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract y GMS—
(a) a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a
(b) sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu";
Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau
4.
Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—
"
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr
3.
—(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—
(2) Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(3) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—
(4) Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi o £4.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf;
(b) os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.
(6) Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—
(a) pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(i) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(ii) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(iii) mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;
(b) pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(i) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(ii) mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(iii) mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu
(c) pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.
(7) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—
(a) ffurflen bresgripsiwn Gymreig,
(b) ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(c) presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu
(ch) presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.
(8) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn adennill ffi o dan baragraff (1), (3), neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais am ad-daliad.
(9) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u hadennill gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.".
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
5.
—(1) Diwygier rheoliad 4 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol —
(3) Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn" rhodder "ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol".
(4) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn" ym mhob man y digwydd, rhodder y geiriau "ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol".
(5) Ym mharagraff (4)—
(a) yn lle'r geiriau "ffurflen bresgripsiwn sengl" rhodder "ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl neu ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl"; a
(b) yn lle "£6.00" rhodder "£4.00".
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau
6.
—(1) Diwygier rheoliad 8 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), ar ddechrau'r paragraff, mewnosoder "Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)".
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
Mewnosod rheoliad 8A yn y prif Reoliadau
7.
Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder y rheoliad canlynol—
"
Esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion
8A.
Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
8.
Ym mharagraff (2) o reoliad 11 o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau "rheoliad 3(6)" rhodder "rheoliad 3(8)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005
YR ATODLENrheoliad 2
Symiau a amnewidir yn y prif Reoliadau
(1)
|
(2)
|
(3)
|
(4)
|
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau
|
Y pwnc
|
Swm blaenorol
|
Swm newydd
|
Rheoliad 3 |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr— |
|
|
paragraff (1)(a)(i) |
ffi am hosanau elastig— |
|
|
|
fesul eitem |
£4.00 |
£3.00 |
|
y pâr |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (1)(a)(ii) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) |
£4.00 |
£3.00 |
paragraff (3)(a)(i) |
ffi am hosanau elastig— |
|
|
|
fesul eitem |
£4.00 |
£3.00 |
|
y pâr |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (3)(a)(ii) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (3)(a)(i) |
£4.00 |
£3.00 |
paragraff (5)(a) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£4.00 |
£3.00 |
Rheoliad 4 |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon — |
|
|
paragraff (1)(a)(i) |
ffi am hosanau elastig— |
|
|
|
fesul eitem |
£4.00 |
£3.00 |
|
y pâr |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (1)(a)(ii) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i) |
£4.00 |
£3.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£4.00 |
£3.00 |
Rheoliad 5 |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG — |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig— |
|
|
|
fesul eitem |
£4.00 |
£3.00 |
|
y pâr |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (1)(c) |
ffi am deits |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (1)(ch) |
ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1 |
£4.00 |
£3.00 |
paragraff (5) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£4.00 |
£3.00 |
Rheoliad 6 |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig— |
|
|
|
fesul eitem |
£4.00 |
£3.00 |
|
y pâr |
£8.00 |
£6.00 |
paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) |
£4.00 |
£3.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£4.00 |
£3.00 |
Rheoliad 7(1) |
Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion |
£4.00 |
£3.00 |
Rheoliad 10(5) |
Tystysgrif ragdalu — |
|
|
|
4 mis |
£20.93 |
£15.69 |
|
12 mis |
£57.46 |
£43.09 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae rheoliad 2 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion o £4.00 i £3.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £4.00 i £3.00 (o £8.00 i £6.00 y pâr) a'r ffi am deits o £8.00 i £6.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £20.93 i £15.69 am dystysgrif pedwar mis ac o £57.46 i £43.09 am dystysgrif deuddeg mis.
Mae diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cymhwyso ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol a ragnodir gan y prif Reoliadau o ran "presgripsiynau Cymreig" yn unig, sef y presgripsiynau hynny a ddyroddir ac a weinyddir yng Nghymru. Cymhwysir ffioedd ar gyfer presgripsiynau a ddyroddir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ("presgripsiynau cyfatebol") yn ôl y cyfraddau a ragnodir gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000.
Mae rheoliad 6 yn tynnu'r gofyniad bod yn rhaid i bersonau o dan 25 oed, a phersonau 60 oed neu drosodd, sy'n esempt rhag talu ffioedd o dan y prif Reoliadau yn rhinwedd eu hoedran, ac y nodir eu dyddiad geni ar ffurflenni presgripsiwn Cymreig, presgripsiynau amlroddadwy Cymreig, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ddatgan eu bod yn esempt oherwydd eu hoedran pan gyflenwir hwy â chyffuriau neu gyfarpar gan fferyllwyr o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau neu gan feddygon o dan reoliad 4 o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu na fydd carcharorion mewn carcharau penodol yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y prif Reoliadau. Dim ond tra byddant yn y carchar mewn gwirionedd y bydd carcharorion yn cael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl ac felly ni fydd angen iddynt brofi eu hawl i esemptiad rhag talu'r ffioedd. Daw'r newid hwn o ganlyniad i drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu gofal iechyd o'r Swyddfa Gartref i Fyrddau Iechyd Lleol sy'n effeithiol o Ebrill 2006.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4).
Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).back
[2]
O.S. 2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196), O.S. 2004/1018 a 2004/1605 (Cy.164) ac O.S. 2005/427 (Cy.44).back
[3]
O.S. 2000/620.back
[4]
2000 p.6.back
[5]
1988 p.49.back
[6]
O.S. 2002/254.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091176 8
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
19 July 2005
|