Wedi'u gwneud | 12 Gorffennaf 2005 | ||
Yn dod i rym | 15 Gorffennaf 2005 |
(2) Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu y cyfeirir atynt ynddo, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
(3) Mae gofyniad sy'n cael ei osod ar berson gan y Rheoliadau hyn i gyflawni gweithred neu i ymatal rhag ei chyflawni, ac sy'n amodol ar p'un a roddwyd rhyw hysbysiad neu a fynegwyd rhyw ofyniad i'r person hwnnw gan arolygydd, gan awdurdod lleol neu gan y Cynulliad, i'w osod hefyd os oedd yr hysbysiad hwnnw wedi'i roi neu'r gofyniad hwnnw wedi'i fynegi gan berson a chanddo bŵer i wneud hynny o dan Reoliadau sy'n gymwys i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac sy'n rhoi eu heffaith i Reoliad y Cyngor.
Awdurdod Cymwys
3.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi'n Awdurdod Cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
Gorfodi
4.
—(1) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.
(2) Caiff y Cynulliad gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu o ran unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi sy'n cael ei gosod gan y rheoliad hwn i'w chyflawni—
Penodi arolygwyr
5.
—(1) Caiff y Cynulliad, neu mewn unrhyw achos y mae cyfarwyddyd gan y Cynulliad o dan reoliad 4(2) yn gymwys iddo, yr awdurdod lleol, benodi'n arolygwyr y personau y mae'r Cynulliad neu'r awdurdod lleol yn ôl eu trefn yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.
(2) Mae unrhyw benodiad o arolygydd o dan Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[5] sy'n effeithiol ar yr adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn effeithiol fel petai'n benodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r arolygydd hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Hawliau Mynediad
6.
—(1) Os yw'n ofynnol iddo wneud hynny, caiff arolygydd, ar ôl dangos tystiolaeth ddogfennol sy'n dangos ei awdurdod, arfer unrhyw un o'r pwerau a bennir yn is-baragraff (3) isod at ddibenion gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol penodedig.
(2) At y dibenion hyn, mae'r pwerau hynny yn arferadwy o ran unrhyw fangre ac eithrio unrhyw ran o fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion domestig.
(3) Mae pwerau arolygydd fel a ganlyn—
rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol ac yn ddiogel iddo wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl a honno wedi'i marcio mewn modd digonol i'w hadnabod.
Cael gwybodaeth oddi wrth bersonau
7.
—(1) At unrhyw ddiben o ran gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor, caiff y Cynulliad, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo—
ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi'r wybodaeth berthnasol sydd ar gael iddo ac a bennir yn yr hysbysiad, ar y ffurf a bennir ynddo ac o fewn y cyfryw gyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad ag a bennir ynddo.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "gwybodaeth berthnasol" yw gwybodaeth am unrhyw agwedd ar y gweithgareddau o dan sylw.
Tramgwyddau
8.
—(1) Mae'n dramgwydd i berson—
(2) Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(a) i brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni ganddo ef ei hun neu gan berson sydd o dan ei reolaeth.
Tramgwyddau oherwydd bai person arall
9.
Pan fo tramgwydd wedi'i gyflawni gan unrhyw berson o dan reoliad 8 oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, mae'r person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd, a gellir cyhuddo person o'r tramgwydd a'i gollfarnu ohono yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf neu beidio.
Tramgwyddau gan Gyrff Corfforaethol
10.
—(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae'r paragraff blaenorol yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.
Cosbau
11.
—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan I o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(2) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig yn Rhan II o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na thri mis, neu i'r ddau.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 8(1)(b), (c), (ch), neu (d) uchod yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.
Terfynau Amser
12.
—(1) Caniateir i achos am dramgwydd o dan reoliad 8, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gael ei gychwyn o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y daw tystiolaeth, sy'n ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.
(2) Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys iddo yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.
(4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.
Cyflwyno Hysbysiadau
13.
—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig.
(2) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o'r fath i berson—
(4) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y gwasanaeth wedi'i gyflawni drwy gyfeirio a throsglwyddo'r cyfathrebiad electronig yn gywir.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y Cyngor | Y Pwnc |
Erthygl 5(3) | Bwrw ymlaen â symud yn fwriadol organedd a addaswyd yn enetig ar draws ffin am y tro cyntaf a hwnnw'n organedd a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol mewn ffordd na fyddai'n cydymffurfio â'r gweithdrefnau perthnasol. |
Erthygl 10(1) | Methu â pharchu unrhyw benderfyniad ar fewnforio organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu. |
Erthygl 10(2) | Bwrw ymlaen ag allforio am y tro cyntaf organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r weithdrefn berthnasol. |
Erthygl 10(3) | Allforio organeddau a addaswyd yn enetig yn ddarostyngedig i symudiadau trawsffiniol ar gyfer defnyddio'r organeddau hynny'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu heb fod cytundeb datganedig i awdurdodi'r mewnforio wedi'i wneud o fewn y Gymuned neu gan awdurdod cymwys trydedd wlad, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002. |
Erthygl 4 | Methiant gan allforiwr i hysbysu'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio cyn symud ar draws ffin ryngwladol am y tro cyntaf GMO (Organedd a Addaswyd yn Enetig) a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd ac a arfaethwyd ar gyfer y defnydd a bennir yn unol ag Atodiad I, pwynt (i), i Reoliad y Cyngor; |
Methu â darparu yn yr hysbysiad yr wybodaeth ofynnol, fel a bennir yn Atodiad I i Reoliad y Cyngor; a | |
Methu â sicrhau bod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yn gywir. | |
Erthygl 6 | Methu â chadw am 5 mlynedd o leiaf gofnodion o hysbysiadau o dan Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor; cydnabyddiadau bod hysbysiadau wedi dod i law; a phenderfyniadau'r Parti sy'n mewnforio neu'r wlad neu'r corff nad yw'n Barti ac sy'n mewnforio; a Methu ag anfon copïau o'r cofnodion i'r Awdurdod Cymwys ac i'r Comisiwn. |
Erthygl 7(2) | Methu ag anfon copi i'r Ysgrifenyddiaeth o unrhyw nodyn atgoffa a anfonwyd i'r Partïon sy'n mewnforio neu i'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio. |
Erthygl 12(1) | Methu â sicrhau bod gwybodaeth benodedig yn cael ei chynnwys mewn dogfen sy'n mynd gyda'r GMOs; a methu â sicrhau bod yr wybodaeth honno yn cael ei throsglwyddo i'r mewnforiwr. |
Erthygl 12(2) | Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu. |
Erthygl 12(3) | Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer defnydd cyfyngedig. |
Erthygl 12(4) | Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu gollwng yn fwriadol ac unrhyw GMOs eraill y mae Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddynt. |
Erthygl 13 | Methu â hysbysu Partïon o dramwyad organeddau a addaswyd yn enetig drwy eu tiriogaeth. |
[3] 2000 p.7; diwygiwyd y diffiniad o "electronic communications" yn adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.back
[4] OJ Rhif L 287 t.1, 5.11.2003.back
© Crown copyright 2005