British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 Rhif 1860 (Cy.152)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051860w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1860 (Cy.152)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
7 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
8 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn —
mae i "cwrs rhyngosod" yr ystyr a roddir i "sandwich course" yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr "y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr" ("the Student Support Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005[2] fel y'u diwygir o dro i dro, ac unrhyw reoliadau o dan adran 22 o'r Ddeddf sy'n disodli'r rheoliadau hynny gydag addasiadau neu hebddynt.
Dosbarth rhagnodedig o bersonau
3.
Y dosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o'r Ddeddf yw'r dosbarth o'r personau hynny a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr onid ydynt —
(a) yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 4(3) o'r rheoliadau hynny;
(b) yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant ar gyfer ffioedd o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 11(3) o'r rheoliadau hynny; ac
(c) yn bersonau nad ydynt, cyn neu yn ystod y flwyddyn academaidd o dan sylw, yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr mewn cysylltiad â mynychu cwrs sy'n cynnwys y flwyddyn academaidd honno.
Disgrifiad rhagnodedig o gyrsiau
4.
—(1) Y disgrifiad o gyrsiau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o Ddeddf 1998 yw cyrsiau sy'n gyrsiau dynodedig o fewn ystyr y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ac a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.
(2) At ddibenion paragraff (1) dehonglir cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yn unol ag adran 62(7) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[3].
Swm rhagnodedig
5.
—(1) O ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006, y swm rhagnodedig at ddibenion adran 26(4) yw
(a) yn achos cwrs neu flwyddyn academaidd nad ymdrinnir â hwy gan unrhyw is-baragraff arall o'r paragraff hwn, £1200;
(b) am flwyddyn olaf cwrs y gofynnir ei gwblhau fel arfer ar ôl ei fynychu am lai na 15 wythnos, £600;
(c) am flwyddyn academaidd cwrs rhyngosod pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;
(ch) am flwyddyn academaidd cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf, pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;
(d) am flwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad yng Ngymru yn llai na 10 wythnos, £600; ac
(dd) yn achos cwrs rhyngosod neu gwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfnodau astudio llawnamser mewn sefydliad yng Nghymru yn 10 wythnos neu fwy ond, o ran y flwyddyn academaidd ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o'r fath, pan fydd cyfanswm unrhyw un cyfnod o bresenoldeb neu ddau nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos, £600.
Dirymu
6.
Dirymir Rheoliadau Addysg (Ffioedd Sefydliadau Addysg Uwch) 1999[4] o ran Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi symiau'r ffi y gellir eu codi am gyrsiau mewn sefydliadau addysg uwch pan fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gosod amod ar gyllido sefydliadau o'r fath yn unol ag adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Maent hefyd yn rhagnodi'r dosbarth o bersonau a'r disgrifiad o'r cyrsiau y mae amod o dan adran 26(4) o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt.
Notes:
[1]
p. 30. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 26(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirymwyd adran 26(5) o'r Ddeddf sy'n diffinio'r "prescribed amount" fel swm hafal i fwyafswm y grant a ragnodwyd o dan adran 22(2)(b) o'r Ddeddf gydag effaith o 7 Gorffennaf 2005 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.back
[2]
O.S. 2005/52.back
[3]
p. 13back
[4]
O.S. 1999/603.back
[5]
p.38.back
English version
ISBN
0 11 091181 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
25 July 2005
|