Wedi'u gwneud | 5 Gorffennaf 2005 | ||
Yn dod i rym | 1 Medi 2005 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dirymu a darpariaeth drosiannol |
3. | Dehongli |
4. | Torri terfynau amser |
5. | Corff priodol |
6. | Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu |
7. | Sefydliadau lle ceir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu |
8. | Hyd cyfnod ymsefydlu |
9. | Cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu |
10. | Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau |
11. | Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu |
12. | Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu |
13. | Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol |
14. | Cwblhau cyfnod ymsefydlu |
15. | Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad gan y corff priodol neu'r Cyngor |
16. | Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol |
17. | Apelau |
18. | Swyddogaethau eraill y corff priodol |
19. | Taliadau |
20. | Canllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol |
ATODLEN 1 | ACHOSION LLE CEIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL HEB FOD WEDI CWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL |
ATODLEN 2 | Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL |
1. | Dehongli |
2. | Yr amser a'r dull ar gyfer apelio |
3. | Hysbysiad yr apêl |
4. | Dogfennau ychwanegol, diwygio'r apêl a'i thynnu yn ôl |
5. | Cydnabod yr apêl a rhoi gwybod amdani |
6. | Cais am ragor o ddeunydd |
7. | Ateb gan y corff priodol |
8. | Cynnwys yr ateb |
9. | Dogfennau ychwanegol, diwygio'r ateb a'i dynnu yn ôl |
10. | Cydnabod yr ateb a rhoi gwybod amdano |
11. | Pŵer i benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad |
12. | Gwrandawiad apêl |
13. | Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad |
14. | Y camau sydd i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl i'r hysbysiad am y gwrandawiad ddod i law |
15. | Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad |
16. | Y weithdrefn yn y gwrandawiad |
17. | Penderfyniad y Cyngor |
18. | Afreoleidd-dra |
19. | Dogfennau |
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu pan fydd y person hwnnw wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o —
phan fydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliad 10, cyfnod yr estyniad hwnnw.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —
Torri terfynau amser
4.
Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.
Corff priodol
5.
—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn —
(ch) y corff priodol mewn perthynas â choleg AB yw awdurdod.
(2) Ni cheir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn y canlynol —
(b) uned cyfeirio disgyblion.
(3) Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol —
(4) Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn coleg AB yng Nghymru oni bai bod corff llywodraethu'r coleg ac awdurdod wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, fod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r coleg.
(5) Ni chaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd oni bai bod penaethiaid yr holl sefydliadau wedi cytuno, cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau, p'un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae "cyfnod ymsefydlu" ("induction period") yn cynnwys rhan o gyfnod ymsefydlu.
Hyd cyfnod ymsefydlu
8.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), tri thymor ysgol fydd hyd cyfnod ymsefydlu ("y rheol tri thymor").
(2) Nid yw'r rheol tri thymor yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol —
(3) Hyd y cyfnod ymsefydlu pan nad yw'r rheol tri thymor yn gymwys yw unrhyw hyd a bennir gan y corff priodol.
Cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu
9.
—(1) Dim ond cyfnodau o gyflogaeth sydd wedi'u pennu ym mharagraff (2) ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwysedig sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.
(2) At ddibenion paragraff (1), y cyfnodau o gyflogaeth yw:
Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau
10.
—(1) Pan fydd person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn absennol o'r gwaith am gyfanswm o ddeg ar hugain neu fwy o ddiwrnodau ysgol, caiff y corff priodol ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn ôl cyfanswm cyfnod yr absenoldebau neu yn ôl unrhyw gyfnod llai sy'n briodol ym marn y corff priodol.
(2) Os caiff cyfnod ymsefydlu ei ymestyn o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr a bod y person sy'n gwasanaethu'r cyfnod ymsefydlu yn symud i gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru, mae'r cyfnod ymsefydlu i gael ei drin fel petai wedi'i ymestyn o dan y rheoliad hwn.
(3) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwn ni cheir ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn iddo gael ei gwblhau.
Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu
11.
Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 14 neu 17, ni chaiff neb wasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu.
Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu
12.
Bydd pennaeth sefydliad yng Nghymru lle mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu a'r corff priodol mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi'r person hwnnw yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
13.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y safonau yr asesir person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn eu herbyn er mwyn penderfynu a yw'r person hwnnw wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol, a caiff benderfynu ar safonau gwahanol mewn perthynas â chategorïau gwahanol o bersonau.
Cwblhau cyfnod ymsefydlu
14.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu —
(2) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu mae pennaeth y sefydliad lle cyflogir y person adeg cwblhau'r cyfnod ymsefydlu —
(3) O fewn y cyfnod o ugain diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y daeth argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) i law, rhaid i'r corff priodol benderfynu —
(4) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (3) rhaid i'r corff priodol roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd wedi dod i law oddi wrth y person o dan sylw o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2)(c).
(5) O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaeth y penderfyniad o dan baragraff (3), rhaid i'r corff priodol —
(b) os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy'n dod o fewn paragraff (3)(b) neu (c), rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person o dan sylw ynglyn â'r canlynol —
(6) Caiff hysbysiad o dan baragraff (5) gael ei roi i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, a bernir bod hysbysiad sy'n cael ei anfon drwy ddull o'r fath wedi'i roi pan fydd wedi dod i law mewn ffurf ddarllenadwy.
Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad gan y corff priodol neu'r Cyngor
15.
—(1) Mae Rheoliadau 7, 9 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn wedi iddo gael ei gwblhau drwy benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 14 neu drwy benderfyniad gan y Cyngor o dan reoliad 17 fel y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod ymsefydlu cychwynnol.
(2) Mae Rheoliadau 7, 9 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys hefyd mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn, wedi iddo gael ei gwblhau, o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr os yw'r person hwnnw wedyn yn cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru, fel y mae'r darpariaethau hynny yn gymwys mewn perthynas â chyfnod ymsefydlu cychwynnol.
Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
16.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, boed yng Nghymru ynteu yn Lloegr.
(2) Rhaid i gyflogwr person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sicrhau bod cyflogaeth y person hwnnw fel athro neu athrawes yn cael ei therfynu —
(3) Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei therfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) yn cael ei therfynu fel y bydd y terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad —
(4) Rhaid i'r cyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei therfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) yn cael ei therfynu fel y bydd y terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad pan gafodd y cyflogwr hysbysiad o ganlyniad gwrandawiad yr apêl.
(5) Nid oes rheidrwydd ar gyflogwr person —
sicrhau bod cyflogaeth person o'r fath fel athro neu athrawes yn cael ei therfynu tra arhosir am ganlyniad yr apêl, ar yr amod bod y cyflogwr yn sicrhau mai dim ond y dyletswyddau addysgu cyfyngedig y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd â hwy.
Apelau
17.
—(1) Os yw'r corff priodol yn penderfynu o dan reoliad 14 —
caiff y person hwnnw apelio at y Cyngor yn erbyn y penderfyniad.
(2) Mae gan Atodlen 2 effaith mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn.
(3) Os bydd person yn apelio yn erbyn penderfyniad i ymestyn cyfnod ymsefydlu, caiff y Cyngor —
(4) Os bydd person yn apelio yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, caiff y Cyngor —
Swyddogaethau eraill y corff priodol
18.
Caiff y corff priodol ddarparu —
mewn cysylltiad â darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth ac asesiadau ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os yw'n fodlon ei bod yn briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau a effeithiodd yn sylweddol ar allu person i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, mae corff priodol sy'n awdurdod yn cael awdurdodi person nad yw mwyach yn gallu cael ei gyflogi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr.
(3) Yn y lle cyntaf, dim ond yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'n cael ei gyflogi fel hyn gyntaf (gan unrhyw gyflogwr) y caiff person gael ei gyflogi yn athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn unol â pharagraff (2), ac ar ôl y cyfnod hwnnw dim ond os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cydsynio i awdurdodiad y corff priodol.
Taliadau
19.
Caiff corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol neu goleg AB godi tâl rhesymol (nad yw'n fwy na chost darparu'r gwasanaeth) ar gorff llywodraethu ysgol neu goleg AB y mae'n gorff priodol iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
Canllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol
20.
Rhaid i berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn roi sylw i unrhyw ganllawiau sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd ynghylch arfer y swyddogaeth honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
11.
Person sydd, mewn perthynas â phroffesiwn athrawon ysgol, yn dod o fewn Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC[18] ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol, fel y cafodd ei hymestyn gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[19] fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[20], ac fel y cafodd ei ddiwygio gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar un llaw a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002[21].
12.
Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.
13.
Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.
14.
Person sydd wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon.
15.
Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.
16.
Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Ysgolion Addysg Plant y Lluoedd yn yr Almaen neu yng Nghyprus.
17.
Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —
18.
Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —
19.
Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 12 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
20.
Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 13 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.
21.
Person y ceir ei gyflogi o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr heb fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.
22.
Person sydd —
23.
Person sydd —
Yr amser a'r dull ar gyfer apelio
2.
—(1) Mae apêl i'w gwneud drwy anfon hysbysiad apêl at y swyddog priodol fel ei fod yn dod i law o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 14(5)(a) o'r penderfyniad sy'n cael ei herio.
(2) Caiff y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1), p'un a yw eisoes wedi dod i ben neu beidio, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni bai ei fod yn fodlon y byddai peidio ag ymestyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.
(3) Os yw'r apelydd o'r farn ei bod yn debygol y daw hysbysiad apêl i law y tu allan i'r terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) ceir cyflwyno gyda hysbysiad yr apêl ddatganiad o'r rhesymau y dibynnir arnynt i gyfiawnhau'r oedi a rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath wrth benderfynu a ddylid ymestyn y terfyn amser neu beidio.
Hysbysiad yr apêl
3.
—(1) Rhaid i hysbysiad yr apêl ddatgan —
(2) Rhaid i hysbysiad yr apêl gael ei lofnodi gan yr apelydd.
(3) Rhaid i'r apelydd gynnwys copi o'r canlynol fel atodiadau i'r hysbysiad —
Dogfennau ychwanegol, diwygio'r apêl a'i thynnu yn ôl
4.
—(1) Ar unrhyw adeg cyn cael hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11, caiff yr apelydd —
(2) Ar unrhyw adeg caiff yr apelydd gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.
(3) Pan fydd apelydd yn tynnu apêl yn ôl ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â'r penderfyniad sy'n cael ei herio.
(4) Caiff apêl gael ei diwygio neu ei thynnu yn ôl drwy anfon hysbysiad apêl diwygiedig neu hysbysiad yn datgan bod yr apêl yn cael ei thynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd, at y swyddog priodol.
Cydnabod yr apêl a rhoi gwybod amdano
5.
—(1) O fewn deg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad yr apêl, rhaid i'r swyddog priodol —
(2) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor oddi wrth yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, seiliau diwygiedig dros apelio, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu'r apêl neu hysbysiad bod apêl yn cael ei thynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at y corff priodol.
Cais am ragor o ddeunydd
6.
—(1) Os yw'r Cyngor o'r farn y gellid penderfynu ar yr apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai'r apelydd yn darparu rhagor o ddeunydd, caiff anfon hysbysiad at yr apelydd sy'n gwahodd yr apelydd i gyflenwi'r deunydd o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad.
(2) Os yw'r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol ar yr un pryd hysbysu'r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.
(3) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor ragor o ddeunydd o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol anfon copi ohono at y corff priodol.
Ateb gan y corff priodol
7.
—(1) Rhaid i'r corff priodol anfon ateb at y swyddog priodol sy'n bodloni gofynion paragraff 8 fel ei fod yn dod i law o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y corff priodol gopi o hysbysiad yr apêl.
(2) Caiff y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) p'un a yw eisoes wedi dod i ben neu beidio.
(3) Rhaid i'r Cyngor ganiatáu'r apêl os yw'r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg, nad yw'n bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio, a rhaid i'r Cyngor wneud hynny o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cadarnhau'r penderfyniad sy'n cael ei herio.
Cynnwys yr ateb
8.
—(1) Rhaid i'r ateb ddatgan —
(2) Rhaid i'r corff priodol gynnwys y canlynol fel atodiadau i'r ateb —
Dogfennau ychwanegol, diwygio'r ateb a'i dynnu yn ôl
9.
—(1) Ar unrhyw adeg cyn iddo gael hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11, caiff y corff priodol —
(2) Ar unrhyw adeg caiff y corff priodol gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.
(3) Caiff ateb gael ei ddiwygio neu ei dynnu yn ôl drwy anfon ateb diwygiedig neu hysbysiad yn datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd, at y swyddog priodol.
Cydnabod yr ateb a rhoi gwybod amdano
10.
—(1) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor yr ateb, rhaid i'r swyddog priodol —
(2) O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Cyngor oddi wrth y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at yr apelydd.
Pŵer i benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad
11.
—(1) Os nad yw'r apelydd na'r corff priodol wedi gwneud cais am wrandawiad llafar ar ôl i'r cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb ddod i ben, ac nad yw'r Cyngor o'r farn bod angen gwrandawiad llafar, caiff y Cyngor benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar.
(2) Os yw'r cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb wedi dod i ben ac nad yw'r corff priodol wedi gwneud hynny, caiff y Cyngor ganiatáu'r apêl heb wrandawiad llafar.
(3) Os yw'r Cyngor yn penderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â'r gofynion ym mharagraff 17 fel bod yr hysbysiad yn dod i law'r apelydd a'r corff priodol o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser ar gyfer anfon ateb i ben.
Gwrandawiad apêl
12.
Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys os yw'r apêl i gael ei phenderfynu ar sail gwrandawiad llafar.
Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
13.
—(1) Rhaid i'r Cyngor bennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod —
(2) Ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad, rhaid i'r swyddog priodol anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad —
(3) Rhaid i'r dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad beidio â bod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.
Y camau sydd i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl i'r hysbysiad am y gwrandawiad ddod i law
14.
—(1) Heb fod yn llai na deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad mae'r apelydd a'r corff priodol —
(2) O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y daw sylwadau i law, rhaid i'r swyddog priodol anfon at y naill barti a'r llall gopi o unrhyw sylwadau a ddaeth i law'r swyddog priodol oddi wrth y parti arall o dan y paragraff hwn.
Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad
15.
—(1) Caiff y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau sydd ym marn y Cyngor yn briodol, ar yr amod nad yw'r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na'r dyddiad gwreiddiol.
(2) Os yw'r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad, rhaid i'r swyddog priodol anfon hysbysiad at yr apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o'r newid a hynny yn ddi-oed a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cafodd y newid ei wneud.
Y weithdrefn yn y gwrandawiad
16.
—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.
(2) Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai bod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.
(3) Caiff yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.
(4) Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad, caiff y Cyngor wrando'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw a phenderfynu arni, ar yr amod bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti o dan sylw o dan baragraff 14.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), caiff yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.
(6) Ar unrhyw adeg yn ystod y gwrandawiad, caiff y Cyngor gyfyngu ar hawliau'r naill barti neu'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod bod y Cyngor wedi'i fodloni na fydd gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei phenderfynu'n deg.
(7) Caiff y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn i'r apêl gael ei phenderfynu'n deg.
(8) Rhaid i amser a lleoliad gwrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad neu rhaid i'r Cyngor anfon hysbysiad at yr apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu am amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar ddyddiad y gohiriad.
Penderfyniad y Cyngor
17.
—(1) Caiff penderfyniad y Cyngor gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd y gwrandawiad, ond beth bynnag fo'r achos, p'un a fu gwrandawiad neu beidio, rhaid i'r penderfyniad gael ei gofnodi yn union wedi iddo gael ei wneud a hynny mewn dogfen y mae'n rhaid iddi gynnwys hefyd ddatganiad o'r rhesymau dros y penderfyniad ac y mae'n rhaid ei llofnodi a'i dyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.
(2) O fewn y cyfnod o bum diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaed y penderfyniad, rhaid i'r Cyngor —
Afreoleidd-dra
18.
—(1) Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.
(2) Os daw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, fe gaiff y Cyngor roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd ym marn y Cyngor yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra, a rhaid iddo wneud hynny os yw o'r farn bod y naill barti neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra.
Dogfennau
19.
—(1) Caiff unrhyw beth y mae'n ofynnol ei anfon at berson at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon —
(2) Cyfeiriad priodol person yw'r cyfeiriad sydd wedi'i ddatgan yn hysbysiad yr apêl neu'r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall a gaiff ei hysbysu wedi hynny i'r swyddog priodol.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 2003/543 (Cy.77).back
[4] O.S. 2004/872 (Cy.87).back
[5] O.S. 2004/1745 (Cy.184).back
[6] Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173).back
[11] O.S. 1999/2817 (Cy. 18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy.240) ac a ddirymwyd i raddau helaeth gan O.S. 2004/1729 (Cy.173), 2004/1744 (Cy.183) a 2004/2733 (Cy.240).back
[12] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back
[13] Y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgrynhoad) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/2897) fel y'u diwygiwyd gan O.S 2001/3938, O.S. 2002/2063 ac O.S. 2003/2148.back
[14] O.S. 2003/3231 (Cy. 311).back
[15] 1996 p.56. Mae adran 337(1) wedi'i ddiwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[17] Gweler Gorchymyn Addysg (Cymwysterau Rhagnodedig Athrawon Ysgol, etc) 2003, O.S. 2003/1709.back
[18] O.J. Rhif L19, 24.1.89, t.16.back