British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 1813 (Cy.143)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051813w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1813 (Cy.143)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2005 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118(1)(b) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003[
3] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (1)(a) yn lle'r gair "bedwerydd" rhowch y gair "drydydd", ac yn lle'r gair "bedair" yn y paragraff hwnnw ac ym mharagraff (1)(b) rhowch y gair "dair".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003. O dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i sichrau bod digon o addysg feithrin ar gael yn eu hardal ar gyfer plant o oedran arbennig. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr oedran hwnnw drwy gyfeirio at dymhorau ar ôl pen blwydd plentyn yn dair oed yn lle pen blwydd plentyn yn bedair oed.
Notes:
[1]
1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2003/893 (Cy.113).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091166 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
13 July 2005
|