British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 Rhif 1812 (Cy.142)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051812w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1812 (Cy.142)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Rhagfyr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 79 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[
1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[
2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofnodion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr "gwaith brys" ("urgent works") yw gwaith stryd, ar wahân i waith mewn argyfwng, y mae'n ofynnol ei gyflawni ar yr adeg y mae'n cael ei gyflawni (neu y mae'r person sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol ei fod yn ofynnol):—
— er mwyn osgoi neu roi terfyn ar unrhyw ymyriad annisgwyl ag unrhyw gyflenwad neu wasanaeth y mae'r ymgymerwr yn ei ddarparu; neu
— er mwyn osgoi colled sylweddol i'r ymgymerwr o ran gwasanaeth sy'n bodoli eisoes; neu
— er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr o dan atebolrwydd sifil neu droseddol pe câi'r ailgysylltu ei oedi hyd nes ar ôl i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben;
ac y mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu o'r fath waith;
ystyr "pibellau a llinellau cyswllt" ("service pipes and lines") yw cyfarpar o unrhyw hyd sy'n cyfateb i un o'r disgrifiadau a geir ym mharagraff 7(3)(a), (b) neu (c) o Atodlen 4 i'r Ddeddf; ac
ystyr "system gwybodaeth ddaearyddol" ("a geographical information system") yw system gyfrifiadurol sy'n cipio, storio, gwirio, integreiddio, trin, dadansoddi ac arddangos data sy'n ymwneud â lleoliadau gofodol.
Ffurf y cofnodion a dull eu cofnodi
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i ymgymerwr gofnodi bob eitem o gyfarpar sy'n perthyn iddo ac sy'n cael ei rhoi yn y stryd a'i chofnodi ar bapur, neu, yn ddarostyngedig i reoliad 4, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau, a rhaid i'r cofnod gael ei baratoi ar ffurf :
(a) map o'r lleoliad neu'r llwybr wedi'i gofnodi ar gefndir map, sydd:
(i) yn ymwneud â Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans, yn ddarostyngedig i baragraff (2); a
(ii) wedi'i baratoi hyd at lefel o gywirdeb sy'n cyfateb o leiaf i raddfa map gan yr Arolwg Ordnans sydd agosaf at raddfa'r cefndir map hwnnw; neu
(iii) datganiad o gyfesurynnau'r Grid Cenedlaethol sy'n deillio o system wybodaeth ddaearyddol.
(2) Dim ond i gofnodi'r map o'r lleoliad neu'r llwybr am gyfnod heb fod yn fwy na phum mlynedd o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ("y cyfnod trosiannol") y caniateir defnyddio Mapio Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans, a rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n cael eu gwneud yn y modd hwn i un o'r ffurfiau eraill a ragnodir gan baragraff (1) erbyn diwedd y cyfnod trosiannol fan bellaf.
(3) Wrth baratoi'r cofnod, rhaid cofnodi'r map o leoliad a llwybr y cyfarpar fel y bydd y safle a fesurwyd o fewn 300mm i'r gwir safle, a bydd y safle a gofnodwyd o fewn 500mm i'r gwir safle.
Cofnodion Electronig
4.
Pan fo cofnod electronig yn cael ei gadw, yn unol â rheoliad 3 uchod, rhaid bod modd ei atgynhyrchu ar ffurf sy'n ddigon darllenadwy i gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan adran 79(3) o'r Ddeddf (dyletswydd i roi cofnodion ar gael i'w harchwilio).
Eithriadau
5.
Ni fydd y ddyletswydd yn adran 79(1) o'r Ddeddf i gadw cofnod o leoliad pob eitem o gyfarpar yn gymwys:-
(a) pan fyddai cydymffurfio yn arwain at ddatgelu'r mathau canlynol o wybodaeth gyfyngedig:
(i) gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig er lles diogelwch y wlad;
(ii) gwybodaeth a ardystiwyd gan awdurdod ymgymerwr neu gyda'i awdurdod ef ei bod yn wybodaeth gyfyngedig yn unol â buddiannau masnachol yr ymgymerwr;
(b) i unrhyw gyfarpar a roddwyd gan ymgymerwr yn y stryd o fewn ei gyfarpar presennol lle y cofnodwyd lleoliad y cyfarpar presennol yn barod ar ffurf a ragnodir gan reoliad 3;
(c) i unrhyw gyfarpar a roddwyd ar y stryd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym;
(ch) i unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i ymgymerwr ac y mae'n dod o hyd iddo yn y stryd yn ystod gwaith mewn argyfwng neu waith brys y mae ef yn ei wneud;
(d) i unrhyw gyfarpar sydd heb ei osod dan ddaear; a
(dd) i bibellau a llinellau cyswllt.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf y cofnodion o gyfarpar a roddir mewn strydoedd y mae ymgymerwyr i'w cadw yn unol â darpariaethau adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn darparu bod rhaid cadw'r cofnodion hynny ar ffurf map lleoliad neu fap o'r llwybr neu ddatganiad o'r cyfesurynnau, a chânt fod un ai ar bapur, ar ffurf cofnod electronig neu gyfuniad o'r ddau (rheoliad 3). Maent yn gwneud darpariaethau ar ddefnyddio cofnodion electronig (rheoliad 4). Rhagnodir eithriadau i'r ddyletswydd i gadw cofnod mewn rhai achosion (rheoliad 5).
Notes:
[1]
1991 p.22.back
[2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091165 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
12 July 2005
|