Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 Rhif 1809 (Cy.140)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051809w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1809 (Cy.140)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
5 Gorffennaf 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(2) (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2)), 118B(9) a (10) a 119B(12) a (13) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("y Ddeddf")[
1] a pharagraffau 1(1) a (3)(b)(iv), 3(1), (2) a (3)(b), 4(1) a 6 o Atodlen 6 iddi, sef pwerau sydd bob un yn awr yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[
2], a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Priffyrdd (Ysgolion) (Gorchmynion Dileu Arbennig a Gwyro Arbennig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr "Awdurdod" yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol;
(a) gorchymyn dileu arbennig[3];
(b) gorchymyn gwyro arbennig[4]; neu
(c) gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn o fath a bennir yn (a) neu (b); ac
mae cyfeiriad at ffurf neu hysbysiad a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfeiriad at y ffurf honno neu'r hysbysiad hwnnw yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu yn y ddwy iaith) ac at ffurf neu hysbysiad sy'n sylweddol yr un fath â'r rhai a ragnodir o ran ei heffaith neu ei effaith.
Ffurfiau gorchymyn
3.
—(1) Os ymddengys i Awdurdod ei bod yn ofynnol i briffordd berthnasol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol —
(a) gael ei chau at ddiben a bennir yn adran 118B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn dileu arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;
(b) gael ei gwyro at ddiben a bennir yn adran 119B(1)(b) o'r Ddeddf gan orchymyn gwyro arbennig, rhaid i'r gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r map y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn gorchymyn fod ar raddfa nad yw'n llai nag 1/2,500 neu, os nad oes map o'r fath ar gael, fod ar y raddfa fwyaf sydd ar gael.
(3) Yn achos gorchymyn dileu arbennig, rhaid i'r map y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ddangos unrhyw lwybr amgen sy'n rhesymol gyfleus.
Hysbysiadau
4.
—(1) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 1 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â chadarnhau gorchymyn fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 2 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf mewn cysylltiad â gwneud gorchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol fod ar y ffurf a geir yn Ffurf 3 yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff 1(3)(b)(iv)[5] neu 4(1)(a)[6] o Atodlen 6 i'r Ddeddf gael ei gyflwyno, yn ychwanegol, i'r personau a ragnodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Gweithdrefn gorchmynion
5.
—(1) Rhaid bod dau gopi ar gael o orchymyn.
(2) Os cyflwynir gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gadarnhau, rhaid i'r gorchymyn a'r ail gopi gael eu hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â—
(a) dau gopi arall o'r gorchymyn;
(b) copi o'r hysbysiad a roddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c) unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sy'n ymwneud â'r gorchymyn, a wnaed yn briodol ac na chawsant eu tynnu'n ôl;
(ch) unrhyw sylwadau sydd gan yr Awdurdod ar y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau hynny; a
(d) datganiad yn nodi ar ba seiliau, ym marn yr Awdurdod, y dylid cadarnhau'r gorchymyn.
(3) Caniateir cynnal unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn dileu arbennig ar yr un pryd ag unrhyw drafodion sy'n rhagarweiniol i gadarnhau gorchymyn creu llwybr cyhoeddus[7], gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus[8], gorchymyn gwyro croesfan reilffordd[9] neu orchymyn gwyro arbennig.
(4) Ar ôl i benderfyniad i beidio â chadarnhau gorchymyn gael ei wneud, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Awdurdod, cyn gynted ag y cydymffurfir â gofynion paragraff 4(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, roi ardystiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Ar ôl i orchymyn gael ei gadarnhau, rhaid i'r Awdurdod anfon copi o'r gorchymyn, fel y'i cadarnhawyd, at yr Arolwg Ordnans.
Hawliadau am ddigollediad mewn cysylltiad â gorchmynion
6.
—(1) Rhaid i hawliad a wneir yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf (digollediad am golled a achosir gan orchymyn creu llwybr cyhoeddus), fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf[10], a hynny o ganlyniad i weithredu gorchymyn, gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Awdurdod neu, yn achos gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gyflwyno i'r Awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol, fel a ddarperir gan adran 28(3) o'r Ddeddf, a hynny drwy ei ddanfon i swyddfeydd yr Awdurdod neu'r awdurdod a enwebir gan y Cynulliad Cenedlaethol (yn ôl y digwydd), wedi'i gyfeirio at Brif Weithredwr yr awdurdod, neu drwy ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post wedi'i gyfeirio felly.
(2) Rhaid i hawliad a wneir o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y gorchymyn y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad ag ef i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
ATODLEN 1Rheoliad 3(1)(a)
FFURF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 118B
GORCHYMYN DILEU ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
[ENW'R AWDURDOD]
[ENW'R GORCHYMYN]
Gwneir y Gorchymyn hwn gan [mewnosoder enw'r Awdurdod] ("yr Awdurdod") o dan adran 118B(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") oherwydd ei bod yn ymddangos i'r Awdurdod, o ran y briffordd berthnasol [gweler troednodyn 1] a ddisgrifir yn erthygl 1 isod ("y briffordd"),—
Ymgynghorwyd â'r awdurdod heddlu [mewnosoder enw'r awdurdod heddlu] ar gyfer yr ardal lle y mae'r briffordd wedi'i lleoli fel sy'n ofynnol gan adran 118B(6) o Ddeddf 1980.
Ymgynghorwyd â'r Awdurdod[au] [mewnosoder enw(au)] fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(a) o Ddeddf 1980 [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol].
Mae Awdurdod[au] [mewnosoder enw(au)] wedi cydsynio bod y Gorchymyn yn cael ei wneud fel sy'n ofynnol gan adran 120(1A) a (2)(b) o Ddeddf 1980 [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol].
[Ymgynghorwyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol [mewnosoder enw] fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(a) o Ddeddf 1980]
[Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol [mewnosoder enw] wedi cydsynio bod y Gorchymyn yn cael ei wneud fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(b) o Ddeddf 1980] [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol]
[Ymgynghorwyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(c) o Ddeddf 1980.]
GAN Y GORCHYMYN HWN:
1.
Bydd yr hawl dramwy gyhoeddus dros y tir a leolir yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad], a ddangosir ar y map a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn â llinell drom ddi-dor ac a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei dileu, a hynny ar ôl [mewnosoder nifer] o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cadarnhau'r Gorchymyn hwn.
2.
[Mae'r ddarpariaeth(darpariaethau) a ganlyn yn gymwys er mwyn amddiffyn [mewnosoder enw ymgymerydd statudol], sef: [mewnosoder darpariaeth(au)]] [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol — gweler troednodyn 2].
[mewnosoder y dyddiad]
Llofnodwyd [mewnosoder llofnod]
[safle o fewn yr Awdurdod]
[enw'r Awdurdod]
YR ATODLEN
[Dylid disgrifio lleoliad, hyd a lled y briffordd fesul rhan, e.e. A-B, B-C ac yn y blaen, fel a ddangosir ar y map]
Y Troednodiadau
1.
Diffinnir "relevant highway" ("priffordd berthnasol") yn adran 118B(2) o Ddeddf 1980 fel —
(a) unrhyw lwybr troed, llwybr ceffylau neu gilffordd gyfyngedig;
(b) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd gyfyngedig, ac y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a phob math arall o draffig; neu
(c) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel cilffordd sydd ar agor i bob traffig,
ond nid yw'n cynnwys priffordd sy'n gefnffordd neu'n ffordd arbennig.
2.
Gweler adran 121(5) o Ddeddf 1980.
Dylid llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol.
ATODLEN 2Rheoliad 3(1)(b)
FFURF
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 119B
GORCHYMYN GWYRO ARBENNIG AR GYFER PRIFFYRDD PENODOL SY'N CROESI TIR SY'N CAEL EI FEDDIANNU AT DDIBENION YSGOL
[ENW'R AWDURDOD]
[ENW'R GORCHYMYN]
Gwneir y Gorchymyn hwn gan [mewnosoder enw'r Awdurdod] ("yr Awdurdod") o dan adran 119B(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") oherwydd ei bod yn ymddangos i'r Awdurdod, o ran y briffordd berthnasol [gweler troednodyn 1] a ddisgrifir yn erthygl 1 isod ("y briffordd"),—
(a) mai'r Awdurdod yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd;
(b) bod y briffordd yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol;
(c) ei bod yn hwylus, at ddiben amddiffyn y disgyblion neu'r staff rhag—
(i) trais neu fygythiad o drais,
(ii) harasio,
(iii) braw neu ofid sy'n deillio o weithgaredd anghyfreithlon, neu
(iv) unrhyw risg arall i'w hiechyd neu i'w diogelwch sy'n deillio o weithgaredd o'r fath,
bod llinell y briffordd, neu ran o'r llinell honno, yn cael ei gwyro; ac
(ch) ei bod, at y diben hwnnw, yn ofynnol dileu'r hawl dramwy gyhoeddus a ddisgrifir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn a chreu'r hawl dramwy gyhoeddus a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.
Ymgynghorwyd â'r awdurdod heddlu [mewnosoder enw'r awdurdod heddlu] ar gyfer yr ardal lle y mae'r briffordd wedi'i lleoli fel sy'n ofynnol gan adran 119B(6) o Ddeddf 1980.
Ymgynghorwyd â'r Awdurdod[au] [mewnosoder enw(au)] fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(a) o Ddeddf 1980 [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol].
Mae Awdurdod[au] [mewnosoder enw(au)] wedi cydsynio bod y Gorchymyn yn cael ei wneud fel sy'n ofynnol gan adran 120(1A) a (2)(b) o Ddeddf 1980 [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol].
[Ymgynghorwyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol [mewnosoder enw] fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(a) o Ddeddf 1980]
[Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol [mewnosoder enw] wedi cydsynio bod y Gorchymyn yn cael ei wneud fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(b) o Ddeddf 1980] [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol] a
[Ymgynghorwyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru fel sy'n ofynnol gan adran 120(2)(c) o Ddeddf 1980.]
GAN Y GORCHYMYN HWN:
1.
Bydd yr hawl dramwy gyhoeddus dros y tir a leolir yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad], a ddangosir â llinell drom ddi-dor ar y map a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn ac a ddisgrifir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei dileu ar ôl [mewnosoder nifer] o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cadarnhau'r Gorchymyn hwn [ond nid cyn trannoeth y dyddiad ardystio] [dileer os nad yw'n briodol — gweler troednodyn 2].
[Yn yr erthygl hon, "y dyddiad ardystio" yw'r dyddiad y bydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd newydd a grybwyllir yn erthygl 3 yn ardystio fod gwaith o'r fath wedi ei gyflawni fel sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyflwr y briffordd yn addas i'r cyhoedd ei defnyddio.] [dileer os nad yw'n briodol — gweler troednodyn 2].
2.
Mae'r ddarpariaeth (darpariaethau) a ganlyn yn gymwys ar gyfer amddiffyn [mewnosoder enw'r ymgymerydd statudol], sef [mewnosoder darpariaeth (darpariaethau)] [dylid cwblhau neu ddileu fel y bo'n briodol — gweler troednodyn 3].
3.
Ar ddiwedd cyfnod o [mewnosoder nifer] o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cadarnhau'r Gorchymyn hwn, bydd hawl dramwy gyhoeddus newydd sef [noder y math o hawl dramwy newydd — gweler troednodyn 4] dros y tir a leolir yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] ac a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen ac a ddangosir â llinell drom doredig ar y map a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn.
[4.
Mae'r hawliau a roddir i'r cyhoedd o dan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ac amodau a geir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn] [dileer os nad oes cyfyngiadau ac amodau'n cael eu pennu yn y Gorchymyn hwn].
[mewnosoder dyddiad]
Llofnodwyd [mewnosoder llofnod]
[safle o fewn yr Awdurdod]
[enw'r Awdurdod]
YR ATODLEN
RHAN
1
DISGRIFIAD O SAFLE'R BRIFFORDD BRESENNOL
[Dylid disgrifio lleoliad, hyd a lled y briffordd fesul rhan, e.e. A-B, B-C ac yn y blaen, fel a ddangosir ar y map]
RHAN
2
DISGRIFIAD O SAFLE HAWL DRAMWY GYHOEDDUS NEWYDD
[Dylid disgrifio lleoliad, hyd a lled y ffordd newydd fesul rhan, e.e. C-D, D-E ac yn y blaen, fel a ddangosir ar y map]
RHAN
3
CYFYNGIADAU AC AMODAU
[Dylid pennu unrhyw gyfyngiadau ac amodau sydd i fod yn gymwys — gweler troednodyn 5. Dileer y Rhan hon os nad oes cyfyngiadau ac amodau'n cael eu pennu yn y Gorchymyn hwn]
Y Troednodiadau
1.
Diffinnir "relevant highway" ("priffordd berthnasol") yn adran 119B(2) o Ddeddf 1980 fel—
(a) unrhyw lwybr troed, llwybr ceffylau neu gilffordd gyfyngedig;
(b) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd gyfyngedig, ac y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a phob math arall o draffig; neu
(c) unrhyw briffordd a ddangosir ar fap diffiniol ac mewn datganiad fel cilffordd sydd ar agor i bob traffig,
ond nid yw'n cynnwys priffordd sy'n gefnffordd neu'n ffordd arbennig.
2.
Gweler adran 119B(4)(b) ac (8)(b) o Ddeddf 1980.
3.
Gweler adran 121(5) o Ddeddf 1980.
4.
Dyma fydd yr hawl dramwy gyhoeddus newydd sy'n cael ei chreu—
(a) llwybr troed newydd, llwybr ceffylau newydd neu gilffordd gyfyngedig newydd o'r fath; neu
(b) mewn achos pan fydd y briffordd sy'n cael ei gwyro'n dod o fewn (b) neu (c) o droednodyn 1 uchod, priffordd newydd o'r fath y mae gan y cyhoedd hawl dramwy drosti ar gyfer cerbydau a mathau eraill o draffig,
y mae'n ymddangos i'r cyngor ei bod yn ofynnol ar gyfer gweithredu'r gwyriad (gweler adran 119B(4)(a) o Ddeddf 1980).
5.
Rhoddir y pŵer i bennu cyfyngiadau ac amodau gan adran 119B(9) o Ddeddf 1980.
Dylid llenwi'r bylchau fel y bo'n priodol.
ATODLEN 3Rheoliad 4(1) i (3)
FFURF
1
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
PWYSIG — MAE'R CYFATHREBIAD HWN YN EFFEITHIO AR EICH EIDDO [GWELER TROEDNODYN 1]
[ENW'R AWDURDOD]
[ENW'R GORCHYMYN]
[I [mewnosoder enw'r person yr anfonir yr hysbysiad hwn ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1].
Gwnaed y Gorchymyn uchod ar [mewnosoder dyddiad] o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Bydd y Gorchymyn yn [dileu][gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith o Gorchymyn].
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn, ynghyd â'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad(au)].
Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2].
[Mae digollediad am ddibrisiant yng ngwerth buddiant yn y tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, sy'n deillio o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym, yn daladwy o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno). Mae copïau o'r adrannau hyn, ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati), yn atodedig] [gweler troednodyn 1].
Gellir anfon unrhyw sylwadau ynghylch y Gorchymyn, neu unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn, yn ysgrifenedig at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad] [gweler troednodyn 3]. Os gweler yn dda, noder ar ba sail y'u gwneir.
Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau o'r fath yn briodol, neu os tynnir yn ôl unrhyw rai a wneir felly, caiff [mewnosoder enw'r Awdurdod] gadarnhau'r Gorchymyn fel gorchymyn nad oes iddo wrthwynebiad. Os anfonir y Gorchymyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gyda'r Gorchymyn.
[mewnosoder y dyddiad]
Llofnodwyd [mewnosoder llofnod]
[safle o fewn yr Awdurdod]
[enw'r Awdurdod]
Y Troednodiadau
1.
Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 1(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 neu o dan y paragraff hwnnw. Os yw paragraff 1(3)(b) o'r Atodlen honno yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn neu ei gyflwyno i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 1(4B) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
2.
Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a'r map ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol ac y gellir cael copïau o'r Gorchymyn a'r map am bris rhesymol (paragraff 1(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
3.
Ni chaniateir i'r dyddiad hwn fod yn gynharach na 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf (paragraff 1(1)(c) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol.
FFURF
2
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN [118B] [119B] AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG
PWYSIG — MAE'R CYFATHREBIAD HWN YN EFFEITHIO AR EICH EIDDO
[ENW'R AWDURDOD]
[ENW'R GORCHYMYN]
[I [mewnosoder enw'r person yr anfonir yr hysbysiad hwn ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1]
[Ar [mewnosoder dyddiad], cadarnhawyd [gydag] [heb] addasiadau, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Gorchymyn uchod, a wnaed o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980]
[Ar [mewnosoder dyddiad], cadarnhawyd heb addasiad, gan [mewnosoder enw'r Awdurdod], y Gorchymyn uchod a wnaed o dan adran [118B] [119B] o Ddeddf Priffyrdd 1980].
Effaith y Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd yw [dileu] [gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith y Gorchymyn].
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd, a'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad(au)].
Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2].
[Rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno hawlio am gael ei ddigolledu, o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno, am ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, a hynny o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn yn dod i rym, wneud hawliad yn ysgrifenedig a'i gyfeirio at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a'i gyflwyno drwy ei ddanfon, neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post, i'r cyfeiriad uchod a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad].
Mae copïau o'r adrannau hyn ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati) yn atodedig [gweler troednodyn 1].
Mae'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei dileu gan y Gorchymyn yn cael ei dileu ar ôl [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 1 o'r Gorchymyn].
Daw'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei chreu gan y Gorchymyn i fodolaeth ar ddiwedd [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 3 o'r Gorchymyn yn achos gorchymyn gwyro arbennig neu ddileu yn achos gorchymyn dileu arbennig].
Os bydd person y mae'r Gorchymyn yn ei dramgwyddo yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, a hynny ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf honno, neu ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, caiff y person hwnnw, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), wneud cais i'r Uchel Lys, a hynny o fewn chwe wythnos i [mewnosoder y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn gyntaf].
[mewnosoder y dyddiad]
Llofnodwyd [mewnosoder llofnod]
[safle o fewn yr Awdurdod]
[enw'r Awdurdod]
Y Troednodiadau
1.
Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980. Os yw paragraff 4(1)(a) o'r Atodlen honno'n ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn, neu ei gyflwyno i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
2.
Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a gadarnhawyd a'r map ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol a gellir cael copïau o'r Gorchymyn a'r map am bris rhesymol (paragraff 4(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol.
FFURF
3
DEDDF PRIFFYRDD 1980, ADRAN 120(3) AC ATODLEN 6
HYSBYSIAD YNGHYLCH GWNEUD GORCHYMYN [DILEU] [GWYRO] ARBENNIG GAN GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
PWYSIG — MAE'R CYFATHREBIAD HWN YN EFFEITHIO AR EICH EIDDO
[ENW'R GORCHYMYN]
[I [mewnosoder enw'r person y mae'r hysbysiad hwn i'w anfon ato] o [mewnosoder ei gyfeiriad] [gweler troednodyn 1].
Ar [mewnosoder y dyddiad], gwnaed y Gorchymyn uchod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 120(3) o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Effaith y Gorchymyn yw [dileu] [gwyro] yr hawl dramwy gyhoeddus [mewnosoder disgrifiad o effaith y Gorchymyn].
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn fel y'i cadarnhawyd, a'r map a gynhwysir ynddo, yn rhad ac am ddim yn [ym] [yng] [mewnosoder lleoliad] o [mewnosoder amser] a.m. hyd [mewnosoder amser] p.m. ar [mewnosoder dyddiad].
Gellir prynu yno gopïau o'r Gorchymyn a'r map am [mewnosoder swm] [gweler troednodyn 2].
[Rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno hawlio am gael ei ddigolledu, o dan adran 28 o Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y'i cymhwysir gan adran 121(2) o'r Ddeddf honno, am ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir, neu am aflonyddwch o ran ei fwynhau, a hynny o ganlyniad i'r ffaith bod y Gorchymyn yn dod i rym, wneud hawliad yn ysgrifenedig a'i gyfeirio at [mewnosoder teitl swydd y swyddog priodol ac enw a chyfeiriad yr Awdurdod] a'i gyflwyno drwy ei ddanfon, neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post, i'r cyfeiriad uchod a hynny heb fod yn hwyrach na [mewnosoder dyddiad].
Mae copïau o'r adrannau hyn ac o adran 120(3) o'r Ddeddf honno (y mae adran 121(2) yn cyfeirio ati) yn atodedig [gweler troednodyn 1].
Mae'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei dileu gan y Gorchymyn yn cael ei dileu ar ôl [dylid cwblhau'n unol â thermau erthygl 1 o'r Gorchymyn].
Daw'r hawl dramwy gyhoeddus a gaiff ei chreu gan y Gorchymyn i fodolaeth ar ddiwedd [dylid cwblhau'n unol â thelerau erthygl 3 o'r Gorchymyn yn achos gorchymyn gwyro arbennig neu ddileu yn achos gorchymyn dileu arbennig].
Os bydd unrhyw berson y mae'r Gorchymyn yn ei dramgwyddo yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, a hynny ar y sail nad yw o fewn pwerau Deddf Priffyrdd 1980, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf honno, neu ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani, caiff y person hwnnw, o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno), wneud cais i'r Uchel Lys, a hynny o fewn chwe wythnos i [mewnosoder y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn gyntaf].
[mewnosoder y dyddiad]
Llofnodwyd [mewnosoder llofnod]
Awdurdodwyd i lofnodi ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Troednodiadau
1.
Mewnosoder yn unig mewn hysbysiadau sydd i'w cyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980. Os yw paragraff 4(1)(a) o'r Atodlen honno'n ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad hwn gael ei gyflwyno i berchennog, meddiannydd neu lesddeiliad tir yr effeithir arno gan y Gorchymyn, neu i bersonau penodol eraill, rhaid cynnwys copi o'r Gorchymyn hwnnw gyda'r hysbysiad hwn (paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
2.
Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod y Gorchymyn a gadarnhawyd a'r map ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol. Ni chaniateir codi tâl uwch na thâl rhesymol am gopïau (paragraff 4(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980).
Dylid dileu'r dewisiadau mewn cromfachau sgwâr a llenwi'r bylchau fel y bo'n briodol.
ATODLEN 4Rheoliad 4(4)
PERSONAU YCHWANEGOL Y MAE HYSBYSIAD O ORCHMYNION I'W GYFLWYNO IDDYNT
ACU Motorcycling GB
Yr awdurdod sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r Gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
British Horse Society
Byways and Bridleways Trust
Cyclists Touring Club
Open Spaces Society
Cymdeithas y Cerddwyr
Cynghorau tref a chynghorau cymuned ar gyfer yr ardal lle y mae'r tir y mae'r gorchymyn yn ymwneud ag ef wedi'i leoli
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mewnosodwyd adrannau 118B a 119B o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn y drefn honno. Maent yn galluogi gorchmynion i gael eu gwneud i gau (drwy gyfrwng "gorchymyn dileu arbennig") a gwyro (drwy gyfrwng "gorchymyn gwyro arbennig") briffyrdd penodol at ddibenion atal troseddu neu er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff ysgolion.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Gorffennaf 2005, yn rhagnodi'r ffurfiau a'r hysbysiadau, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn, ar gyfer gorchmynion dileu arbennig a gorchmynion gwyro arbennig sy'n ymwneud â phriffyrdd sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol, ac sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn disgyblion neu staff. Bydd cymhwyso'r mathau hyn o orchmynion at ddibenion atal troseddu yn dod yn weithredol yn nes ymlaen.
Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 a 2 yn rhagnodi ffurf gorchymyn dileu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig yn y drefn honno.
Mae rheoliad 4(1) i (3) ac Atodlen 3 yn rhagnodi ffurf yr hysbysiadau sydd—
(a) i'w rhoi unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan yr awdurdod priffyrdd perthnasol;
(b) i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i gadarnhau; ac
(c) i'w cyflwyno unwaith y bydd gorchymyn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 4(4) ac Atodlen 4 yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'r hysbysiadau a bennir yn y rheoliad hwnnw i'w cyflwyno iddynt.
Mae rheoliad 5 yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth gyflwyno ac wrth gadarnhau'r gorchmynion.
Mae rheoliad 6 yn rhagnodi'r gofynion o ran cyflwyno hawliadau am ddigollediad o dan adran 28 o Ddeddf 1980 a hynny am ddibrisiant neu aflonyddwch a ddaw yn sgil gorchymyn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw hawliad o'r fath i'w gyflwyno fel ei fod yn dod i law o fewn 6 mis i'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym.
Notes:
[1]
1980 p.66; mewnosodwyd adrannau 118B a 119B gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); diwygiwyd adran 121(2) gan baragraff 14(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37); gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 gan baragraff 23 o Atodlen 6 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i hestynnwyd gan adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back
[3]
Gweler adran 118B(5) o'r Ddeddf.back
[4]
Gweler adran 119B(5) o'r Ddeddf.back
[5]
Amnewidiwyd paragraff 1(3)(b) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), Atodlen 16, paragraff 6.back
[6]
Amnewidiwyd paragraff 4(1)(a) gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Atodlen 16, paragraff 8.back
[7]
Gweler adran 26(1) o'r Ddeddf.back
[8]
Gweler adran 119(1) o'r Ddeddf.back
[9]
Gweler adran 119A(3) o'r Ddeddf.back
[10]
Diwygiwyd adran 121(2) o'r Ddeddf gan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p.42), Atodlen 2, paragraff 6 a chan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), Atodlen 6, paragraff 14.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091182 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
26 July 2005
|