British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1723 (Cy.135)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051723w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1723 (Cy.135)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
28 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988[
2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2.
Diwygier rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongliad) fel a ganlyn—
(a) ar ôl y diffiniad o "the Act" mewnosoder—
"
"annuity contract" means a contract that provides for periodic payments starting from a stated or contingent date and continuing for a fixed period or for the life of the annuity;";
(b) ar ôl y diffiniad o "care home" mewnosoder—
"
"child" means a person under the age of 16 years;";
(c) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
"
"couple" has the meaning given in section 137 of the Social Security Contributions and Benefits Act 1992[3];";
(ch) ar ôl y diffiniad o "date of claim" mewnosoder—
"
"dependent child or young person" means any child or young person who is treated as the responsibility of the claimant or the claimant's partner, where that child or young person is a member of the claimant's household;";
(d) ar ôl y diffiniad o "disability element" mewnosoder—
"
"earnings" has the meaning given in regulations 35 and 37 of the Income Support Regulations;";
(dd) ar ôl y diffiniad o "full rate" mewnosoder—
"
"full time student" has the meaning given in regulation 61 of the Income Support Regulations;";
(e) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
"
"the Income Support Regulations" means the Income Support (General Regulations) 1987[4];";
(ff) ar ôl y diffiniad o "NHS trust" mewnosoder—
"
"occupational pension scheme" has the meaning given by section 1 of the Pension Schemes Act 1993[5];";
(g) ar ôl y diffiniad o "pension credit savings credit" mewnosoder—
"
"single person" means a person who does not have a partner and is not responsible for, and is not a member of the same household as, a child or young person;";
(h) ar ôl y diffiniad o "standard rate" mewnosoder—
"
"State Pension Credit Regulations" means the State Pension Credit Regulations 2002[7];";
(i) yn y diffiniad o "trade dispute" yn lle'r geiriau "the Social Security Act 1975" rhodder "section 35(1) of the Jobseekers Act 1995[8];"; a
(j) ar ôl y diffiniad o "working tax credit" mewnosoder—
"
"young person" has the meaning prescribed in regulation 14 of the Income Support Regulations;".
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 4(2)(e) o'r prif Reoliadau (personau â hawl i beidio â thalu dim a thaliad llawn) yn lle "£14,600" rhodder "£15,050".
Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
4.
Yn rheoliad 6(2)(b) o'r prif Reoliadau (cyfrifo adnoddau a gofynion) yn lle'r geiriau "at the date when he paid the relevant charge or travelling expenses" rhodder "at the date when the relevant charges or travelling expenses are paid in full".
Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau
5.
—(1) Diwygier rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ar ôl paragraff (6)(d) mewnosoder—
"
(e) in the case of a notice issued to a person described in paragraph (6B) it is valid for the length of time prescribed in that paragraph.".
(3) Ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
"
(6B) A notice of entitlement issued under paragraph (4) is valid for 5 years beginning on the date when the claimant is—
(a) a single person aged not less than 65 years; or
(b) one of a couple where one partner is aged not less than 60 years and one partner is aged not less than 65 years,
who does not receive any—
(i) earnings;
(ii) payments from an occupational pension scheme;
(iii) payments from any personal pension scheme; or
(iv) payments from an annuity contract.
(6C) Paragraph (6B) does not apply to a person who has a dependent child or a young person as a member of his or her household.".
(4) Ym mharagraff (7) yn lle'r geiriau "paragraph (8)" rhodder "paragraphs (7A), (8), (9) and (10)".
(5) Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—
"
(7A) A claimant to whom is issued a notice of entitlement which falls under paragraph (6B) must notify the National Assembly for Wales of any change in the composition of his or her family or household during the life of the notice of entitlement and the National Assembly for Wales may withdraw the notice of entitlement, or, where the claimant is entitled to partial remission or payment, vary the amounts that have been specified on the notice in accordance with paragraph (5) if the claimant no longer meets the requirements of paragraphs (6B) and (6C).".
(6) Ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
"
(9) A claimant to whom a notice of entitlement has been issued under this regulation must return it to the National Assembly for Wales in any case where the claim is subsequently found to have been based on a false representation.
(10) A notice of entitlement issued under this regulation is effective only for the purpose of entitlement to remission of relevant charges or payment of relevant travelling expenses in accordance with these Regulations.".
Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
6.
—(1) Diwygier Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (cyfrifo adnoddau) fel a ganlyn.
(2) Diwygier Tabl A (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn—
(a) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 38 hepgorer y cofnod sy'n ymwneud â pharagraffau (5), (6), (7) ac (8);
(b) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 41 yn lle'r geiriau "subsequent review" rhodder "the date of that supersession";
(c) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 44 yn lle'r geiriau "subsequent review" rhodder "the date of that supersession";
(ch) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 45—
(i) yn lle "£20,000" rhodder "£21,000", a
(ii) yn lle "£12,250" rhodder " £14,750";
(d) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 49 yn lle'r geiriau "subsequent review" rhodder "date of that supersession";
(dd) Yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 53—
(i) yn lle "£12,250" rhodder "£14,750", a
(ii) yn lle "£20,000" rhodder "£21,000";
(e) yn lle'r cofnod sy'n addasu rheoliad 61 rhodder—
"regulation 61 |
In paragraph (1) in the definition of "academic year" after "September" insert ", or 1st August in the case of student attending a course in Scotland"."; |
(f) hepgorer y cofnodion sy'n addasu rheoliadau 62(3A), 63(2) a 64(1)(c);
(ff) yn y cofnod sy'n addasu rheoliad 66A hepgorer y geiriau "As if in paragraph (3)" hyd at "the reference "(1) to (2C)".";
(g) yn y cofnod sy'n addasu Atodlen 8—
(i) hepgorer y cofnod sy'n dechrau "In paragraph 4(2)" ,
(ii) yn y man priodol yn nhrefn y Rhif au mewnosoder y cofnod canlynol—
"
“For paragraph 4(3) substitute the following paragraph—
(3) This paragraph applies where—
(a) the claimant is aged not less than 60 years; or
(b) the claimant is a member of a couple, where at least one partner is aged not less than 60 years”.",
(iii) yn lle'r geiriau "As if sub-paragraphs (3), (4), (5), (6) and (7) of paragraph 4 were omitted" rhodder " In paragraph 4 omit sub-paragraph (3)”. " ,
(iv) hepgorer y cofnod sy'n addasu paragraff 5, a
(v) yn lle'r cofnod sy'n diwygio paragraff 7 rhodder—
"
In paragraph 7 for the words " 4 to 6B" substitute "none of paragraphs 4 or 5 or 6A or 6B".".
Diwygio Rhan II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
7.
—(1) Diwygier Rhan II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Cyfrifo gofynion) fel a ganlyn.
(2) Diwygier Tabl B (addasu darpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan II o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y paragraff hwn—
(a) yn lle'r cofnod sy'n addasu rheoliad 17— rhodder y canlynol—
"Regulation 17 |
In paragraph (1) for the words from "18 to 22A" to "urgent cases" substitute "18, 19A and 21".
Omit paragraphs (1)(bb) and (g).
In paragraph (1)(e) omit the words "mortgage interest payments or" and "other".";
|
(b) yn y cofnod sy'n addasu Atodlen 2—
(i) Yn y cofnod sy'n dechrau “In Column (1) for the words "(1) Single person aged not less than 25" hyd at "Couple" rhodder —
"
(1) Single person aged not less than 25;
(2) Single person or lone parent aged not less than 60;
(3) Lone parent aged 60 or less;
(4) Single person aged less than 25;
(5) Couple;
(6) Couple where at least one partner is aged not less than 60.";
(ii) yn y cofnod sy'n dechrau "In Column (2) of the Table"—
(aa) yn is-baragraff (b) yn lle "paragraph(1)(e) of column (2) in the unmodified regulations" rhodder "regulation 6(1)(b) of the State Pension Credit Regulations",
(bb) yn is-baragraff (c) yn lle "(1)(b)" rhodder "(1)(e)",
(cc) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
"
(e) against sub-paragraph (5) of column (1), the amount prescribed in paragraph (3)(d) of column (2) in the unmodified regulations.
(f) against sub-paragraph (6) of column (1), the amount prescribed in regulation 6(1)(a) of the State Pension Credit Regulations.",
(iii) yn lle'r geiriau "As if paragraph 9A(b) were omitted" rhodder "As if paragraphs 9 and 10 were omitted." ,
(iv) hepgorer y geiriau o "As if for paragraph 10 there were substituted" hyd at y geiriau "12(1)(a), (b) or (c).” " ,
(v) ar ôl y cofnod sy'n addasu is-baragraff (b) o baragraff (11) mewnosoder—
"
In the cross heading relating to paragraph 12, omit "Higher Pensioner and"." ,
(vi) hepgorer y cofnod sy'n addasu paragraff 12(1)(c)(i) ,
(vii) ar ôl y cofnod sy'n addasu paragraffau 12(1)(c) a (4) mewnosoder—
"
In paragraph 12(1)(d)(ii) delete "higher pensioner premium or"." ,
(c) yn y cofnod sy'n addasu paragraff 3 o Atodlen 3, hepgorer is-baragraff (b);
(ch) yn y cofnod sy'n addasu Atodlen 7—
(i) hepgorer y geiriau o "In column (2) of paragraph 1" hyd at "sub-paragraph (h) of regulation 18(1).", a
(ii) yn y cofnod sy'n ymwneud â pharagraff 10ZA a fewnosodwyd, yn lle'r geiriau "lone parent premium and family premium under paragraph 8 of Schedule 2" rhodder "family premium under paragraph 3 of Schedule 2”.".
Darpariaeth drosiannol
8.
Ni ddyroddir hysbysiad o hawl sy'n dod o fewn rheoliad 7(6B) ond yn unig o ran hawliad a wnaed o dan reoliad 7 (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad) a dderbynnir ar neu ar ôl 15 Gorffennaf 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ("GIG") ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.
Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.
O ran hawl personau eraill nad oes ganddynt hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio, cyfrifir yr hawl yn unol â'r darpariaethau sydd yn y prif Reoliadau. Mewn achosion o'r fath, cyfrifir incwm, cyfalaf a gofynion yr hawlydd (a rhai teulu'r person hwnnw, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.
Mae rheoliadau 4 a 6 yn diwygio'r prif Reoliadau i gynyddu'r symiau a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i beidio â thalu taliadau'r GIG a chael taliadau treuliau teithio.
Mae rheoliad 5 yn estyn i 5 mlynedd gyfnod dilysu hysbysiad o hawl i beidio â thalu a chael taliadau treuliau teithio pan ddyroddir yr hysbysiad i berson sengl 65 oed neu drosodd, neu i un o gwpl pan fo un partner yn 60 oed neu drosodd a bod y partner arall yn 65 oed neu drosodd pan nad oes gan yr hawlydd fathau penodol o incwm neu blentyn dibynnol neu bobl ifanc ar eu haelwyd.
Mae'r diwygiadau a wneir yn rheoliad 6 yn darparu bod yr enillion a ddiystyrir ac a nodir yn Atodlen 8 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 i'w cymhwyso i berson sengl 60 oed neu drosodd ac i gwpl pan fo un neu ddau o'r partïon yn 60 oed neu drosodd. Yn ychwanegol, caiff y rhieni unigol hynny sy'n 60 oed neu drosodd eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r symiau a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 a chaiff y rhieni unigol hynny o dan 60 eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r swm a ragnodwyd ac a bennir yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Notes:
[1]
1977 p.49 ("Deddf 1977"); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49); gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).
Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.17) ("Deddf 199").
Gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5); gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (p.15), adran 68(1); gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran197(1).back
[2]
O.S. 1988/551back
[3]
1992 p.4.back
[4]
O.S. 1987/1967back
[5]
1993 p.48back
[6]
1993 p.49back
[7]
O.S. 2002/1792back
[8]
1995 p.18back
[9]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091161 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
5 July 2005
|