British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 Rhif 1722 (Cy.134)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051722w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1722 (Cy.134)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
28 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
15 Gorffennaf 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[
1]:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" ("
2003 Regulations") yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003[
2].
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
2.
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —
"
mae i "partner sifil" yr ystyr a roddir i "civil partner" yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004[3]".
3.
Mewnosodir y geiriau "yn bartner sifil," ar ôl y geiriau "yn briod," yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
4.
Rhodder y testun a ganlyn yn lle rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 —
"
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel a nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol, oni bai bod y person hwnnw yn cael budd-daliadau neu lwfansau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ei fod yn ddibynnydd person o'r fath."
5.
Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005
ATODLENRheoliad 4
ATODLEN NEWYDD I REOLIADAU CYFRIFON DYSGU UNIGOL CYMRU 2003
"
ATODLENRheoliad 4(5)
BUDD-DALIADAU NEU LWFANSAU CYMWYS
1.
Budd-dal Treth Gyngor
2.
Budd-dal Tai
3.
Cymhorthdal Incwm
4.
Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm)
5.
Credyd Pensiwn (Cynilion)
6.
Credyd Pensiwn (Gwarant)
7.
Credyd Treth Gwaith."
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 ("Rheoliadau 2003") yn y ddwy ffordd ganlynol.
Mewnosodir y term "partner sifil" yn Rheoliadau 2003. O ganlyniad i hynny, mae partner sifil yn gyfartal â phriod, plentyn neu lysblentyn o ran cymhwyster o dan reoliad 4 o Reoliadau 2003. Diffinnir "civil partner" yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.
Diwygir rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 i wneud personau sy'n cael budd-daliadau neu lwfansau penodedig, neu'u dibynyddion, yn gymwys i gael Cyfrif Dysgu Unigol Cymru, ni waeth pa lefel o addysg y maent wedi'i chyrraedd. Mewnosodir Atodlen yn Rheoliadau 2003 sy'n pennu pa fudd-daliadau a lwfansau sy'n gymwys.
Notes:
[1]
2000 p.21.back
[2]
O.S. 2003/918 (Cy.119).back
[3]
2004 p.33.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091160 1
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
5 July 2005
|