British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 1648 (Cy.129)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051648w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1648 (Cy.129)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'i wneud |
21 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2005 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[
1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) (Diwygio) 2005 ac fe ddaw i rym ar 30 Mehefin 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004
2.
Ychwaneger at y rhestr o gyrff yn Adran 1, Rhan I o'r Atodlen i Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004[
3] y cyrff canlynol (yn eu lle priodol yn ôl trefn yr wyddor), sef cyrff sy'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn dod o dan adran 216(3) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988:
(1) Kensington College of Business;
(2) London City College;
(3) School of Technology and Management[
4].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu tri chorff at y cyrff sy'n cael eu rhestru yn Adran 1, Rhan 1 o'r Atodlen i Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Rhestru) (Cymru) 2004. Nid yw corff sy'n cael ei restru felly yn gorff cydnabyddedig o fewn adran 216(4) o Ddeddf Diwygio Addysg 1998 ond yn un y mae'n ymdddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod naill ai
(a) yn darparu cwrs sy'n baratoad at radd sydd i'w rhoi gan gorff cydnabyddedig o'r fath ac a gymeradwyir gan y corff hwnnw neu ar ran y corff hwnnw; neu
(b) yn goleg, ysgol, neuadd neu sefydliad prifysgol arall sy'n gorff cydnabyddedig o'r fath.
Ystyr "cyrff cydnabyddedig" yw prifysgolion, colegau neu gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau a chyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau.
Notes:
[1]
1988 p.40.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2004/3095 (Cy.269).back
[4]
Is-adran o London School of Commerce.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091156 3
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
28 June 2005
|