British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1628 (Cy.122)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051628w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1628 (Cy.122)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
14 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
24 Mehefin 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
2], ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005;
(b) deuant i rym ar 24 Mehefin 2005; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[4] yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o "Directive 95/45/EC"[5], yn lle'r geiriau "and Directive 2001/50/EC" rhodder y geiriau —
"
Directive 2001/50/EC[6] and Directive 2004/47/EC[7]".
(3) Yn rheoliad 13 (darpariaeth drosiannol ac esemptiad) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff canlynol —
"
(1A) In any proceedings for an offence against these Regulations it is a defence to prove that —
(a) the colour or food which is the subject of the allegation was put on the market or labelled before 1 April 2005; and
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations as they stood immediately before the coming into force of the Colours in Food (Amendment) (Wales) Regulations 2005.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC[
9] sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC[
10]. Maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio ymhellach Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[
11]. Mae'r Rheoliadau yn—
(a) darparu meini prawf purdeb diwygiedig ar gyfer carotenau cymysg E160 a (i) a beta-caroten E160 a (ii) (rheoliad 2(2));
(b) mewnosod darpariaeth amddiffyn drosiannol ar gyfer cynhyrchion a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 1 Ebrill 2005 sydd fel arall yn cydymffurfio â Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, er mwyn caniatáu i stociau cyfredol gael eu dihysbyddu (rheoliad 2(3)).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4). Yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Diwygio) 2004 (O.S. Rhif 2004/2990), gydag effaith o 7 Rhagfyr 2004 ymlaen datgymhwysir y gofyniad i ymgynghori a geir yn adran 48(4) o Ddeddf 1990 mewn unrhyw achos pan fo ymgynghori yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.back
[4]
O.S. 1995/3124, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back
[5]
Diwygiwyd y diffiniad o "Directive 95/45/EC" gan O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back
[6]
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/50/EC 3 Gorffennaf 2001 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.14).back
[7]
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC 16 Ebrill 2004 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC o ran carotenau cymysg (E160 a (i)) a beta-caroten (E160 a (ii)) (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24).back
[8]
1998 p.38.back
[9]
OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.back
[10]
Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC 26 Gorffennaf 1995 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L226, 22.9.1995, t.1).back
[11]
O.S. 1995/3124, y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2000/1799 (Cy.124) ac O.S. 2001/3909 (Cy.321).back
English version
ISBN
0 11 091151 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
21 June 2005
|