Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 Rhif 1514 (Cy.118)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051514w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1514 (Cy.118)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
7 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Rhagfyr 2005 | |
RHAN 1
CYFFREDINOL
RHAN 2
DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR
RHAN 3
CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU
RHAN 4
DULL RHEOLI ASIANTAETHAU
RHAN 5
MATERION AMRYWIOL
YR ATODLENNI
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b), 9(1)(b) a (3), 10(1), (3) a (4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 [
1] ac adrannau 22, 25(1), 34(1), 35(1) a 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [
2] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000[3];
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002[4];
mae "gwasanaethau cymorth mabwysiadu" ("adoption support services") i'w ddehongli yn unol â rheoliad 2(2);
ystyr "plentyn mabwysiadol" ("adoptive child") yw plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr "Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)" ("the Adoption Agencies (Wales) Regulations") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005[5];
ystyr "rhiant mabwysiadol" ("adoptive parent") yw person:
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;
(c) sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn;
(ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu
(d) sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;
ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "asiantaeth" ("agency") yw asiantaeth cymorth mabwysiadu;
ystyr "awdurdod cofrestru" ("registration authority") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforaethol;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr "bank holiday" yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[6];
ystyr "gwrthrych" ("subject"), o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) yw person y mae'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth yn ceisio cysylltu ag ef neu'n ceisio gwybodaeth amdano;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), o ran asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth honno;
ystyr "person perthynol" ("related person") yw -
(a) perthynas o fewn ystyr "relative" yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu
(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr "plentyn" ("child") yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr "plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth" ("agency adoptive child") yw plentyn -
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu amdano yn unol â rheoliad 19(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) ei fod yn blentyn y dylid ei leoli i'w fabwysiadu;
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu
(c) sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr "plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth" ("non-agency adoptive child") yw plentyn -
(a) y mae person -
(i) wedi hysbysu am y plentyn hwnnw o'i fwriad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a
(ii) yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu
(b) sydd wedi'i fabwysiadu gan berson -
(i) nad yw'n rhiant naturiol y plentyn; a
(ii) nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn
ond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth; a
rhaid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 5(2).
(5) Yn y Rheoliadau hyn -
(a) mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol o ran y person hwnnw;
(b) mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw;
(c) mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu -
(i) yn gyfeiriadau at y plentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;
(ii) yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;
(ch) mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu
2.
- (1) Ni chaniateir i unrhyw gais am gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gael ei wneud o ran asiantaeth cymorth mabwysiadu sy'n gorff anghorfforedig.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ac adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffiniad o "adoption support services"), mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u rhagnodi -
(a) cymorth i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol, neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;
(b) gwasanaethau y gellir eu darparu mewn cysylltiad ag anghenion therapiwtig y plentyn o ran y mabwysiadu hwnnw;
(c) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'r rhiant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn ac sy'n codi o'r mabwysiad hwnnw;
(ch) cymorth pan fo tarfu ar drefniant mabwysiadu neu leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd, gan gynnwys:
(i) cyfryngu; a
(ii) trefnu a rhedeg cyfarfodydd i drafod achosion tarfu ar fabwysiadu neu leoli;
(d) cymorth i bersonau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth ynglyn â'u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau;
(dd) cymorth i berthnasau personau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed, i gael gwybodaeth ynglyn â'r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'r person a fabwysiadwyd.
(3) At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.
Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
3.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan -
(a) unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth;
(b) unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth;
(c) unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(ch) unrhyw awdurdod lleol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys -
(a) crynodeb o ddatganiad o ddiben yr asiantaeth;
(b) crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 19(1); ac
(c) cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
(5) Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r awdurdod cofrestru, i unrhyw oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rheoli bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.
(8) Ni fydd dim ym mharagraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i fynd yn groes i, neu i beidio â chydymffurfio ag -
(a) unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b) unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r darparydd cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
4.
Rhaid i'r person cofrestredig -
(a) cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant, a phan fo'n briodol, eu hadolygu;
(b) hysbysu'r awdurdod cofrestru o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 o ddiwrnodau; ac
(c) os adolygir yr arweiniad plant, darparu copi i bob oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.
RHAN 2
DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
5.
- (1) Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth -
(a) oni bai ei fod wedi hysbysu'r awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr unigolyn cyfrifol") yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff hwnnw ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth; a
(b) oni bai bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw -
(a) bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i redeg yr asiantaeth;
(b) ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Penodi rheolwr
6.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel 'y rheolwr cofrestredig') i reoli'r asiantaeth.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol -
(a) enw unrhyw berson a benodir yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b) y dyddiad y daw'r penodiad yn effeithiol.
Ffitrwydd y rheolwr
7.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig beidio â chaniatáu i berson reoli'r asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai -
(a) ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b) o ystyried maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth -
(i) bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol
8.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, wedi iddynt ystyried -
(a) maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth; a
(b) yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles y rhai sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth,
redeg neu reoli'r asiantaeth â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod y rheolwr cofrestredig yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.
Hysbysu tramgwyddau
9.
- (1) Pan fo'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol -
(a) dyddiad a lle'r gollfarn;
(b) y tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohoni;
(c) y gosb a osodwyd am y tramgwydd.
RHAN 3
CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU
Cymhwysiad y darpariaethau
10.
Dim ond i asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) y mae'r darpariaethau canlynol a gynhwysir yn y Rhan hon yn gymwys.
Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol
11.
- (1) Nid yw'n ofynnol i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) ddechrau darparu gwasanaethau o'r fath, neu ar ôl iddi ddechrau darparu'r gwasanaethau hynny, nid yw'n ofynnol iddi barhau i'w darparu os yw'r asiantaeth o'r farn na fyddai'n briodol iddi wneud hynny.
(2) Wrth benderfynu a yw'n briodol iddi ddarparu'r gwasanaethau hynny (neu ddechrau darparu'r gwasanaethau o'r fath), rhaid i'r asiantaeth roi sylw i'r canlynol:
(a) lles y person a fabwysiadwyd sy'n gofyn am y gwasanaeth;
(b) lles y perthynas sy'n gofyn am y gwasanaeth;
(c) unrhyw feto a gofnodwyd o dan reoliad 13;
(ch) unrhyw wybodaeth a ddelir gan y Cofrestrydd Cyffredinol ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;
a holl amgylchiadau eraill yr achos.
(3) Rhaid i asiantaeth beidio â dechrau darparu gwasanaethau i berson a fabwysiadwyd nac i berthynas i'w cynorthwyo i gysylltu â pherson sydd o dan 18 oed, na pharhau i ddarparu gwasanaethau o'r fath -
(a) oni bai bod amgylchiadau eithriadol, a
(b) oni chydymffurfir â darpariaethau paragraff (4).
(4) Rhaid i asiantaeth beidio â bwrw ymlaen â darparu gwasanaethau o'r math y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) oni bai -
(a) bod person gyda chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio, a
(b) bod naill ai
(i) y plentyn, a hwnnw'n blentyn sy'n gymwys i gydsynio, wedi cydsynio, neu
(ii) unrhyw ddymuniadau neu deimladau gan blentyn nad yw'n gymwys wedi'u cymryd i ystyriaeth.
Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad etc
12.
- (1) Rhaid i asiantaeth beidio â datgelu unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych i'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth honno heb sicrhau cydsyniad y gwrthrych.
(2) Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y gwrthrych ddigon o wybodaeth i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.
(3) Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os bydd yr asiantaeth yn penderfynu ei fod yn analluog i gydsynio, caiff yr asiantaeth ddatgelu'r wybodaeth adnabod am y gwrthrych sy'n briodol o ystyried lles y rhai y gallai'r datgeliad effeithio ar eu lles a chaniateir i'r broses hon gynnwys dod o hyd i farn y personau hynny.
(4) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 14, ystyr "gwybodaeth adnabod" yw gwybodaeth a fyddai'n galluogi o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall a feddir gan y person sy'n gofyn amdani, i'r gwrthrych gael ei adnabod a'i olrhain.
Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas
13.
- (1) Mae feto yn gymwys ynglyn â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2) (d) neu (dd) -
(a) os y person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; neu
(b) os perthynas i'r person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; ac
(c) os yw'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth yn ysgrifenedig -
(i) nad yw'n dymuno i'r asiantaeth gysylltu ag ef; neu
(ii) mai dim ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig y mae'n dymuno cael cyswllt.
(2) Pan fo'r asiantaeth yn cael ei hysbysu o feto o dan baragraff (1), rhaid iddi gadw cofnod ohono.
(3) Pan fo asiantaeth yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.
Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad yn cael ei wrthod etc
14.
Pan fo cais am gydsyniad y gwrthrych yn cael ei wrthod neu pan na ellir ei gael o dan reoliad 12 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 13, ni fydd dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod ond sy'n wybodaeth y mae'r asiantaeth yn barnu ei bod yn briodol ei datgelu i'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas a wnaeth y cais.
Cwnsela
15.
- (1) Rhaid i asiantaeth ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynglyn ag argaeledd cwnsela i unrhyw berson sydd -
(a) yn gwneud cais am wasanaethau cymorth mabwysiadu o dan Reoliadau 2(2)(d) neu (dd); neu
(b) yn wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried a ddylai gydsynio â datgelu gwybodaeth amdano i'r person a ofynnodd am yr wybodaeth honno.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys -
(a) disgrifiadau o'r personau sy'n cynnig cwnsela; a
(b) y ffioedd y gall y personau hynny eu codi.
(3) Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
(4) Caiff yr asiantaeth ddarparu gwasanaethau cwnsela o'r fath ei hun neu wneud trefniadau naill ai
(a) gyda darparydd cofrestredig arall sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, neu
(b) gyda pherson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath o dan gontract i ddarparydd cofrestredig.
(5) Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad.
RHAN 4
DULL RHEOLI ASIANTAETHAU
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
16.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sydd -
(a) wedi'i fwriadu i amddiffyn plant sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a
(b) yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.
(2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer -
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "ymholiadau amddiffyn plant" yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan Ddeddf Plant 1989[7] ynglyn ag amddiffyn plant.
Darparu gwasanaethau
17.
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu a ddarperir i unrhyw berson fel rhan o asesiad awdurdod lleol yn briodol i'r angen am wasanaethau o'r fath fel y'i nodir drwy'r asesiad hwnnw a gynhelir gan awdurdod lleol.
Cofnodion ynglyn â gwasanaethau
18.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion canlynol a'u cadw'n gyfoes, gan ddangos ar gyfer pob person y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo -
(a) enw llawn;
(b) dyddiad geni;
(c) a yw'r person:
(i) yn blentyn y caniateir ei fabwysiadu, yn rhiant neu'n warcheidwad iddo;
(ii) yn berson sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;
(iii) yn berson sydd wedi'i fabwysiadu, ei riant, rhiant naturiol, cyn warcheidwad neu'n berson perthynol;
(ch) disgrifiad o'r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt;
(d) disgrifiad o'r anghenion fel y'u haseswyd gan awdurdod lleol;
(dd) disgrifiad o'r gwasanaethau a ddarparwyd;
(e) a yw'r gwasanaethau yn cael eu darparu ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wnaed o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002.
(2) Rhaid i'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) gael eu cadw am o leiaf bymtheg a thrigain o flynyddoedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.
Cwynion
19.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ysgrifenedig (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y weithdrefn gwynion") ar gyfer ystyried cwynion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson sydd wedi gofyn am wasanaethau cymorth mabwysiadu, neu y mae'r asiantaeth wedi'u darparu iddynt.
(2) Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn gwynion ddarparu -
(a) cyfle i ddatrys cwyn yn gynnar drwy ddull anffurfiol;
(b) na chaiff unrhyw berson sy'n wrthrych cwyn gymryd rhan yn y broses o'i hystyried ac eithrio, os bydd y person cofrestredig yn barnu bod hynny'n briodol, yn ystod cyfnod datrys y gwyn yn anffurfiol yn unig;
(c) ar gyfer ymdrin â chwynion am y person cofrestredig; ac
(ch) yn achos asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, bod cwynion i'w gwneud gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r weithdrefn gwynion i bob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth ac, os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid iddo ddarparu copi o'r weithdrefn i unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) neu i unrhyw berson sy'n gweithio ar ran plentyn.
(4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion a ddarparwyd o dan baragraff (3) gynnwys -
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru; a
(b) manylion y weithdrefn (os oes un) yr hysbyswyd y person cofrestredig ohoni gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer gwneud cwynion i'r awdurdod cofrestru sy'n ymwneud â'r asiantaeth.
Cwynion - gofynion pellach
20.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gŵyn a wneir o dan y weithdrefn gŵynion.
(2) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn cyfnod o 20 o ddiwrnodau gwaith gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r asiantaeth yn cael y gŵyn, hysbysu'r achwynydd o'r camau (os oes rhai) sydd i'w cymryd mewn ymateb i'r gŵyn.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gŵyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau -
(a) bod plant yn cael eu galluogi i wneud cwyn; a
(b) na fydd unrhyw berson yn wrthrych unrhyw ddial gan yr asiantaeth am wneud cwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru, os bydd yr awdurdod yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny.
Staffio'r asiantaeth
21.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, o ystyried -
(a) maint yr asiantaeth a'i ddatganiad o ddiben, a
(b) yr angen i ddiogelu a hyrwyddo iechyd a lles y plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt,
y bydd nifer digonol o bersonau gyda chymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
Ffitrwydd y gweithwyr
22.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol -
(a) cyflogi person i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth; neu
(b) caniatáu i berson sy'n cael ei gyflogi gan berson heblaw'r darparydd cofrestredig weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion asiantaeth oni bai -
(a) bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b) bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol i'r gwaith y mae i'w gyflawni;
(c) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
(ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglŷn â'r person ar gael o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.
Cyflogi staff
23.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig -
(a) sicrhau bod bob penodiad parhaol o staff sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a
(b) darparu disgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth -
(a) yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i werthuso'n briodol; a
(b) yn cael ei alluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
Gweithdrefn disgyblu staff
24.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol -
(a) yn darparu ar gyfer gwahardd cyflogai dros dro pan fo angen er diogelwch neu les y personau y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt;
(b) yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu ddigwyddiad lle'r amheuir bod plentyn wedi'i gam-drin yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol -
(a) y person cofrestredig;
(b) un o swyddogion yr awdurdod cofrestru;
(c) un o swyddogion yr heddlu;
(ch) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant; a
(d) un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i lleoli yn ei ardal.
Cofnodion ynglyn â staff
25.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3, a'u cadw'n gyfoes.
(2) Rhaid cadw'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) am 15 mlynedd o leiaf o ddyddiad y cofnod diwethaf.
Ffitrwydd y fangre
26.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio'r fangre at ddibenion yr asiantaeth onid yw'r fangre yn addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad o ddiben yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau -
(a) bod trefniadau diogelwch digonol yn y fangre, yn benodol bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a
(b) bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ar y fangre, yn cael eu cadw, serch hynny, o dan amodau diogelwch priodol.
RHAN 5
MATERION AMRYWIOL - ASIANTAETHAU
Digwyddiadau hysbysadwy
27.
- (1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 4 ("y tabl") yn digwydd mewn cysylltiad ag asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r person a nodir yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.
(2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith.
(3) Yn y tabl -
ystyr "awdurdod perthnasol" yw -
(a) yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i leoli yn ei ardal, a
(b) o ran plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu, unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r asiantaeth yn darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu ar ei ran i'r plentyn hwnnw o dan reoliadau a wnaed o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002,
(c) ystyr "Bwrdd Iechyd Lleol" ac "Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol" yw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal adeg y digwyddiad.
Y sefyllfa ariannol
28.
- (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig:
(a) rhedeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben; a
(b) sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a chadw'n gyfoes ynglyn â'r asiantaeth.
(2) Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys -
(a) cyfrifon blynyddol yr asiantaeth wedi'u hardystio gan gyfrifydd;
(b) geirda oddi wrth fanc yn mynegi barn ar statws ariannol y darparydd cofrestredig;
(c) gwybodaeth am ddull ariannu'r asiantaeth a'i hadnoddau ariannol;
(ch) gwybodaeth am unrhyw gwmnïau cysylltiedig y corff; a
(d) tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparydd cofrestredig o ran unrhyw rwymedigaeth y gallai'r darparydd fynd iddi mewn cysylltiad â'r asiantaeth o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu unrhyw golled arall.
Hysbysu absenoldeb
29.
- (1) Pan fo'r rheolwr yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru, a rhaid i'r hysbysiad bennu -
(a) hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;
(b) y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;
(c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a
(d) y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.
(3) Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(4) Pan fo'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, a bod yr awdurdod cofrestru heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'n ddi-oed yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru bod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei ddychweliad.
Hysbysu newidiadau
30.
- (1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd -
(a) bod person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rhedeg yr asiantaeth;
(b) bod person yn peidio â rheoli'r asiantaeth;
(c) bod enw neu gyfeiriad y darparydd cofrestredig wedi'i newid;
(ch) bod unrhyw newid o ran ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r darparydd cofrestredig;
(d) bod unrhyw newid i fod o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(dd) bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi o ran y darparydd cofrestredig; neu
(e) bod yr asiantaeth yn bwriadu peidio â gweithredu neu fodoli fel y cyfryw.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.
Penodi datodwyr etc
31.
- (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo -
(a) hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau drosto;
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes unrhyw reolwr; ac
(c) heb fod yn hwy nag 20 o ddiwrnodau ar ôl ei benodiad, hysbysu'r awdurdod cofrestru o'i fwriadau ar gyfer gweithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(a) yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo darparydd cofrestredig;
(b) yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i ddarparydd cofrestredig.
Tramgwyddau
32.
- (1) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 8, 12, 16 i 30 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 9(3) o Ddeddf 2002.
(2) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 9 neu 31 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 25(2) o Ddeddf 2000.
(3) Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, am fethiant i gydymffurfio â rheoliad 18 neu 25.
Cydymffurfio â rheoliadau
33.
Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw beth gael ei wneud gan fwy nag un person, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau hynny, gan y person arall neu, yn ôl y digwydd, y personau eraill.
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
34.
- (1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[8] wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) -
(a) yn y man priodol mewnosoder -
"
"Adoption Support Agency" has the same meaning given by section 8 of the Adoption and Children Act 2002";
Darpariaethau Trosiannol
35.
- (1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys i asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru o dan y Ddeddf yn rhinwedd darpariaethau Deddf 2000 a'r Rheoliadau hyn ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 30 Rhagfyr 2005.
(2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu a oedd yn union cyn 30 Rhagfyr 2005 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 -
(a) yn ystod y cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a
(b) os, o fewn y cyfnod hwnnw, y gwneir cais am gael cofrestru, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mehefin 2005
ATODLEN 1Rheoliad 3(1)
YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN
1.
Nodau ac amcanion yr asiantaeth.
2.
Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr cofrestredig.
3.
Unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r personau cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.
4.
Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr cofrestredig.
5.
Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
6.
Strwythur trefniadaethol yr asiantaeth.
7.
Disgrifiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr asiantaeth.
8.
Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaethau hynny o safon briodol.
9.
Crynodeb o'r weithdrefn gwynion.
10.
Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
ATODLEN 2Rheoliadau 5(3)(c), 7(2)(c), 22(2)(ch)
YR WYBODAETH Y MAE'N OFYNNOL EI CHAEL AM YR UNIGOLYN CYFRIFOL NEU AM BERSONAU SY'N CEISIO RHEOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION ASIANTAETH
1.
Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2.
Naill ai -
(a) os bydd tystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000)[10], neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997[11], tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na 3 blynedd mewn cysylltiad â hi wedi mynd heibio ers iddi gael ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na 3 blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi,
gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[12].
3.
Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.
4.
Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5.
Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.
6.
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
ATODLEN 3Rheoliad 25(1)
Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION YR ASIANTAETH
Cofnod sy'n dangos ar gyfer pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth -
1.
Enw llawn.
2.
Rhyw.
3.
Dyddiad geni.
4.
Cyfeiriad cartref.
5.
Cymwysterau sy'n berthnasol i weithio gyda phersonau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu a phrofiad o weithio gyda phersonau o'r fath ac (o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.
6.
Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.
7.
A yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd cofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r darparydd cofrestredig.
8.
Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan y darparydd cofrestredig neu'n cael ei gontractio bob wythnos i weithio i'r darparydd hwnnw.
9.
Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn, y cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn â'r person a chanlyniad y cwynion hynny ac unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth at ddibenion yr asiantaeth.
ATODLEN 4Rheoliad 27(1)
DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU
Colofn 1
|
Colofn 2
|
|
|
Y digwyddiad
|
I'w hysbysu i:
|
|
|
|
Yr awdurdod cofrestru
|
Y Bwrdd Iechyd Lleol /Yr Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol
|
Yr awdurdod perthnasol
|
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i'r asiantaeth at yr Ysgrifenydd Gwladol neu'r Cynulliad yn unol ag adran (1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 |
Ie |
|
|
Marwolaeth oedolyn neu blentyn neu anaf difrifol i oedolyn neu blentyn wrth iddo gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth |
Ie |
Ie |
Ie (pan fo'n marwolaeth plentyn neu'n anaf difrifol i blentyn) |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn rhannol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac yn rhannol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002"). Sefydlodd Deddf 2000 system reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru; mae adran 8(3) o Ddeddf 2002 yn diwygio Deddf 2000 ac effaith hynny yw na chaiff person redeg na rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu heb fod wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000. Mae Deddf 2002 yn darparu pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cofrestru, i reoleiddio asiantaethau cymorth mabwysiadu. Bydd rhaid i asiantaeth sy'n gwneud cais i'r awdurdod cofrestru am gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 ddangos ei bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cofrestru.
Mae adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir drwy reoliadau, mewn cysylltiad â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu at ddibenion y rheoliadau hyn.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant. Rhaid bod gan bob asiantaeth cymorth mabwysiadu ddatganiad o ddiben sy'n nodi beth yw nodau ac amcanion yr asiantaeth. Rhaid cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'i adolygu pan fo angen. Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Rhaid i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i blant gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth sy'n addas i blant.
Mae rheoliadau 5 i 9 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaeth enwebu unigolyn cyfrifol i oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer yr asiantaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer ffitrwydd y rheolwr, yn benodol drwy'r gofyniad bod rhaid sicrhau gwybodaeth foddhaol o ran y materion a bennir yn Atodlen 2 (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol o ran rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu yn briodol, a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn cyfrifol a'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru o gollfarnau.
Mae rheoliadau 10 - 15 yn ymdrin â cheisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n helpu'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gael gwybodaeth neu i hwyluso cyswllt. Nid yw rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwasanaethau o'r fath pan fernir ei bod yn amhriodol ac mae'n nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 13 yn galluogi'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gofrestru feto gyda'r asiantaeth. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gefndir gael ei datgelu pan fo cais am gydsyniad wedi'i wrthod. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwybodaeth am gwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela o ran ceisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu o'r fath o dan reoliad 2(d) neu (dd). Rhaid i asiantaethau cymorth mabwysiadu eu hunain roi cymorth a chefnogaeth i berson sy'n wrthrych cais gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas am wybodaeth neu gyswllt os bydd y person yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela.
Mae rheoliadau 16 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r dull o reoli asiantaeth cymorth mabwysiadu, yn benodol ynghylch amddiffyn plant (rheoliad 16), darparu gwasanaeth sy'n briodol i anghenion defnyddiwr (rheoliad 17), cadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau sy'n cael eu darparu (rheoliad 18), cwynion (rheoliadau 19 a 20), staffio (gan gynnwys cadw cofnodion ynglyn â staff) a ffitrwydd y staff a'r fangre (rheoliadau 21 i 26).
Mae rheoliad 27 yn darparu bod y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig i hysbysu'r personau a bennir yn Atodlen 4 o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 28 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliadau 29 i 31 yn darparu ar gyfer hysbysu'r awdurdod cofrestru a phenodi datodwyr. Mae rheoliad 32 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau yn y rheoliadau neu ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
Pan fo'r rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar fwy nag un person, a bod un o'r rhai sy'n gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw yn gwneud hynny, mae rheoliad 33 yn darparu nad yw'r person arall hefyd yn gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 34 yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002. Mae rheoliad 35 yn darparu ynglŷn â'r trefniadau trosiannol ar gyfer cofrestru asiantaethau cymorth mabwysiadu.
Notes:
[1]
2002 p.38.back
[2]
2000 p.14.back
[3]
2000 p.14.back
[4]
2002 p.38.back
[5]
O.S. 2005/1313 (Cy.95).back
[6]
1971p.80.back
[7]
1989 p.51.back
[8]
O.S. 2002/919 (Cy.107).back
[9]
1998 p.38.back
[10]
1997 p.50. Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104 p.14.back
[11]
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back
[12]
Mewnosodwyd adrannau 113(3A) a 115(6A) yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) a'u diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back
English version
ISBN
0 11 091150 4
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
14 June 2005
|