British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 Rhif 1354 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051354w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1354 (Cy.102)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
17 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Lesddaliad (Hysbysiad o Warchodaeth Yswiriant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai[
2] yng Nghymru'n unig.
Cynnwys ychwanegol hysbysiad o warchodaeth
2.
Rhaid i hysbysiad o warchodaeth[
3] bennu (Yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (5) o adran 164 (Yswiriant nad yw gydag yswirwyr y landlord) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002) -
(a) cyfeiriad y tŷ sy'n cael ei yswirio o dan y polisi;
(b) swyddfa gofrestredig yr yswiriwr awdurdodedig[4] neu, os nad oes gan yr yswiriwr awdurdodedig swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa;
(c) Rhif y polisi;
(ch) pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi;
(d) swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi;
(dd) os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny;
(e) p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf;
(f) os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol;
(ff) bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod ei fuddiannau; a
(g) nad oes gan y tenant unrhyw reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Ffurf ar hysbysiad o warchodaeth
3.
Rhaid i hysbysiad o warchodaeth fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
YR ATODLENRheoliad 3
FFURF AR HYSBYSIAD O WARCHODAETH
DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002
Hysbysiad o Warchodaeth
I: |
|
|
(rhowch enw a chyfeiriad y landlord gan gynnwys ei god post) |
1 |
|
|
1 |
Fi yw |
|
Ni yw |
|
(ticiwch y blwch priodol) tenant(iaid) y tŷ yn: |
|
|
(mewnosoder y cyfeiriad gan gynnwys y cod post) |
|
|
Mae'r tŷ wedi'i yswirio o dan bolisi yswiriant a ddyroddwyd gan: |
2 |
|
(mewnosoder enw'r yswiriwr a'i swyddfa gofrestredig neu, os nad oes gan yr yswiriwr swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa) sy'n yswiriwr awdurdodedig o fewn ystyr adran 164 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. |
|
|
Rhif y polisi yw: |
3 |
|
(mewnosoder y Rhif ) |
|
|
Nodir y risgiau a warchodir gan y polisi yn y tudalennau sy'n atodedig i'r hysbysiad hwn (atoder copi o'r tudalennau perthnasol yn eich dogfennau yswiriant) (os na ellir copïo'r dogfennau yswiriant, atoder rhestr o'r risgiau a warchodir) |
4 |
|
Swm y warchodaeth (y swm a gaiff ei yswirio) yw: |
5 |
|
£ |
|
(mewnosoder y swm) ac fe'i darperir am y cyfnod sy'n cychwyn ar: |
|
|
/ / |
|
(mewnosoder y dyddiad y mae'r warchodaeth yn cychwyn -rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau - e.e.26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) a sy'n gorffen ar: |
|
|
/ / |
|
(mewnosoder y dyddiad y mae'r warchodaeth yn dod i ben - rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau - e.e.26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) |
|
|
Mae'r premiymau yn daladwy |
6 |
yn flynyddol |
|
yn fisol |
|
fel arall |
|
(ticiwch y blwch priodol) |
|
|
Swm y tâl ychwanegol o dan y polisi yw: |
7 |
|
|
|
£ |
|
(mewnosoder y swm) (TICIWCH Y BLWCH a chwblhewch os yw'r tâl ychwanegol yn daladwy) |
|
|
Mae'n daladwy pa bryd bynnag y bydd yr yswiriwr yn gwneud taliad o dan y polisi hwn (Os oes tâl ychwanegol yn daladwy bob tro y bydd yr yswiriwr yn bodloni cais o dan y polisi, TICIWCH Y BLWCH YMA) |
|
Mae'n daladwy yn yr amgylchiadau a nodir yn y tudalen(nau) atodedig (Os dim ond mewn amgylchiadau penodol y mae tâl ychwanegol yn daladwy, TICIWCH Y BLWCH YMA a noder yr amgylchiadau ar y tudalen(nau) atodedig. Os yw symiau gwahanol yn daladwy mewn amgylchiadu gwahanol rhowch y manylion ar y tudalen(nau) atodedig.) |
|
Ceir isod ddwy fersiwn o baragraff 8. TICIWCH Y BLWCH sy'n cyfateb i'r UNIG FERSIWN o'r paragraff hwn sy'n ofynnol o dan yr amgylchiadau |
8 |
Mae'r polisi wedi'i adnewyddu a gwnaed hynny ddiwethaf ar: |
|
|
/ / |
|
(rhowch y dyddiad - rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau - e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagfyr 2005) |
|
|
NEU |
Nid yw'r polisi wedi'i adnewyddu a daeth yn effeithiol ar: |
|
|
/ / |
|
(rhowch y dyddiad - rhaid rhoi pob dyddiad ar ffurf Rhif au yn hytrach na geiriau - e.e. 26/12/2005 fyddai 26 Rhagyr 2005) |
|
|
|
9 |
Rydw i wedi fy modloni |
|
Rydym ni wedi ein bodloni |
|
(Ticiwch y blwch priodol) bod y polisi yn gwarchod |
|
|
fy muddiannau |
|
ein buddiannau |
|
|
|
10 |
Nid oes gennyf |
|
Nid oes gennym |
|
(Ticiwch y blwch priodol) reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod eich buddiannau. |
|
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Os bydd les hir ar dŷ yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant yswirio'r tŷ gydag yswiriwr a enwebwyd neu a gymeradwywyd gan y landlord, caiff tenant osgoi'r gofyniad hwnnw os bydd darpariaethau adran 164(2)(a) i (d) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 sy'n ymwneud â'r yswiriwr, y buddiannau a'r risgiau a warchodir, a swm y warchodaeth, wedi'u bodloni a bod y tenant yn rhoi hysbysiad o warchodaeth i'r landlord o fewn y cyfnod a bennir yn yr adran honno. Rhaid i hysbysiad o warchodaeth bennu enw'r yswiriwr, y risgiau a warchodir gan y polisi, swm a chyfnod y warchodaeth ac unrhyw wybodaeth bellach y gellir bod wedi'i rhagnodi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chynnwys mewn hysbysiad o warchodaeth. Mae'r wybodaeth honno fel a ganlyn:
(a) cyfeiriad y tŷ sy'n cael ei yswirio o dan y polisi;
(b) swyddfa gofrestredig yr yswiriwr neu, os nad oes swyddfa gofrestredig gan yr yswiriwr, ei brif swyddfa;
(c) Rhif y polisi;
(ch) pa mor aml y mae premiymau'n daladwy o dan y polisi;
(d) swm unrhyw dâl ychwanegol sy'n daladwy gan y tenant o dan y polisi;
(dd) os bydd tâl ychwanegol yn daladwy, p'un a yw'n daladwy o ran pob cais a wneir o dan y polisi neu mewn amgylchiadau penodol yn unig ac, yn yr achos olaf hwn, ddisgrifiad byr o'r amgylchiadau hynny;
(e) p'un a yw'r polisi wedi'i adnewyddu ai peidio ac, os cafodd ei adnewyddu, y dyddiad y gwnaed hynny ddiwethaf;
(f) os na chafodd y polisi ei adnewyddu, y dyddiad y daeth yn effeithiol;
(ff) datganiad bod y tenant wedi'i fodloni bod y polisi'n gwarchod buddiannau tenantiaid; a
(g) datganiad nad oes gan y tenant reswm dros gredu nad yw'r polisi'n gwarchod buddiannau'r landlord.
Rhaid i'r hysbysiad fod ar y ffurf a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau neu ar ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
Notes:
[1]
2002 p.15. Gweler y diffiniadau o "prescribed" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Yn rhinwedd adran 179(1) o'r Ddeddf honno, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "the appropriate national authority" o ran Cymru. (Mae'r pwerau a roddir gan adran 164(5)(d) a (6)(a) o'r Ddeddf honno'n arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y diffiniad o "prescribed" ac adran 179(1).)back
[2]
Yn rhinwedd adrannau 164(10) a 179(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yr un ystyr sydd i "house" yn adran 164 ag sydd iddo at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p.88). Yn y Ddeddf honno yn adran 2 y ceir y diffiniad o "house" .back
[3]
Gweler adran 164(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[4]
Gweler y diffiniad o "authorised insurer" yn adran 164(10) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091134 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 May 2005
|