British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 Rhif 1351 (Cy.99)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051351w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1351 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
17 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[
1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Corff a bennir
2.
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156[
3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) -
(a) Cheshire Mortgage Corporation Limited (Cwmni Rhif 02613335);
(b) London Scottish Finance Limited (Cwmni Rhif 00233259);
(c) Money Partners Limited (Cwmni Rhif 04992438);
(ch) Money Partners Finance Limited (Cwmni Rhif 05299032).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pedwar corff yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol. Mae adran 156 o Deddf Tai 1985 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.
At ddibenion yr adran mae cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau cyfeillgar ac unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliadau benthyca cymeradwy.
Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).
Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A (achosion lle y diogelir yr hawl i brynu) o'r Ddeddf honno at achosion lle y diogelir hawl tenant i brynu, a chan adran 17 (hawl tenant i gaffael annedd: darpariaethau atodol) o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle y mae gan denant yr hawl i gaffael o dan adran 16 (hawl tenant i gaffael annedd) o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny.
Notes:
[1]
1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091131 8
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 May 2005
|