British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051310w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1310 (Cy.92)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
10 Mai 2005 | |
|
Yn dod i rym |
20 Mai 2005 | |
Ac yntau wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995
2.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[
4] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn -
"
(b) poultry meat which -
(i) has not been eviscerated or has been obtained from the body of any bird which has not been eviscerated,
(ii) has been treated with an agent used to promote water retention, or has been obtained in technologically similar conditions and is likely as a result to present the same risk; or".
(3) Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn -
"
(9) Paragraph 2(b)(i) shall not apply to partially eviscerated poultry ("effilé").".
Diwygiad canlyniadol
3.
I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[5] yn gymwys o ran Cymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy roi'r cyfeiriadau a ganlyn yn lle'r ymadrodd "The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002"[6] -
"
S.I. 2002/1476 (W.148);
The Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) (Amendment) (Wales) Regulations 2005;".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru'n diwygio ymhellach Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd eisoes, ac sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd) ac yn rhoi ar waith y rhan honno o Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC sy'n ymwneud â phroblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (atodwyd testun y Gyfarwyddeb uchod, ar ôl ei gyfuno, i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).) ac sy'n gwahardd rhoi cig dofednod ar y farchnad i'w fwyta gan bobl os cafodd ei drin â chyfryngau dal dŵr neu os y'i cafwyd o dan amodau technolegol debyg a'i fod, o ganlyniad, yn debygol o fod yn achos yr un risg.
2.
Rhoddir y gwaharddiad uchod ar waith drwy ddiwygio'n briodol reoliad 14(2) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(2)).
3.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau canlyniadol i reoliad 14(9) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(3)) ac i Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 3).
4.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir yn y Rheoliadau hyn, y gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
O.S. 2003/2901.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2001, t.1.back
[4]
O.S. 1995/540. Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2002/47 (Cy.6) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back
[5]
O.S. 1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S. 2002/1476 (Cy.148), O.S. 2003/3229 (Cy. 309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144). Yn rhinwedd O.S.2004/1430 (Cy.144), mae O.S. 1996/3124 yn gymwys bellach mewn perthynas â masnach o fewn y Gymuned yn unig.back
[6]
O.S. 2002/1476 (Cy.148).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091125 3
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
17 May 2005
|