British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005 Rhif 1229 (Cy.87) (C.56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051229w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1229 (Cy.87) (C.56)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
26 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf")[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005.
Y diwrnod penodedig
2.
30 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, ddod i rym -
(a) adran 62 (cynllun datblygu lleol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 63 (gofynion paratoi), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) adran 72 (cyd-gynlluniau datblygu lleol); ac
(ch) adran 73 (eithrio rhai sylwadau).
Darpariaethau canlyniadol
3.
Ar y diwrnod a bennwyd gan erthygl 2, daw effaith darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990")[2] i ben o ran Cymru -
(a) adran 12 (paratoi cynllun datblygu unedol);
(b) adran 21 (newid neu ddisodli cynllun datblygu unedol); ac
(c) adran 23B (cynlluniau datblygu unedol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).
Darpariaethau trosiannol
4.
Mewn perthynas â'r awdurdodau cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a'u hardaloedd -
(a) ni fydd darpariaethau'r Ddeddf a gaiff eu dwyn i rym yn sgil erthygl 2 yn gymwys; ac
(b) bydd darpariaethau Deddf 1990 y daw eu heffaith i ben o dan erthygl 3 yn parhau mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
YR ATODLENErthygl 4
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ynys Môn
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau pellach Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("y Ddeddf"), sef adrannau 62 a 63 (i'r graddau nad ydynt eisoes wedi'u dwyn i rym), 72 a 73, i rym ar 30 Ebrill 2005.
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys i Gymru'n unig ac yn sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol ("cynlluniau") yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I Rhan II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990").
Effaith y Gorchymyn fydd galluogi'r awdurdodau cynllunio lleol hynny sydd wedi mynegi dymuniad i ddechrau gwaith ar baratoi eu cynlluniau i wneud hynny. Yr awdurdodau o dan sylw yw -
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
O ran yr awdurdodau cynllunio lleol eraill yng Nghymru (h.y. y rhai a ragnodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) bydd darpariaethau presennol Deddf 1990 yn parhau mewn grym am y tro.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 sy'n cael eu rhestru yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adran(nau)
|
Dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
60 |
14 Gorffennaf 2004 |
2004/1814 (Cy.199) (C.74) |
62(4) a (5)(g) |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
63(3)(a) a (7) |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
75 |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
76(2) (yn rhannol) a (3) (yn rhannol) |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
77 |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
78 |
1 Awst 2004 |
2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
Notes:
[1]
2004 p.5.back
[2]
1990 p.8.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091120 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
4 May 2005
|