British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 Rhif 1227 (Cy.85)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051227w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1227 (Cy.85)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
26 Ebrill 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2005 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 [
1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:
(a) ysgol yng Nghymru neu Loegr a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig yng Nghymru neu Loegr na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol;
(b) ysgol annibynnol yng Nghymru neu Loegr; neu
(c) sefydliad addysgol tebyg y tu allan i Gymru neu Loegr.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr "Rheoliadau 2005 ("the 2005 Regulations") yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005[2];
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
ystyr "ysgol" ("school") (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol.
Cymhwyster Prifathrawiaeth
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, dim ond os yw'n meddu ar un o'r canlynol y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol: -
(a) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru;
(b) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr[3];
(c) Safon Prifathrawiaeth yr Alban[4];
(ch) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon [5];
(d) cymhwyster sy'n debyg o ran ei effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005.
(2) Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.
Gofyniad bod rhaid meddu ar gymhwyster
4.
Dim ond os yw:
(a) yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu
(b) yn meddu ar gymhwyster sy'n debyg o ran effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005
Gofyniad bod rhaid cofrestru
5.
Dim ond os yw wedi cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru) [6] y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol.
Penaethiaid dros dro
6.
Nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth ysgol -
(a) hyd nes y penodir pennaeth, neu
(b) yn ystod absenoldeb pennaeth,
yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod penaethiaid tro cyntaf ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan awdurdod addysg lleol, ac a benodir yn benaethiaid ar neu ar ôl 1 Medi 2005:
(i) yn meddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, neu'r cymhwyster sy'n cyfateb iddo yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(ii) yn athrawon cymwysedig; a
(iii) wedi'u cofrestru yn athrawon.
Bydd yn ofynnol bod gweithwyr mudol o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir yn meddu ar gymwysterau cyfatebol.
Yn rhinwedd rheoliad 8, nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth hyd nes y penodir pennaeth, neu yn ystod absenoldeb pennaeth ('pennaeth dros dro') yn bennaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Notes:
[1]
2002 p.32.back
[2]
O.S. 2005/18. Mae hwn yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ynghylch system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd.back
[3]
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Prifathrawon) (Lloegr) 2003, (O.S. 2003/3111), yw'r Rheoliadau cyfredol sy'n darparu ar gyfer hyn. Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr yn cael ei ddyfarnu gan y National College for School Leadership Limited.back
[4]
Ar hyn o bryd, mae Safon Prifathrawiaeth yr Alban yn cael ei hennill drwy ymgymryd â Chymhwyster yr Alban ar gyfer Prifathrawiaeth.back
[5]
Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei ddyfarnu gan yr Uned Hyfforddi Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon.back
[6]
1998 p.30.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091118 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
4 May 2005
|