British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051225w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1225 (Cy.83) (C.55)
TAI, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
26 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
(a) ystyr "y dyddiad cychwyn" ("the commencement date") yw 30 Ebrill 2005; a
(b) mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2.
Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 (Tai) yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn -
(a) adran 12 (ymddygiad gwrthgymdeithasol: polisïau a gweithdrefnau landlordiaid);
(b) adran 14 ac Atodlen 1 (sicrwydd deiliadaeth: ymddygiad gwrthgymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(c) adran 15 (tenantiaethau byrddaliol sicr isradd).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2005, o ran Cymru, weddill darpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
Mae adran 12 yn cyflwyno dyletswydd newydd ar landlordiaid cymdeithasol i baratoi a chyhoeddi polisïau a gweithdrefnau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i drefnu iddynt fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth baratoi ac adolygu'r polisïau a'r gweithdrefnau, rhaid i'r landlord roi sylw i ganllawiau a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae adrannau 14 a 15, ac Atodlen 1, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel bresennol neu denantiaeth sicr bresennol tenant i ben ac yn rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Ar 30 Medi 2004 cychwynnwyd adran 14 ac Atodlen 1 i'r graddau yr oeddent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Yr adran neu'r Atodlen
|
Y dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
1 i 11 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
18 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
23 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
25 i 29 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
30 i 38 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
39(1) a (2) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
39(3) (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
39(3) (y gweddill) |
30 Ebrill 2004 |
2003/3300 |
39(4), (5) a (6) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
46 |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
53 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
54 |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
57 i 59 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
60 i 64 |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
85(1), (2) a (3) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
85 (4) (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
85(4) (y gweddill) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
85(5) (yn rhannol) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
85(5) (y gweddill)(yn gyfyng ei gymhwysiad) |
1 Hydref 2004 am gyfnod o 18 mis |
2004/2168 |
85(6) (yn rhannol) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
85(6) (y gweddill) |
30 Medi 2004 |
2004/2168 |
85(7) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
85(8) |
27 Chwefror 2004 |
2003/3300 |
85(9), (10) ac (11) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
86(1) a (2) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
86(3) (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
86(3) (y gweddill) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
86(4), (5) a (6) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
87 |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
88 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2168 |
89(1), (2), (3) a (4) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
89(5) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
89(6) a (7) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
90 |
31 Gorffennaf 2004 |
2004/1502 |
92 (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
92 (yn rhannol) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
92 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2168 |
Atodlen 2 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2168 |
Atodlen 3 (yn rhannol) |
20 Ionawr 2004 |
2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) |
31 Mawrth 2004 |
2004/690 |
Atodlen 3 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2168 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Yr adran neu'r Atodlen
|
Y dyddiad cychwyn
|
O.S. Rhif
|
13 (gydag arbedion) |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
14 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
16 (gydag arbedion) |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
17 |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
91 |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
Atodlen 1 (yn rhannol) |
30 Medi 2004 |
2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
40 i 45 |
31 Mawrth 2004 |
2004/999 (Cy.105) (C.43) |
47 i 52 |
31 Mawrth 2004 |
2004/999 (Cy.105) (C.43) |
55 a 56 |
31 Mawrth 2004 |
2004/999 (Cy.105) (C.43) |
Rhan 8 |
31 Rhagfyr 2004 |
2004/3238 (Cy.281) (C.144) |
Notes:
[1]
2003 p.38.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091121 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
6 May 2005
|