British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 Rhif 1208 (Cy.80)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051208w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1208 (Cy.80)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
19 Ebrill 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "addysg feithrin" ("nursery education") yw addysg sy'n addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol; ac
mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.
Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol
3.
- (1) Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.
(2) Rhaid i ddisgybl cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fydd yn yr ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.
Darpariaeth drosiannol
4.
Bydd disgybl sy'n derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo yn union cyn 1 Ebrill 2003 yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r disgybl hwnnw o dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996 hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.
Dirymu
5.
Mae Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003[3] drwy hyn yn cael ei ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Ebrill 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 512(3) o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i diwygiwyd gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ac eraill, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagnodedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath.
Mae'r gofyniad yn cael ei nodi yn erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin; rhaid iddynt fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fyddant yn mynychu'r ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.
Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd eisioes yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim yn union cyn 1 Ebrill 2003, rhag colli'r hawl i giniawau o'r fath.
Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003.
Notes:
[1]
1996 p.56; amnewidir adran 512 gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr "prescribed" gweler adran 512(6).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back
[3]
O.S. 2003/880 (Cy.111).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091113 X
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
26 April 2005
|