British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 Rhif 760 (Cy.64)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050760w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 760 (Cy.64)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005
|
Wedi'i wneud |
16 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
17 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[
1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 21(5) o'r Ddeddf honno:
Enwi, dod i rym a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 17 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Fframwaith Cenedlaethol
2.
At ddibenion adran 21(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, bydd y Fframwaith Tân ac Achub a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n dwyn yr enw "Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2005 yn cael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae'n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion i awdurdodau tân ac achub a chaiff ddarparu canllawiau. Rhaid i'r awdurdodau tân ac achub roi sylw i'r Fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae adran 21(6) o'r Ddeddf yn darparu bod y Fframwaith yn effeithiol ond yn unig pan roddir effaith iddo gan y Cynulliad drwy orchymyn. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005. Gellir cael copïau o'r Fframwaith oddi wrth yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Mae hefyd ar gael ar wefan y Cynulliad:
http://www.tai.cymru.gov.uk/.
Notes:
[1]
2004 p. 21.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091100 8
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
24 March 2005
|