British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050700w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005
|
Wedi'i wneud |
15 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 2004[
1], gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn -
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant 2004.
Y Diwrnod Penodedig
2.
- (1) 16 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 ("y Ddeddf").
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.
Darpariaeth
|
Dyddiad Cychwyn
|
Adran 10 |
1 Ebrill 2005 |
Adran 11(yn rhannol) |
1 Mawrth 2005 |
Adran 11 (y gweddill) |
1 Hydref 2005 |
Adran 13(yn rhannol) |
1 Mawrth 2005 |
Adran 14 (yn rhannol) |
1 Mawrth 2005 |
Adran 16 (yn rhannol) |
1 Mawrth 2005 |
Adran 17 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 18 |
1 Ebrill 2005 |
Adran 20 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 21 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 22 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 23 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 24 |
1 Ebrill 2005 |
Adran 44 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2005 |
Adran 44 (y gweddill) |
1 Gorffennaf |
Adran 48 (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 5 a 7 o Atodlen 4 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 50 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 51 (yn rhannol) |
1 Ebrill 2005 |
Adran 52 |
1 Gorffennaf |
Adran 53 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 54 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 55 |
1 Ebrill 2005 |
Adran 57 |
1 Mawrth 2005 |
Adran 60 o ran Cymru a Lloegr |
1 Mawrth 2005 |
Rhan 1 o Atodlen 5 |
1 Mawrth 2005 |
Rhan 2 o Atodlen 5 (yn rhannol) |
1 Mawrth 2005 |
Rhannau 3 a 4 o Atodlen 5 |
1 Ebrill 2005 |
Notes:
[1]
2004 p.31.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091095 8
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
22 March 2005
|