British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 Rhif 664 (Cy.54)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050664w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 664 (Cy.54)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005
|
Wedi'i wneud |
8 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori a'r personnau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[
1], iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dirymu
2.
Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002[
2].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 a oedd yn pennu, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeiriwyd atynt er mwyn mesur perfformiad cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2002. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 yn pennu, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2005.
Notes:
[1]
1999 p.27.back
[2]
0.S. 2002/757 (Cy. 80)back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091090 7
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
17 March 2005
|