British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005 Rhif 663 (Cy.53)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050663w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 663 (Cy.53)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
8 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
11 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2.
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £19.10 yr wythnos.
Dirymu
3.
Drwy hyn, dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004[
3].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, pan nad oes amgylchiadau arbennig, y bydd ei angen ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 at eu hanghenion personol.
0 11 Ebrill 2005 ymlaen, rhagdybir y bydd angen £19.10 yr wythnos ar bob preswylydd o'r fath at eu hanghenion personol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 sy'n cael eu dirymu ac a oedd yn rhagnodi swm wythnosol o £18.40.
Notes:
[1]
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o "the Minister" a "prescribed" yn ôl eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2004/1024 (Cy.121)back
[4]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091089 3
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
17 March 2005
|