British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005 Rhif 586 (Cy.50)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050586w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 586 (Cy.50)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
8 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan ei fod hefyd wedi'i ddynodi[
3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw person a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu gan awdurdod lleol, i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yn ôl y digwydd;
ystyr "iâr ddodwy" ("laying hen") yw unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus sy'n cynhyrchu wyau sydd i'w bwyta gan bobl;
mae "mangreoedd" ("premises") yn cynnwys tir gydag adeiladau neu hebddynt, ond nid yw'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir fel annedd yn unig;
ystyr "y Manylebion Technegol" ("the technical specifications") yw'r manylebion technegol hynny y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn ac sy'n dwyn yr enw "Baseline Study on the Prevalence of Salmonella in Laying Flocks of Gallus gallus in the EU"; ac
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC.
Dethol mangreoedd
3.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn gyfrifol am ddethol y mangreoedd sydd i'w samplu, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol.
Pwerau arolygwyr - Mynediad
4.
Os gofynnir i'r arolygydd am ddogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod yr arolygydd fel arolygydd, a bod yr arolygydd yn dangos y ddogfen honno, bydd gan yr arolygydd yr hawl ar bob adeg resymol i fynd i'r mangreoedd samplu, yn unol â'r manylebion technegol, at ddibenion cymryd samplau fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn ac at ddibenion rheoliad 8.
Pwerau arolygwyr - Cyffredinol
5.
At ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn, ac at ddibenion rheoliadau 3 ac 8, caiff arolygydd -
(a) holi unrhyw berson a gofyn i'r person hynny ddarparu unrhyw wybodaeth a dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion, yr ymddengys i'r arolygydd eu bod yn berthnasol, neu'n debygol o fod yn berthnasol;
(b) archwilio, cadw neu gopïo unrhyw gofnodion gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, y maent yn ymddangos i'r arolygydd eu bod yn berthnasol, neu eu bod yn debygol o fod yn berthnasol;
(c) cymryd a chadw y samplau hynny, gan gynnwys samplau o ieir dodwy, carcasau ieir dodwy a deunydd ysgarthol ac amgylcheddol, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol, yn ogystal â phob sampl arall y bydd yr arolygydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn;
(ch) mynd â'r cerbydau hynny a'r cyfarpar hwnnw gydag ef neu hi y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(d) mynd gydag unrhyw berson arall y mae'r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol; ac
(dd) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r person sydd â gofal am y mangreoedd hynny, neu unrhyw gyflogai neu asiant i'r meddiannydd neu i'r person sydd â gofal am y mangreoedd, i ddarparu i'r arolygydd y cymorth, y cydweithrediad, yr wybodaeth a'r ddogfennaeth honno, gan gynnwys cofnodion, boed ar gyfrifiadur neu fel arall, y caiff yr arolygydd ofyn amdanynt yn rhesymol.
Tramgwyddau
6.
Bydd unrhyw berson -
(a) sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) sydd yn methu â chydymffurfio â rheoliad 5(dd) uchod, a hynny heb esgus rhesymol;
(c) sydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, gan wybod bod yr wybodaeth honno yn anwir neu yn gamarweiniol; neu
(ch) sydd, heb achos rhesymol, yn peidio â darparu dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion neu wybodaeth, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, pan fo'r person hwnnw yn gofyn iddo neu iddi wneud hynny;
yn euog o dramgwydd.
Cosbau
7.
- (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran -
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol;
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod neu ei bod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath; neu
(c) yn achos partneriaeth, partner neu berson a oedd yn honni i weithredu felly,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth, yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
8.
- (1) Awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC ar waith, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gynnal arolwg o ba mor gyffredin y mae salmonela ymhlith heidiau dodwy (O.J. Rhif L 303/30) a hynny yn unol â manylebion technegol penodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn.
Mae'r Rheoliadau hyn -
(a) yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cymwys at ddibenion dethol mangreoedd i'w samplu (rheoliad 3);
(b) yn darparu pwerau i arolygwyr i fynd i fangreoedd lle y mae heidiau o ieir dodwy yn bresennol at ddibenion rhoi Penderfyniad y Comisiwn ar waith ac at ddibenion gorfodi (rheoliad 4);
(c) yn darparu pwerau i arolygwyr gael gafael ar wybodaeth a dogfennaeth at ddibenion dethol mangreoedd i'w samplu, ac yn darparu pwerau i arolygwyr, pan fyddant yn mynd i fangreoedd, iddynt wneud ymchwiliadau, archwilio a chadw cofnodion, cymryd samplau, gofyn am gymorth, mynd gyda phersonau eraill a chymryd cyfarpar a cherbydau i'r mangreoedd, at ddibenion cyflawni'r gwaith o gymryd samplau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);
(ch) yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau (rheoliadau 6 a 7); a
(d) yn darparu i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau ac eithrio pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo fel arall (rheoliad 8).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi gogyfer â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau gan Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2001/3495.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091084 2
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
16 March 2005
|