British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 427 (Cy.44)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050427w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 427 (Cy.44)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
1 Mawrth 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[
2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig.
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
2.
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw yn ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 8(2)(a), yn lle "paragraff (1)(d)" rhodder "yn unrhyw is-baragraff o blith is-baragraffau (a), (b) neu (d) o baragraff (1)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005
YR ATODLEN
SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU
(1)
|
(2)
|
(3)
|
(4)
|
Darpariaeth yn y prif Reoliadau
|
Y pwnc
|
swm blaenorol
|
swm newydd
|
Rheoliad 3 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
|
y pâr |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
paragraff (1A)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
|
y pâr |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1A)(b) |
ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1A)(b) |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
Rheoliad 4 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
|
y pâr |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau a chyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
Rheoliad 5 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiried - olaethau GIG - |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
|
y pâr |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1)(c) |
ffi am deits |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1)(d) |
ffi am gyffuriau a chyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1 |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
paragraff (5) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£ 6.00 |
£ 4.00 |
Rheoliad 6 - |
Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn |
|
|
paragraff (1)(a) |
ffi am hosanau elastig - |
|
|
|
fesul eitem |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
|
y pâr |
£ 10.00 |
£ 8.00 |
paragraff (1)(b) |
ffi am gyffuriau ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
paragraff (4) |
ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
Rheoliad 7(1) |
Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion |
|
|
|
ffi am gyffuriau |
£ 5.00 |
£ 4.00 |
Rheoliad 10(5) |
Tystysgrif ragdalu - |
|
|
|
4 mis |
£26.16 |
£20.93 |
|
12 mis |
£71.83 |
£57.46 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol a gweinyddol, a chan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gleifion allanol.
Mae rheoliad 2 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion allanol o £5.00 i £4.00. Gostyngir y tâl am hosanau elastig o £5.00 i £4.00 (o £10.00 i £8.00 y pâr) a'r tâl am deits o £10.00 i £8.00. Gostyngir y symiau a ragnodir ar gyfer rhoi tystysgrifau rhagdalu o £26.16 i £20.93 am dystysgrif pedwar mis ac o £71.83 i £57.46 am dystysgrif deuddeng mis.
Mae diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn darparu na fydd ffi yn daladwy gan bersonau o dan 25 oed, neu gan y rhai sy'n 60 oed neu'n hyn, am gyflenwi cyfarpar a chyffuriau'n unol â rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG).
Notes:
[1]
{d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1).back
[2]
O.S.2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196) a 2004/1018 (Cy.115).back
[3]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091082 6
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
11 March 2005
|