British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 259 (Cy.25)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050259w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 259 (Cy.25)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
8 Chwefror 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[
2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[
3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
O ran y Rheoliadau hyn -
(a) eu henw yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005;
(b) deuant i rym ar 1 Mawrth 2005; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2.
Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4] yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.
3.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC", yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2002/82/EC", rhodder y geiriau a ganlyn -
"
, Commission Directive 2002/82/EC[5] Commission Directive 2003/95/EC[6] and Commission Directive 2004/45/EC[7]".
4.
Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1D), mewnosoder y paragraff a ganlyn -
"
(1E) In any proceedings for an offence in contravention of regulation 3(1) where it is alleged that a food additive failed to satisfy the purity criteria for that additive, it shall be a defence for the accused to show either -
(a) that the food additive concerned is E431-E436, or polyethylene glycol 6000 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 November 2004; or
(b) that the food additive concerned is E407, E407a, E1517 or E1519 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 April 2005;
and that that matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made to them by regulation 3 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2005 had not been in force when that matter occurred."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Chwefror 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95/EC (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/45/EC (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19), y mae'r ddau ohonynt yn diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC (OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1) sy'n gosod meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion. Rhoddwyd Cyfarwyddeb 96/77/EC ar waith drwy ddiwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995.
2.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu meini prawf o ran purdeb, fel a amlinellir yn yr Atodiadau i Gyfarwyddebau y Comisiwn 2003/95/EC a 2004/45/EC, mewn perthynas â'r ychwanegion a ganlyn:
E431 Polyocsiethylen (4) Stearad
E432 Polyocsiethylen Sorbitan Monolawrad (Polysorbad 20)
E433 Polyocsiethylen Sorbitan Monoolead (Polysorbad 80)
E434 Polyocsiethylen Sorbitan Monopalmitad (Polysorbad 40)
E435 Polyocsiethylen Sorbitan Monostearad (Polysorbad 60)
E436 Polyocsiethylen Sorbitan Tristearad (Polysorbad 65)
E407a Gwymon Eucheuma a broseswyd
E907 Poly-1-desin hydrogenedig
3.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2003/95/EC a 2003/45/EC i gyfraith ddomestig. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S.1999/1133, O.S. 2001/1440 (Cy.102), O.S. 2001/1787 (Cy.128), O.S. 2001/2679 (Cy.220), O.S. 2001/3909 (Cy.321), O.S. 2002/329 (Cy.42), O.S. 2002/330 (Cy.43), O.S. 2003/945 (Cy.126), O.S. 2003/3037 (Cy.285), O.S. 2003/3041 (Cy.286), O.S. 2003/3044 (Cy.288), O.S. 2003/3047 (Cy.290), O.S. 2003/3053 (Cy.291), O.S. 2004/553 (Cy.56) ac O.S. 2004/554 (Cy.57).back
[5]
OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.back
[6]
OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71.back
[7]
OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.19.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091065 6
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
15 February 2005
|