British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 Rhif 257 (Cy.23)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050257w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 257 (Cy.23)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005
|
Wedi'u gwneud |
8 Chwefror 2005 | |
|
Yn dod i rym |
10 Chwefror 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2005.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
2.
- (1) Mae Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[
3] wedi'u diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(a) yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" rhoddir y diffiniad canlynol -
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno[4];"; a
(b) yn lle'r diffiniad o "Cyfarwyddeb 98/53/EC" rhoddir y diffiniad canlynol -
"
ystyr "Cyfarwyddeb 98/53/EC" ("Directive 98/53/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n pennu'r dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd[5], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/43/EC[6];";
(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (gwahardd mewnforio), rhoddir y paragraff canlynol -
"
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai -
(a) bod yr amodau a bennir yn Erthygl 1.1, 3, 5 ac (i'r graddau y mae'n yn gymwys yn y man mewnforio) 7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny; a
(b) bod y costau, sy'n deillio o'r samplu, y dadansoddi a'r storio ac o ddyroddi'r dogfennau swyddogol sy'n mynd gyda'r cnau pistasio hynny a chopïau o dystysgrifau iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda'r tystysgrifau hynny yn unol ag Erthygl 1.4 i 7 o Benderfyniad y Comisiwn, wedi'u talu.".
(4) Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 (gorfodi), rhoddir y paragraff canlynol -
"
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn -
(a) Erthygl 1.4 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau sy'n berthnasol i lwythi o gnau pistasio Iranaidd);
(b) Erthygl 1.5 ac 1.6 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythi hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 1.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac
(c) Erthygl 1.7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi).".
(5) Yn lle rheoliad 6 (ailanfon neu ddinistrio mewnforion anghyfreithlon), rhoddir y rheoliad canlynol -
"
6.
- (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i baragraff (1) neu (2) o reoliad 3, wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, caiff gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn -
(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) ac nad yw'r cnau pistasio o dan sylw wedi'u hailanfon y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd y cyflwynwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig ef, ar ôl ymgynghori'n briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Mae hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) i nodi:
(a) hawl i apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(4) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) neu (2) apelio i lys ynadon, a fydd yn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.
(5) Chwe diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio Sadyrnau, Suliau a gwyliau cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (4) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(6) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (4), mae'r weithdrefn i fod ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980[7] yn gymwys i'r achos.
(7) Os bydd y llys yn caniatáu apêl a ddygir o dan baragraff (4), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n deillio o'r camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.
(8) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (7), o ran yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(9) Bydd unrhyw berson sy'n torri amodau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
8 Chwefror 2005
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/245 ac O.S. 2004/1804). Rhoddodd y Rheoliadau hynny ar waith Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L343, 13.12.97, t.30) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC (OJ Rhif L154, 30.04.2004 t.20). Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC, a elwir "y Penderfyniad newydd", sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12). Diddymodd y Penderfyniad newydd Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC.
2.
Y gwahaniaethau pwysig rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yw -
(a) bod Erthygl 1.1 o'r Penderfyniad newydd yn darparu bod y dystysgrif iechyd y mae'n ofynnol iddi fynd gyda llwyth o "cnau pistasio Iranaidd" (fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288) i fod yn ddilys ar gyfer mewnforio a wnaed heb fod yn hwy na 4 mis ar ôl dyddiad dyroddi'r dystysgrif iechyd; a
(b) bod Erthygl 3 o'r Penderfyniad newydd yn darparu bod costau penodol, sy'n ymwneud â'r rheolaethau mewnforio ar gnau pistasio Iranaidd a osodir gan y Penderfyniad a'r costau ynglyn â mesurau swyddogol a gymerir yn erbyn llwythi o gnau pistasio Iranaidd nad ydynt yn cydymffurfio â'r Penderfyniad, i'w talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.
3.
Mae'r newid a ddisgrifiwyd ym mharagraff 2(a) uchod wedi'i gyflawni drwy roi diffiniad o'r Penderfyniad newydd yn lle'r diffiniad o Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288 a gwneud newidiadau canlyniadol i reoliadau 3(1) a 4(4) o'r offeryn hwnnw (rheoliad 2(2)(a), (3) a (4)).
4.
Mae'r newid a ddisgrifiwyd ym mharagraff 2(b) uchod wedi'i gyflawni drwy ddiwygio rheoliadau 3(1) a 6(1) o O.S. 2003/2288 i'w gwneud yn amod ar gyfer mewnforio bod y costau sy'n ymwneud â rheolaethau mewnforio wedi'u talu ac yn amod ar gyfer ailanfon llwythi nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau bod y costau sy'n ymwneud â mesurau swyddogol a gymerwyd yn eu herbyn wedi'u talu (rheoliad 2(3) a (5)).
5.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad diwygiedig o Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288 i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 2(2)(b)).
6.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff (2) newydd yn rheoliad 6 o O.S. 2003/2288, sy'n darparu y caniateir dinistrio mewnforion anghyfreithlon o gnau pistasio Iranaidd os na chânt eu hailanfon o fewn y cyfnod a bennir mewn hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hailanfon (rheoliad 2(5)).
7.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn
Notes:
[1]
O.S. 2003/2901.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2003/2288 (Cy.227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/245 (Cy.24) ac O.S. 2004/1804 (Cy.192).back
[4]
OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12.back
[5]
OJ Rhif L201, 17.7.98, t.93.back
[6]
OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.14.back
[7]
1980 p.43.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091069 9
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
23 February 2005
|