British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 181 (Cy.14)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050181w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 181 (Cy.14)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
1 Chwefror 2005 | |
|
Yn dod i rym |
2 Chwefror 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 24 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[
1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Rheoliadau 1993" ("the 1993 Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993[3].
Diwygiadau i Reoliadau 1993
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o "list" rhodder -
"
"list" means, other than in regulation 5(1A), (3) and (3A), a valuation list compiled under section 22, section 22A or section 22B of the Act;".
(3) Yn rheoliad 5 -
(a) ar ôl paragraff (1), mewnosoder -
"
(1A) No proposal may be made later than 31 December 2005 in relation to a list compiled under section 22 or section 22A of the Act other than in respect of paragraphs (2) and (6) and regulation 8(3)(a) and (9).";
(b) ym mharagraff (3) -
(i) ar ôl y geiriau "a list" mewnosoder "compiled under section 22 or 22A of the Act";
(ii) yn lle "the list" rhodder "that list"; ac
(c) ar ôl paragraff (3), mewnosoder -
"
(3A) Subject to paragraph (4) and regulation 8(3)(a), where, in relation to a dwelling shown in a list compiled under section 22B of the Act on the day on which it is compiled, a billing authority or an interested person is of the opinion mentioned in paragraph (1) by reason of the matter mentioned in sub-paragraph (c), any proposal for the alteration of that list as regards that matter must be made not later than 30 September 2006.".
(4) Yn rheoliad 15(1), yn lle "section 22(8) or section 22A(10)", rhodder "section 22(8), section 22A(10) or section 22B(10)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Chwefror 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993 ("Rheoliadau 1993").
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 24 (Newid rhestrau) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992"). Mae adran 24 o Ddeddf 1992 yn caniatáu i'r Cynulliad wneud rheoliadau ynghylch newid rhestrau prisio a luniwyd o dan Bennod II (Rhestrau Prisio) o Ran I o Ddeddf 1992 a hynny gan swyddogion rhestru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1993. Yn benodol, mae rheoliad 3(2) yn diwygio'r diffiniad o "list" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1993, fel bod "list" at ddibenion y Rheoliadau hynny (heblaw mewn perthynas â rheoliad 5(1A), (3) a (3A)) yn golygu rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22, adran 22A neu adran 22B o Ddeddf 1992. Mewnosodwyd adran 22B (Llunio a chynnal rhestrau newydd) yn Neddf 1992 gan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 22B yn ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog rhestru dros awdurdod bilio i lunio a chynnal rhestrau prisio newydd ar gyfer yr awdurdod. Daw rhestrau a luniwyd o dan adran 22B o Ddeddf 1992 i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1993. Mae rheoliad 3(3)(a) yn mewnosod rheoliad 5(1A) newydd yn Rheoliadau 1993, a'i heffaith fydd, yn ddarostyngedig i bedair eithriad, na chaniateir gwneud cynnig i newid rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992 yn ddiweddarach na 31 Rhagfyr 2005.
Mae rheoliad 3(3)(b) yn diwygio rheoliad 5(3) o Reoliadau 1993 fel y bydd yn ymwneud yn unig â rhestrau prisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992.
Mae rheoliad 3(3)(c) yn mewnosod rheoliad 5(3A) newydd yn Rheoliadau 1993. Mae rheoliad 5(3A) yn darparu, yn ddarostyngedig i reoliadau 5(4) ac 8(3)(a) o Reoliadau 1993, os bydd, o ran annedd a ddangosir mewn rhestr brisio adran 22B ar y diwrnod pan lunir y rhestr honno, awdurdod bilio neu berson â buddiant o'r farn bod y rhestr yn anghywir oherwydd bod y swyddog rhestru wedi dyfarnu band prisio anghywir, rhaid gwneud unrhyw gynnig i newid y rhestr o ran y mater hwnnw ddim diweddarach na 30 Medi 2006.
Mae rheoliad 3(4) yn mewnosod cyfeiriad at adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn rheoliad 15(1) o Reoliadau 1993. Mae adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bilio i adneuo copi o'r rhestr brisio a dderbynnir ganddo o dan adran 22B(9) o'r Ddeddf honno yn ei brif swyddfa. Mae rheoliad 15(1) yn ymwneud â'r terfyn amser o fewn pa bryd y mae swyddog rhestru (ar ôl iddo newid rhestr brisio) i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod bilio yn datgan effaith y newid hwnnw. Mae rheoliad 15(1) yn gorfodi'r awdurdod hwnnw i newid y copi o'r rhestr brisio a adneuwyd yn ei brif swyddfa.
Notes:
[1]
1992 p.14.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1993/290 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1746, O.S. 1995/363, O.S. 1996/613, O.S. 1996/619, O.S. 2000/409 ac O.S. 2001/1439.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091063 X
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
10 February 2005
|