British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 Rhif 118 (Cy.10)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050118w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 118 (Cy.10)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
25 Ionawr 2005 | |
|
Yn dod i rym |
31 Ionawr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 104 o Ddeddf Plant 1989[
1], a pharagraff 1(1) o Atodlen 9A iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Plant 1989.
Y rheidrwydd i gofrestru gofal dydd mewn ysgolion o dan Ran XA
3.
Yn ddarostyngedig i reoliad 5, mae'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 yn amgylchiadau a ragnodir at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (esemptio ysgolion penodol).
4.
Yr amgylchiadau a ragnodir yw pan fydd edrych ar ôl plant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt, yn brif bwrpas darparu'r gofal dydd.
Darpariaethau Trosiannol
5.
Os cafodd y gofal dydd y mae rheoliad 4 yn gymwys iddo ei ddarparu am y tro cyntaf yn yr ysgol sydd o dan sylw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac os bydd yn parhau i gael ei ddarparu felly, ni fydd rheoliadau 3 a 4 yn gymwys i'r gofal dydd hwnnw (ac felly ni fydd darparu'r gofal dydd hwnnw, a hynny heb gofrestru, wedi'i wahardd gan adran 79D(5) o'r Ddeddf): -
(a) hyd nes 1 Ebrill 2005 os na chyflwynwyd cais cyflawn am gofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf mewn perthynas â darparu'r gofal dydd hwnnw yn yr ysgol honno cyn 1 Ebrill 2005;
(b) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, hyd nes y diwrnod y caiff y ceisydd ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef;
(c) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, ac os penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef oedd ei wrthod neu ei ganiatáu yn amodol, a'r amodau hynny'n rhai nad ydynt oll wedi eu cytuno'n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd nes diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad yr hysbyswyd yr ymgeisydd o'r penderfyniad hwnnw;
(ch) os bydd y ceisydd sydd am gofrestru yn apelio yn erbyn penderfyniad y mae is-baragraff (c) yn gymwys iddo, dyddiad gollwng yr apêl neu, os na chaiff ei ollwng, y dyddiad y caiff yr apelydd ei hysbysu o'r penderfyniad mewn perthynas ag ef;
pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Ionawr 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'n rhaid i bob person sy'n rhoi gofal dydd i blant sy'n iau nag wyth mlwydd oed gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989. Effaith y Rheoliadau hyn fydd ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a oedd gynt yn esempt o'r rheidrwydd cofrestru hwn i wneud felly os prif bwrpas y gofal dydd yw gofalu am blant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt.
Rhaid i ysgolion sydd yn rhoi gofal dydd am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2005 neu ar ôl hynny fod wedi'u cofrestru'n ddarparwyr gofal dydd cyn iddynt agor ar gyfer busnes.
O ran ysgolion a oedd yn darparu gofal dydd cyn 31 Ionawr 2005 ac a fydd yn parhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw, mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau trosiannol hyn, caiff ysgolion felly barhau i ddarparu gofal o'r fath hyd at 1 Ebrill 2005 ac, os ydynt yn gwneud cais i gofrestru cyn y dyddiad hwnnw, cânt barhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw hyd nes y bydd y cais wedi ei benderfynu, neu, os gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei benderfynu neu wedi ei ollwng. Bydd ysgolion sy'n methu â gwneud cais o'r fath cyn 1 Ebrill 2005 yn cyflawni tramgwydd o dan adran 79D(5) o'r Ddeddf os byddant yn parhau i ddarparu gofal dydd ar ôl y dyddiad hwnnw.
Notes:
[1]
1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys y Ddeddf yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)). Mewnosodwyd Atodlen 9A i'r Ddeddf gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), adran 79 ac Atodlen 3.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091061 3
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
2 February 2005
|