Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050071w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 71 (Cy.9) (C.3)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005
|
Wedi'i wneud |
18 Ionawr 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("
the Act") yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005
2.
- (1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005.
(2) Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2005
YR ATODLENErthygl 2
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005
Adran 12 |
Pob diben |
Adran 16 |
Pob diben |
Is-adrannau (1) i (3) o adran 20 |
At ddibenion rhagnodi graddfeydd ffioedd am archwilio'r cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005. |
Is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 |
Pob diben |
Adran 39 |
At ddibenion ymgynghori a gwneud rheoliadau mewn perthynas â chyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005. |
Adran 50 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 1 |
At ddibenion dwyn i effaith: (a) paragraff 1 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion (b) isod, a (b) paragraff 7 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n darparu i adran 8A newydd gael ei mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 [3]. |
Is-adrannau (6) i (8) o adran 54 |
Pob diben |
Adran 58 |
Pob diben |
Adran 59 |
Pob diben |
Adran 68 ac Atodlen 3 |
Pob diben |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") yng Nghymru a Lloegr.
Mae cyfeiriadau at adrannau neu Atodlenni (oni nodir fel arall) yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu'r Atodlenni iddi.
Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn yr Atodlen, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben. Effaith y darpariaethau fydd fel a ganlyn.
Mae adran 12 yn diffinio'r term "corff llywodraeth leol yng Nghymru" at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") bŵer i newid y rhestr o gyrff y'u diffinnir fel cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 16 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd arferion archwilio sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr i gyflawni eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf.
Mae is-adrannau (1)-(3) o adran 20 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd o ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru o dan y Ddeddf. Dygir y darpariaethau hyn i rym mewn perthynas yn unig â ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, sef y dyddiad y bwriedir dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf i effaith.
Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad i ddisodli'r raddfa neu'r graddfeydd a osodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei raddfa neu ei raddfedydd ei hun, os yw o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n ddymunol.
Mae Adran 39 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad i wneud rheoliadau sy'n rheoli cadw cyfrifon gan gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, eu ffurf, a'u hardystio etc, ac yn rheoli arfer hawliau gan aelodau o'r cyhoedd o dan adrannau 29 - 31 o'r Ddeddf i gael mynediad i ddogfennau, ac i godi cwestiynnau a gwrthwynebiadau. Dygir y ddarpariaeth i rym yn unig er mwyn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i reoli cyfrifon a datganiadau o gyfrifon a baratoir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.
Mae adran 50 yn darparu bod Atodlen 1 yn effeithiol. Dygir hi i rym gan y Gorchymyn hwn ond yn unig at ddibenion dwyn i effaith ran o baragraff 7 o Atodlen 1, sy'n darparu ar gyfer adran 8A newydd i'w mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ("Deddf 1999"). Mae'r adran 8A newydd o Ddeddf 1999 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd ymarfer sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr a benodwyd ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf 1999. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd mewn perthynas ag archwilio cynlluniau perfformiad, gan archwilwyr a benodwyd ganddo, o dan Ran 1 o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd yr adran 8A(4) newydd o Ddeddf 1999, mae gan y Cynulliad y pŵer i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd amgen.
Mae is-adrannau (6) i (8) o adran 54 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiddymu neu ddiwygio darpariaethau blaenorol adran 54, drwy orchymyn a wnaed gan offeryn statudol.
Mae adran 58 yn cynnwys darpariaethau o ran ffurf a chynnwys gorchmynion a rheoliadau y caiff y Cynulliad eu gwneud o dan Ran 2 o'r Ddeddf, ac o ran cynnwys gorchmynion neu reoliadau y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu gwneud o dan y Rhan honno.
Mae adran 59 yn gosod y dehongliad o'r termau amrywiol at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf.
Mae adran 68 yn darparu ar gyfer gwneud cynlluniau trosglwyddo i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol, sy'n gwneud darpariaeth bellach am y cynlluniau trosglwyddo hynny.
Notes:
[1]
2004 p. 23.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
1999 p.27.back
English version
ISBN
0 11 091057 5
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
25 January 2005
|