British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 Rhif 36 (Cy.3)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050036w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 36 (Cy.3)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005
|
Wedi'i wneud |
11 Ionawr 2005 | |
|
Yn dod i rym |
9 Chwefror 2005 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i holl swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac yntau wedi ymgynghori fel yr ymddengys ei bod yn briodol iddo ei wneud yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 a daw i rym ar 9 Chwefror 2005.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr "gwladwriaeth berthnasol" ("relevant state") yw aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir;
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC[3] ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd; ac
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005[4].
Swyddogaethau Ychwanegol
3.
- (1) Mae'r Cyngor, ac yntau wedi'i ddynodi yn unol â'r Rheoliadau, i gael swyddogaeth ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.
(2) Mae'r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd am y gofynion i gydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr 2005
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ymhlith swyddogaethau'r Cyngor y mae sefydlu a chynnal cofrestr athrawon, cyhoeddi Cod Ymarfer, gosod safonau ymddygiad ac arferion proffesiynol a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phobl sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru a rhoi cyngor am faterion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Cyngor wedi'i bennu'n awdurdod dynodedig at ddibenion Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hynny yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb 89/48/EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am dair blynedd o leiaf. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaeth gweithredu fel awdurdod dynodedig i'r Cyngor. Ac yntau'n awdurdod dynodedig, mae'r Cyngor i ymdrin â cheisiadau oddi wrth bobl sydd wedi cymhwyso mewn gwladwriaeth berthnasol (aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a'r Swistir) am gael cydnabod eu cymwysterau proffesiynol.
Hefyd, rhoddir swyddogaeth ychwanegol i'r Cyngor, sef rhoi gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd am ofynion cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.
Notes:
[1]
1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2940 (Cy.281)). Diwygiwyd adran 7(3) gan baragraff 78 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
OJ Rhif L19, 24.1.89, t.16.back
[4]
O.S. 2005/18.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091059 1
|
© Crown copyright 2005 |
Prepared
31 January 2005
|