Wedi'u gwneud | 8 Rhagfyr 2004 | ||
Yn dod i rym | 20 Rhagfyr 2004 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Y pŵer i Atal Cofrestriad Dros Dro |
4. | Cyfnod yr Atal Dros Dro |
5. | Hysbysiad o'r Atal Dros Dro, etc. |
6. | Darpariaethau'r Hysbysiad |
7. | Diddymu'r Atal Dros Dro |
8. | Hawliau i Apelio |
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â pherson cofrestredig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at -
Y pŵer i atal cofrestriad dros dro
3.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau 4, 5, 6 a 7, atal dros dro gofrestriad unrhyw berson sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd os oes sail resymol i'r Cynulliad Cenedlaethol gredu y byddai neu y gallai parhau â'r ddarpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd wneud un neu fwy o'r plant y darperir y gofal ar eu cyfer, neu y gellid darparu'r gofal ar eu cyfer, yn agored i risg o niwed, ac mai at un o'r dibenion a nodir ym mharagraff (2) y gwneir yr atal dros dro.
(2) Dibenion yr atal dros dro yw -
Cyfnod yr atal dros dro
4.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn atal cofrestriad unrhyw berson dros dro o dan reoliad 3, bydd cyfnod yr atal dros dro yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i'r person cofrestredig o dan reoliad 5.
(2) Ni chaniateir i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad y daw'r cyfnod atal dros dro i ben fod yn fwy na 6 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cyfnod.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw'r ffaith bod cofrestriad unrhyw berson wedi'i atal dros dro ar unrhyw adeg yn rhwystro'r Cynulliad Cenedlaethol rhag atal dros dro gofrestriad y person hwnnw ymhellach ar unrhyw adeg, boed hynny yn ystod cyfnod blaenorol o atal dros dro neu ar ôl iddo ddod i ben, a boed hynny ar yr un sail neu ar sail wahanol.
(4) Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer ei bŵer i atal dros dro gofrestriad person yn y fath fodd fel y byddai effaith hynny yn golygu bod cofrestriad y person hwnnw wedi'i atal dros dro am gyfnod a fyddai'n hwy na chyfanswm o 12 wythnos o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, gan gynnwys unrhyw gyfnod arall pan yr ataliwyd cofrestriad y person hwnnw dros dro, boed hynny ar yr un sail neu ar sail sy'n sylweddol yr un fath.
(5) Bydd y paragraff hwn yn gymwys os oes un neu fwy o'r amgylchiadau a ganlyn yn gymwys ar yr adeg pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei bŵer i atal dros dro gofrestriad person:
ar yr amod, ym mhob achos, nad oedd yr amgylchiad o dan sylw wedi codi oherwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol fethu â chymryd y camau hynny yr oedd yn rhesymol ymarferol iddo eu cymryd.
(6) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir i berson cofrestredig o dan reoliad 5, sy'n gosod cyfnod o atal dros dro na fyddai gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i'w fynnu os nad oedd paragraff (5) yn gymwys, ddatgan y ffaith honno, a rhaid nodi pa un o'r amgylchiadau a geir yn y paragraff hwnnw sy'n gymwys.
(7) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at y sail dros atal dros dro gofrestriad person yn gyfeiriadau at yr amgylchiadau sydd wedi arwain y Cynulliad Cenedlaethol i gredu y byddai caniatáu i'r person hwnnw barhau i ddarparu gofal plant neu ofal dydd yn gadael, neu y gallai adael, un neu fwy o'r plant sy'n derbyn y gofal, neu a allai dderbyn y gofal, yn agored i'r risg o niwed.
Hysbysiad o'r atal dros dro, etc.
5.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliad 6, roi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw atal cofrestriad dros dro a wneir o dan y Rheoliadau hyn i'r person cofrestredig, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn yr atal dros dro.
Darpariaethau'r hysbysiad
6.
- (1) Gellir rhoi hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn drwy ei draddodi yn bersonol i'r person cofrestredig, ei anfon drwy'r post, wedi'i gyfeirio'n briodol, mewn llythyr cofrestredig neu drwy'r gwasanaeth cofnodi'r dosbarthiad, neu drwy ei drosglwyddo yn electronig.
(2) Bernir y bydd hysbysiad at berson cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyfeirio'n briodol os yw'r llythyr wedi'i gyfeirio at y person cofrestredig yn y cyfeiriad cartref yr hysbysodd y person cofrestredig y Cynulliad Cenedlaethol ohono yn y gorffennol naill ai adeg gwneud cais am gofrestru neu ers hynny.
(3) Trosglwyddir hysbysiad yn electronig at ddibenion paragraff (1) pan gaiff y manylion a gynhwyswyd yn yr hysbysiad eu trosglwyddo o system gyfrifiadurol a weithredir gan y Cynulliad Cenedlaethol i system gyfrifiadurol a weithredir gan y person cofrestredig drwy ddull electronig i unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu'n electronig a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y person hwnnw.
Diddymu'r atal dros dro
7.
- (1) Heb ragfarn i reoliad 4(2), pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi atal dros dro gofrestriad person, rhaid iddo ddiddymu'r atal dros dro ar unrhyw adeg, boed a wnaed cais ysgrifenedig o dan baragraff (2) ai peidio, os na fydd ganddo bellach sail resymol dros gredu bod y rhesymau dros yr atal dros dro yn gymwys.
(2) Caiff person y mae ei gofrestriad wedi'i atal dros dro yn unol â'r Rheoliadau hyn wneud cais ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg i gael diddymu'r atal dros dro.
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu diddymu neu beidio â diddymu'r atal dros dro ar gofrestriad person, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad at y person cofrestredig yn syth ac yn unol â rheoliad 6.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu peidio â diddymu'r atal dros dro ar gofrestriad person, rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (3) gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(5) Bydd unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu'r atal dros dro yn effeithiol o ddyddiad penodol, a rhaid nodi'r dyddiad hwnnw yn yr hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
Hawliau i apelio
8.
- (1) Caiff person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn -
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mewn apêl o dan baragraff (1), caiff y Tribiwnlys -
ac, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, caiff y Tribiwnlys arfer hefyd ei bŵer o dan (b) mewn unrhyw achos y mae'n arfer ei bŵer o dan (a) os yw'n fodlon nad yw amodau'r atal dros dro wedi'u bodloni bellach, a hynny ar adeg gwneud ei benderfyniad.
(3) Os nad yw'r atal cofrestriad person dros dro, y gwnaed apêl yn ei gylch o dan baragraff (1), bellach yn effeithiol:
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004