Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043158w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif3158 (Cy.275)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
30 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
9 Rhagfyr 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(1), 33(5), (7) a (9), 105(2) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 9 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac felly mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol yng Nghymru[
2].
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y Cynulliad" ("the Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac
ystyr "trefniadau amgen" ("alternative arrangements") yw'r trefniadau a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[3].
Cynigion
2.
- (1) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth ("trefniadau gweithrediaeth presennol"), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(1) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth ("trefniadau gweithrediaeth gwahanol") sy'n wahanol i'r trefniadau gweithrediaeth presennol naill ai:
(a) mewn modd sy'n golygu disodli gweithrediaeth ar ei ffurf bresennol â gweithrediaeth ar ffurf wahanol[4]; neu
(b) mewn modd nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a).
(2) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen yn eu lle[5].
(3) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ("trefniadau amgen presennol"), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 33(2) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 9(2) neu beidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen ("trefniadau amgen gwahanol") sy'n wahanol i'r trefniadau amgen presennol mewn unrhyw ffordd.
(4) Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen presennol lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn eu lle.
Llunio cynigion
3.
- (1) Cyn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac â phersonau eraill sydd â buddiant yn yr ardal honno.
(2) Rhaid i gynigion a lunnir o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4) gynnwys -
(a) unrhyw fanylion am y trefniadau arfaethedig y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu rhoi;
(b) amserlen ynglyn â rhoi'r cynigion ar waith; ac
(c) manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.
(3) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4), rhaid i awdurdod lleol benderfynu -
(a) beth fydd ffurf y weithrediaeth; a
(b) i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf 2000 (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth) i fod yn gyfrifoldeb y weithrediaeth[6].
(4) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(2) neu 2(3), rhaid i awdurdod lleol benderfynu i ba raddau y mae ei swyddogaethau i'w dirprwyo i Fwrdd yr awdurdod[7].
(5) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y byddai'r cynigion, o'u rhoi ar waith, yn debyg o fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Cyfarwyddiadau
4.
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gofyniad i gynnal refferendwm
5.
- (1) Os bydd awdurdod lleol yn llunio cynigion o dan reoliad 2 a fyddai, petaent wedi'u gwneud o dan adran 25 o Ddeddf 2000 (Cynigion), yn ei gwneud yn ofynnol i refferendwm gael ei gynnal, mae darpariaethau adran 27(1)(a) o Ddeddf 2000 (Refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig) i fod yn gymwys i'r cynigion hynny.
(2) Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd paragraff (1), rhaid iddo lunio amlinelliad o'r cynigion hefyd ("cynigion amlinellol wrth gefn") y mae rhaid iddynt gynnwys crynodeb o drefniadau gweithrediaeth presennol yr awdurdod lleol neu ei drefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd.
(3) Ni chaiff awdurdod lleol gynnal refferendwm o'r fath cyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol -
(a) dyddiad cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Cynulliad o'r cynigion y mae'r refferendwm i fod i ymnwneud â hwy; a
(b) y dyddiad sy'n ddeufis ar ôl y dyddiad y mae copi o'r cynigion, y datganiad a'r cynigion amlinellol wrth gefn yn cael eu hanfon i'r Cynulliad yn unol â rheoliad 6.
Gwybodaeth sydd i'w hanfon i'r Cynulliad
6.
- (1) Os yw cynigion yn cael eu llunio o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i'r awdurdod lleol anfon i'r Cynulliad -
(a) copi o'r cynigion; a
(b) datganiad sy'n disgrifio -
(i) y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, ac â phersonau eraill â buddiant ynddi;
(ii) canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw wedi'i adlewyrchu yn y cynigion; a
(iii) y rhesymau pam y mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, os caent eu gweithredu, yn debyg o sicrhau y byddai penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.
(2) Os yw'n ofynnol i awdurdod lleol gynnal refferendwm yn rhinwedd rheoliad 5, rhaid iddo anfon i'r Cynulliad hefyd, ynghyd â'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), gopi o'r cynigion amlinellol wrth gefn, a luniwyd o dan reoliad 5(2).
Cynigion nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt
7.
- (1) Os yw awdurdod lleol -
(a) yn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4) ac nad yw'n ofynnol cynnal refferendwm ar gyfer y cynigion hynny; neu
(b) yn llunio cynigion o dan reoliad 2(2),
rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (2), roi'r cynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, y mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi cynigion ar waith, beidio â gwneud hynny heb gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad.
Cynigion y mae'n ofynnol cynnal refferendwm arnynt
8.
- (1) Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw gwrthod y cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol -
(a) peidio â rhoi'r cynigion hynny ar waith; a
(b) os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu -
(i) trefniadau gweithrediaeth presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), parhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu neu yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol[8];
(ii) trefniadau amgen presennol (fel y maent wedi'u crynhoi yn ei gynigion amlinellol wrth gefn), rhaid iddo barhau i weithredu'r trefniadau presennol hynny hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau amgen gwahanol neu hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle ei drefniadau amgen presennol neu y gwneir yn ofynnol iddo eu gweithredu[9].
(2) Os canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn rhinwedd rheoliad 5 yw cymeradwyo'r cynigion a oedd yn destun y refferendwm, rhaid i'r awdurdod lleol roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion.
Y gofynion ar gyfer penderfyniad
9.
- (1) Mae is-adran (1) o adran 29 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol yn yr un modd ag y mae'n gymwys i weithredu trefniadau gweithrediaeth yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau amgen presennol.
(2) Mae is-adran (2) o adran 33 o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen) i fod yn gymwys i weithredu trefniadau amgen gwahanol fel y mae'n gymwys i weithredu trefniadau amgen yn wreiddiol neu yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol.
Cyhoeddusrwydd ar gyfer trefniadau
10.
- (1) Os yw awdurdod wedi penderfynu gweithredu -
(a) trefniadau gweithrediaeth gwahanol; neu
(b) trefniadau amgen gwahanol,
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar bob awr resymol.
(2) Os yw awdurdod wedi penderfynu -
(a) gweithredu trefniadau gweithrediaeth gwahanol sy'n cynnwys disodli gweithrediaeth ag un ar ffurf wahanol;
(b) gweithredu trefniadau amgen yn lle'r trefniadau gweithrediaeth presennol; neu
(c) gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn lle'r trefniadau amgen presennol,
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, gyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cydymffurfio â darpariaethau paragarff (3).
(3) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) -
(a) datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau;
(b) datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol i ddechrau gweithredu'r trefniadau hynny;
(c) disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny;
(ch) datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i aelodau o'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ar unrhyw adeg a bennir yn yr hysbysiad; a
(d) pennu cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.
(4) Os bydd cynigion yr awdurdod lleol wedi'u gwrthod mewn refferendwm yr oedd yn ofynnol ei gynnal yn rhinwedd rheoliad 5(1), rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cynnal y refferendwm, mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sydd -
(a) yn crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm;
(b) yn datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny;
(c) yn nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol; ac
(ch) yn datgan y bydd y trefniadau gweithrediaeth presennol neu'r trefniadau amgen presennol, yn ôl y digwydd, (fel y maent wedi'u crynhoi yng nghynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol) yn parhau i weithredu.
Ymgynghori cyn y dyddiad cychwyn
11.
- (1) Mae paragraff (2) yn gymwys -
(a) os yw'n ofynnol bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal o dan un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn; a
(b) os, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, y bydd ymgynghoriad wedi'i gynnal a hwnnw'n un a fyddai wedi bodloni gofynion y ddarpariaeth honno i unrhyw raddau pe bai wedi bod mewn grym.
(2) Rhaid cymryd bod y gofynion hynny wedi'u bodloni i'r graddau hynny.
Dirymu
12.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002[10] drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Ar ôl i Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") gychwyn yng Nghymru, lluniodd cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol Cymru gynigion ar gyfer gweithredu naill ai trefniadau gweithrediaeth (y mae swyddogaethau penodol yr awdurdodau lleol hynny yn gyfrifoldeb gweithrediaeth odanynt) neu weithredu trefniadau amgen. Yn achos trefniadau gweithrediaeth, rhaid i weithrediaeth yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (4) o Ddeddf 2000.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002 ac yn galluogi awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, i lunio cynigion i newid y trefniadau gweithrediaeth hynny neu i roi trefniadau amgen yn eu lle. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn galluogi awdurdod lleol, sy'n gweithredu trefniadau amgen i lunio cynigion i newid y trefniadau amgen hynny neu i roi trefniadau gweithrediaeth yn eu lle (rheoliad 2).
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â chynigion penodol, ar gyfer ymgynghori ac ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y cynigion. Mae gofyniad, mewn perthynas â phob cynnig, i'r awdurdod lleol ystyried sut y gall y cynigion fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd mae ei swyddogaethau yn cael eu harfer, gan dalu sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 5 yn nodi pryd y mae angen refferendwm cyn y caiff awdurdod lleol gymryd camau i roi ei gynigion ar waith. Rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynigion hynny yn gyntaf.
Mae Rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i wybodaeth benodol gael ei hanfon i'r Cynulliad.
Mae Rheoliad 7 yn darparu bod rhaid i gynigion penodol, nad oes angen refferendwm ar eu cyfer, gael eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion. Mae hyn ar yr amod bod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r cynigion hynny yn gyntaf.
Os bydd refferendwm yn gwrthod cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu ei drefniadau presennol hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau eraill neu hyd nes y gwneir yn ofynnol iddo wneud hynny. Os bydd refferendwm yn cymeradwyo cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion (rheoliad 8).
Mae Rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad gael ei basio gan awdurdod lleol er mwyn i'r awdurdod hwnnw weithredu trefniadau gwahanol.
Ar ôl gwneud penderfyniad o dan adran 29(1) neu 33(2) o Ddeddf 2000, fel y'i cymhwysir gan reoliad 9, rhaid bod copïau o ddogfen sy'n nodi'r darpariaethau yn y trefniadau arfaethedig ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol. Ar gyfer cynigion penodol, ac ar gyfer cynigion sydd wedi'u gwrthod drwy refferendwm, rhaid i wybodaeth benodedig gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd (rheoliad 10).
Mae Rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymgynghori gan awdurdod lleol, at ddibenion rheoliad 3(1), cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
Gweler adran 48(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i gael y diffiniad o "awdurdod lleol".back
[3]
O.S. 2001/2284 (Cy.173), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/3711, 2002/810, 2003/155, 2003/2676, a 2004/3092.back
[4]
Mae ffurfiau ar weithrediaeth wedi'u pennu yn adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[5]
Yn rhinwedd O.S. 2001/2284 (fel y'i diwygiwyd), caiff pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen.back
[6]
Gweler O.S. 2001/2291 (Cy.179), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/783, 2003/153, 2003/2676 a 2004/3093back
[7]
Gweler, yn benodol, reoliadau 7 i 11 of O.S. 2001/2284 (fel y'i diwygiwyd).back
[8]
Gweler, yn benodol, adrannau 30 a 33 i 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[9]
Gweler, yn benodol, adrannau 33 i 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[10]
O.S. 2002/2880 (Cy.276).back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091041 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
8 December 2004
|