Wedi'u gwneud | 30 Tachwedd 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Rhagfyr 2004 |
Cymhwyster
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) mae bandiau prisio trosiannol sy'n gymwys i annedd i'w dynodi'n unol â rheoliad 4 ar gyfer y cyfnod trosiannol.
(2) Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi mewn perthynas ag annedd:
(3) Nid yw band prisio trosiannol i fod yn gymwys i annedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fo'r annedd yn dod o fewn dosbarth o anheddau a ragnodwyd naill ai gan reoliad 4 (Dosbarth A) neu gan reoliad 5 (Dosbarth B) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998[5].
(4) Os yw'r band prisio sy'n gymwys i annedd yn codi, fel canlyniad i newid y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol, i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol yna, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid ymdrin â'r annedd fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau neu fwy.
(5) Os yw annedd i'w thrin o dan baragraff (4) fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy, dim ond o'r dyddiad y newidir y rhestr brisio yn unol â Rheoliadau 1993 neu y tybir y'i newidir felly y mae unrhyw fand prisio trosiannol a ddynodir mewn cysylltiad â'r annedd i fod yn gymwys:
Dynodi bandiau prisio trosiannol
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, mae'r band prisio trosiannol ar gyfer annedd yn ystod y cyfnod trosiannol i'w ddynodi'n unol â'r paragraffau canlynol ar gyfer pob un o flynyddoedd y cyfnod trosiannol neu ran o un o'r blynyddoedd hynny a dim ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae i'w ddynodi.
(2) At ddibenion y flwyddyn drosiannol gyntaf dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(3) At ddibenion yr ail flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(4) At ddibenion y drydedd flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
Effaith dynodi bandiau prisio trosiannol
5.
Os yw band prisio trosiannol wedi'i ddynodi mewn cysylltiad ag annedd ar gyfer y cyfnod trosiannol neu unrhyw ran ohono, rhaid penderfynu ar atebolrwydd i dalu treth gyngor ar yr annedd honno a chyfrifo'r dreth gyngor fel pe bai cyfeiriadau yn Neddf 1992 at y band prisio a restrir ar gyfer yr annedd yn gyfeiriadau at y band prisio trosiannol y dynodir ei fod yn gymwys i'r annedd honno.
Cymhwyso Rheoliadau 1992 yn ystod y cyfnod trosiannol
6.
Mae paragraff (6)(a) o reoliad 4 (Cyfrifo'r swm sy'n daladwy) o Reoliadau 1992 i'w ddarllen fel pe bai'r cyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio at reoliadau a wnaed o dan adran 13B hefyd[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
Nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y mae annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005 | Yn y flwyddyn drosiannol gyntaf (2005/06) gostyngir nifer y bandiau prisio y y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn | Yn yr ail flwyddyn drosiannol (2006/07) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn | Yn y drydedd flwyddyn drosiannol (2007/08) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn |
8 | 7 | 6 | 5 |
7 | 6 | 5 | 4 |
6 | 5 | 4 | 3 |
5 | 4 | 3 | 2 |
4 | 3 | 2 | 1 |
3 | 2 | 1 | 0 |
2 | 1 | 0 | 0 |
Os newidir y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol fel bod y band prisio ar gyfer annedd yn codi i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol, mae rheoliad 3(4) yn darparu ei bod yn rhaid ymdrin â'r annedd honno fel pe bai'n bodloni'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn (b) uchod. Os yw annedd, o dan reoliad 3(4), i gael ei thrin fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand neu fwy, mae rheoliad 3(5) yn darparu bod y band uwch i fod yn gymwys o'r dyddiad pryd y newidir y rhestr brisio neu y tybir y'i newidir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993.
Yn rheoliad 4, sy'n ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, gwelir ar ba sail y dynodir band prisio trosiannol ar gyfer annedd ym mhob un o'r tair blynedd ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol o'r fath) yn y cyfnod trosiannol. Dim ond yn achos person sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi. Mewn blwyddyn ariannol yn y cyfnod trosiannol mae nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n uwch na'r band prisio gwreiddiol, fel a welir yng ngholofn (1) o'r Atodlen, i'w ostwng gan y nifer cyfatebol o fandiau a welir yng ngholofn (2), (3) neu (4) ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Ychwanegir at y band prisio gwreiddiol nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi ac sy'n deillio o gyfrifo o'r fath er mwyn canfod y band prisio trosiannol sy'n briodol ar gyfer pob blwyddyn ariannol (neu ran o flwyddyn ariannol) yn y cyfnod trosiannol.
Pan fo band prisio trosiannol yn gymwys i annedd, mae rheoliad 5 yn darparu ei fod i'w gymryd yn sail i benderfynu a chyfrifo atebolrwydd dros dalu'r dreth gyngor.
Mae rheoliad 6 yn darparu bod rheoliad 4(6) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992 ("Rheoliadau 1992") i'w ddarllen yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at reoliadau a wneir o dan adran 13B o Ddeddf 1992 (h.y. y Rheoliadau hyn). Felly, caiff swm y dreth gyngor sy'n daladwy fel y'i cyfrifir o dan reoliad 4 o Reoliadau 1992 ei addasu drwy gyfeirio at y trefniadau trosiannol a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae'r Tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn nodi yng ngholofn (1) nifer y bandiau y bydd annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005 ac sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 4. Mae colofnau (2), (3) a (4) o'r Tabl yn nodi'n unol â hynny gan ba nifer cyfatebol o fandiau prisio y gostyngir nifer y bandiau y bydd annedd yn codi fel a welir yng ngholofn (1), a hynny yn y flwyddyn ariannol gyntaf, yr ail flwyddyn ariannol a'r drydedd yn y cyfnod trosiannol.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 1992/554 fel y'i diwygir gan O.S. 1993/195, O.S. 1996/309, O.S. 1997/261, O.S. 1998/266, O.S. 1999/1004 ac O.S. 2000/501.back
[4] O.S. 1993/290 fel y'i diwygir gan O.S. 1994/1746, O.S. 1996/613, O.S. 1995/363, O.S. 2000/409 ac O.S. 2001/1439. Gwnaed diwygiadau eraill i'r O.S. hwn nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[5] O.S. 1998/105 fel y'i diwygir gan O.S. 2004/452 (Cy. 43).back
[6] Mewnosodwyd adran 13B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan adran 79 (Trefniadau Trosiannol) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).back