British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043092w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif3092 (Cy.266)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
23 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
24 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2.
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2001[
2] fel a ganlyn -
(a) yn rheoliad 2, (ym mharagraff (i)) o'r diffiniad o "pwyllgor ardal" dileer "gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1";
(b) yn is-baragraff (2)(b) o reoliad 4 mewnosoder ar y diwedd "a'r is-bwyllgorau";
(c) ym mharagraff (2)(a) o reoliad 8 ar ei ddiwedd dileer "a" a mewnosoder "neu";
(ch) yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 10 mewnosoder ar y dechrau -
"
yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2";
(d) ym mharagraff (1) o reoliad 14 ar ôl "gyfrifoldeb" mewnosoder -
"
i'r awdurdod lleol (heblaw'r rhai y mae'n rhaid iddynt gael eu cyflawni gan awdurdod cyfan yn unig) neu";
(dd) yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(e) yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly)) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(f) yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
ATODLEN 1Rheoliad 2
Rhan
1
Diwygiadau i Atodlen 1
1.
Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:
Y Swyddogaeth
|
Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
|
67.
Swyddogaethau mewn perthynas â . sefydlu Pwyllgor Trwyddedu
|
Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
2.
Yn Rhan I:
(1) dileer paragraffau 18, 19; a
(2) mewnosoder ar ôl paragraff 17:
Swyddogaethau
|
Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
|
18.
Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.
|
Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
19.
Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi "priod swyddogion").
|
Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
20.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc.
|
Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
21.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.
|
Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
22.
Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy.
|
Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
23.
Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.
|
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
24.
Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.
|
Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
RHAN
2
Diwygiadau i Atodlen 2
Ar y diwedd, ychwaneger:
RHAN
3
Diwygiadau i Atodlen 3
1.
Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglyn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer "92" a mewnosoder "108".
2.
Dileer y cofnod ynglyn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.
3.
Ar y diwedd, ychwaneger:
(1) Cynlluniau a Strategaethau
|
(2) Cyfeirnod
|
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. |
Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu 'trefniadau amgen' h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod yn unol ag adran 31(1)(b) ac adran 32(1) o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") (fel y'u diwygiwyd) yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf y mae Rheoliadau 2001 (fel y'u diwygiwyd) yn gofyn amdani.
Pennodd Rheoliadau 2001 swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifioldeb i Fwrdd awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Yn rheoliad 2 mae'r rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau i Reoliadau 2001 yn Atodlen 1 drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod, drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau yn Atodlen 2 a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) a diwygio Atodlen 3 drwy ychwanegu at y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
O.S. 2001/2284 (Cy.173) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhieni-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, O.S. 2001/3711 (Cy. 307), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S. 2002/810 (Cy. 90), a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003, O.S. 2003/155 (Cy.25).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091033 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
30 November 2004
|