British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042920w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2920 (Cy.259)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
9 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[
1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Cartrefi gofal preswyl
2.
Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992[
2], yn lle Dosbarth A rhodder -
"
Class A
(a) a care home within the meaning of the Care Standards Act 2000[3], in respect of which a person is registered in accordance with Part 2 of that Act;
(b) a building or part of a building in which residential accommodation is provided under section 21 of the National Assistance Act 1948[4]); or
(c) a hostel within the meaning given by paragraph 7 of Schedule 1[5] to the Act.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992 ("Rheoliadau 1992").
Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi'r dosbarthau ar o anheddau y mae'r perchennog ac nid y meddiannydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas â hwy. Darparodd Dosbarth A yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hynny mai'r perchennog fyddai'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar gyfer cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio meddyliol neu hostel o fewn ystyron "residential care home, nursing home, mental nursing home" a "hostel", yn eu trefn, a roddwyd gan baragraph 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.
Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000"), drwy roi cyfeiriadau at "care home" ac "independent hospital" yn lle'r termau blaenorol "residential care home", "nursing home" a "mental nursing home". Mae erthygl 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi Dosbarth A newydd yn Rheoliadau 1992 yn lle'r Dosbarth A presennol. Mae'r Dosbarth A newydd yn cyfeirio at gartrefi gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, y mae person wedi ei gofrestru mewn perthynas ag ef yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno, at adeiladau neu rannau o adeiladau lle y darperir llety preswyl o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac at hostelau o fewn yr ystyr sydd iddynt ym mharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.
Ar gyfer cartref gofal o fewn yr ystyr sydd i "care home" yn Neddf 2000, pan fydd person wedi cofrestru mewn perthynas â'r cartref yn unol â Rhan 2 y Ddeddf honno, y perchennog ac nid y meddiannydd fydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Pan nad oes neb wedi cofrestru felly, er y dylent fod wedi gwneud, y meddianwyr ac nid y perchennog fydd yn parhau i fod yn atebol am dalu'r dreth gyngor.
Notes:
[1]
1992 p.14. Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back
[2]
S.I. 1992/551.back
[3]
2000 p.14.back
[4]
1948 p.29.back
[5]
Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, gweler adran 116 a pharagraff 20 Atodlen 4 o'r Ddeddf honno. I weld y diffiniad o "hostel" gweler erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 (O.S. 1992/548) fel ag y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taliadwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2921 (Cy. 260)).back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091030 3
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 November 2004
|