British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042918w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2918 (Cy.257)
GWASANAETHAU TÂN
PENSIYNAU
Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
9 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
11 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 36, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[
1]:
Cymhwyso, enwi a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 11 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Cynllun" yw'r cynllun a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[
2] ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992[
3].
Cadw'r cynllun pensiwn presennol
3.
- (1) Er gwaethaf diddymu adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[
4]), bydd y Cynllun yn parhau mewn grym.
(2) Bydd y deddfiadau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun fel pe na baent wedi'u diwygio neu eu diddymu, fel sy'n briodol, gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Newid enw'r cynllun
4.
- (1) Enw newydd y Cynllun fydd "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)".
(2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
ATODLENErthygl 3(2)
Deddf
|
Adrannau o'r Ddeddf sy'n parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun
|
Deddf Gwasanaethau Tân 1947 |
Adran 26, is-adrannau (1) i (5)[6]
Adran 27A[7]
Adran 35, i'r graddau y mae'n berthnasol i adran 26
Adran 39(5)
Y Drydedd Atodlen
|
Deddf Gwasanaethau Tân 1951[8] |
Adran 1 |
Deddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951[9]) |
Adran 46(3)(iii)
Adran 61(1)(d)
|
Deddf Gwasanaethau Tân 1959[10] |
Adran 8, is-adrannau (1) i (3)
Adran 9, is-adrannau (1) a (2)Adran 10
|
Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971[11]) |
Paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2[12] |
Deddf Blwydd-daliadau 1972[13] |
Adran 16
Adran 24(1)(a)
|
Deddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997[14] |
Adran 1(3) |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ("y Cynllun"), a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947, yn parhau mewn grym er bod yr adran honno wedi'i diddymu gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. At ddibenion y Cynllun, mae'r Gorchymyn hwn yn parhau i roi effaith i ddeddfiadau penodol a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Ddeddf 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer newid enw'r Cynllun yn "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)". Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol.
Notes:
[1]
2004 p.21.back
[2]
1947 p. 41.back
[3]
O.S. 1992/129, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2309, 1997/2851, 1998/1010, 2001/3649, 2001/3691 ac O.S. 2001/310.back
[4]
Diddymir Adran 26 gan adran 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo yn parhau i roi effaith i'r adran honno at ddibenion y Cynllun.back
[5]
1998 p.38.back
[6]
Diwygiwyd adran 26 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27); adran 42 o Ddeddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65); adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 8 iddi (p. 11); adran 100 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1973 ac Atodlen 27 iddi (p. 38); adran 1 o Ddeddf Cymorth Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 ac Atodlen 1 iddi (p. 18); adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43); adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p. 52) ac erthygl 2 o Orchymyn Cymorth Gwladol (Addasu Deddf Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).back
[7]
Mewnosodwyd adran 27A gan adran 3 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 ac fe'i diwygiwyd gan erthygl 102 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).back
[8]
1951 p.27.back
[9]
1951 p.65; diwygir adrannau 46(3)(iii) a 61(1)(d), o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddi.back
[10]
1959 p. 44.back
[11]
1971 p. 56; mewnosodwyd paragraff 16A o Atodlen 2 gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a pharagraff 89 o Atodlen 6 iddi. Diwygir paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2, o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 35 o Atodlen 1 iddi.back
[12]
1971 p.56; mewnosodwyd paragraff 16A gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 6 iddi.back
[13]
1972 p.11. O 11 Tachwedd 2004, diwygir adran 24(1)(a) gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, a pharagraff 37 o Atodlen 1 iddi.back
[14]
1997 p.52.back
English version
ISBN
0 11091027 3
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 November 2004
|