British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042880w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2880 (Cy.250)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004
|
Wedi'i wneud |
2 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
19 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 56(1)(b) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Gofal Cymru[
2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) O ran y Gorchymyn hwn -
(a) ei enw yw Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004;
(b) mae'n dod i rym ar 19 Tachwedd 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Gofal Cymru;
ystyr "gwaith" ("work") yw gwaith o unrhyw fath a grybwyllir yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf.
Pennu gweithwyr gofal cymdeithasol
2.
- (1) Mae'r gweithwyr gofal cymdeithasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod wedi'u pennu at ddibenion adran 56(1)(b) o'r Ddeddf (dyletswydd y Cyngor i gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol a bennir drwy orchymyn)[3].
(2) Mae'r disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol yn cyfeirio at y personau hynny -
(a) sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf[4];
(b) sydd fel arfer yn cyflawni rhyw waith yng Nghymru neu'n disgwyl gwneud hynny; ac
(c) y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, yn rhinwedd y gwaith hwnnw, ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol ar eu cyfer o dan adran 113(1) neu 115(1) o Ddeddf yr Heddlu 1997[5].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6])
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 56(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion adran 56(1).
Notes:
[1]
2000 p. 14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister", sy'n golygu'r "Assembly", mewn perthynas â Chymru: adran 121(1) o'r Ddeddf. Ystyr "Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: adran 5(1)(b) o'r Ddeddf.back
[2]
Gweler adran 56(4) o'r Ddeddf ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back
[3]
Dyma'r ail grwp o weithwyr gofal cymdeithasol i gael eu pennu at ddibenion cofrestru gyda'r Cyngor o dan adran 56(1)(b). Gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant a bennwyd gan O.S. 2004/709 (Cy.76) oedd y grŵp cyntaf.back
[4]
Mae person yn dod o dan adran 55(2)(b) os yw'n cael ei gyflogi mewn cartref plant, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd neu at ddibenion asiantaeth gofal cartref, asiantaeth faethu neu asiantaeth fabwysiadu wirfoddol. Mae person yn dod o dan adran 55(2)(c) os yw'n rheoli sefydliad, neu asiantaeth, o ddisgrifiad a grybwyllir yn adran 55(2)(b). Mae person yn dod o dan adran 55(2)(d) os yw wedi'i gyflenwi gan asiantaeth gofal cartref i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd.back
[5]
1997 p. 50.back
[6]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11091018 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
9 November 2004
|