Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042731w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2731 (Cy.238)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
19 Hydref 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Hydref 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[
2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), a chan gynnwys camau cynradd cynhyrchu bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl yr ymgynghori sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig, a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990
2.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990[
4]) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 5 (labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym), mewnosoder y paragraff a ganlyn ar y diwedd -
"
(5) In this regulation "Council Directive 89/108/EEC" means Council Directive 89/108/EEC on the approximation of the laws of Member States relating to quick-frozen foodstuffs for human consumption[5] as amended by amendments up to and including those effected by the Act of the European Community concerning the conditions of accession of the Czech Republic, the Republic of Estonia, the Republic of Cyprus, the Republic of Latvia, the Republic of Lithuania, the Republic of Hungary, the Republic of Malta, the Republic of Poland, the Republic of Slovenia and the Slovak Republic and the adjustments to the Treaties on which the European Union is founded[6].".
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993
3.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993[7] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mhob un o baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) amnewidir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau a geir ym mhob un o'r paragraffau hynny: "CEE - EØF - EWG - EOK - EEC - EEG - ETY - EHS - EMÜ - EEK - EEB - EGK - KEE - EGS".
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
4.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[8]) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y diffiniad o "Directive 2000/13" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosoder yr ymadrodd "the Act of the European Community concerning the conditions of accession of the Czech Republic, the Republic of Estonia, the Republic of Cyprus, the Republic of Latvia, the Republic of Lithuania, the Republic of Hungary, the Republic of Malta, the Republic of Poland, the Republic of Slovenia and the Slovak Republic and the adjustments to the Treaties on which the European Union is founded" yn union o flaen y geiriau "and as read with".
Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998
5.
- (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998[9] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn indent cyntaf paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad), rhoddir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w chael yn yr indent hwnnw: "B / CZ / DK / D / EE / EL / E / F / IRL / I / CY / LV / LT / L / HU / MT / NL / AT / PL / P / SI / SK / FI / SE / UK".
(3) Yn nhrydydd indent paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3, rhodder y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w cael yn yr indent hwnnw: "CE - EC - EG - EK - EF - EY - ES - EÜ - KB - KE - WE".
Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
6.
- (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000[10] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd y diffiniad o "y Gyfarwyddeb" a geir yn rheoliad 2 (dehongli), mewnosoder y testun a ganlyn -
"
fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan yr addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd".
Diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003
7.
- (1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003[11] yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd rheoliad 8(b), mewnosoder y testun a ganlyn -
"
fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan yr addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio'r ddeddfwriaeth fwyd a bennir isod a wnaed yn angenrheidiol drwy ddiwygiadau i ddeddfwriaeth fwyd y Gymuned Ewropeaidd gan y Rheoliadau hynny a wnaed gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seiliwyd yr Undeb Ewropeaidd arnynt (OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33) ("y Ddeddf").
2.
Mae'r Rheoliadau -
(a) yn rheoliad 5 (labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym) o Reoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990 (O.S. 1990/2615, fel y'u diwygiwyd eisoes).
(i) yn ychwanegu diffiniad o "Council Directive 89/108/EEC", a
(ii) drwy hynny'n ychwanegu at restr yr ieithoedd (o dan baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwnnw) y gellir dangos bod y bwyd o dan sylw wedi'i rewi'n gyflym ynddynt, ieithoedd Gwladwriaethau penodol sydd, yn rhinwedd y Ddeddf, yn dod yn Aelod-wladwriaethau newydd o'r Gymuned Ewropeaidd (rheoliad 2);
(b) yn diwygio is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) i Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o'r is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion wyau sy'n gadael sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw (rheoliad 3);
(c) ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd eisoes) -
(i) yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 2000/13" drwy gynnwys cyfeiriad at y Ddeddf yn y rhestr ddeddfwriaeth sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29), a
(ii) drwy hynny yn estyn rhychwant yr amddiffyniad ar allforion yn rheoliad 47 o'r Rheoliadau hynny drwy ei wneud yn gymwys os yw'r tramgwydd a gyhuddir yn ymwneud â'r gofyn i labelu yn y Rheoliadau ynghylch y dyddiad "use by" neu'r gofyn i labelu ynghylch bwyd a arbelydrwyd, y mae'r Wladwriaeth gyrchfan yn Wladwriaeth AEE a'i deddfwriaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad cyfatebol a osodir yng Nghyfarwyddeb 2000/13/EC (fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf er mwyn darparu y caiff y labelu o dan sylw fod yn iaith un o'r Aelod-wladwriaethau penodol) (rheoliad 4);
(ch) yn diwygio is-baragraff (1) o baragraff 2 o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad (a seiliwyd ar ddarpariaethau cyfatebol yr Atodiad i Gyfarwyddeb Cynhyrchion Pysgodfeydd)) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan indent cyntaf a thrydydd indent yr is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion pysgodfeydd a anfonir o sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw neu yn y dogfennau sydd gyda'r llwyth (rheoliad 5);
(d) yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)) yn diweddaru'r diffiniadau o "y Gyfarwyddeb" drwy gynnwys cyfeiriad at y Ddeddf yn y rhestr ddeddfwriaeth sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig (OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29) (rheoliad 6); ac
(dd) ym mharagraff (b) o reoliad 8 (amddiffyniad mewn perthynas ag allforion) o Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053 (Cy.291)) -
(i) diweddaru'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/114 EC ynghylch llaeth penodol wedi'i breserfio a'i ddadhydradu yn llwyr neu'n rhannol i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L15, 17.1.2002, t.19) drwy ychwanegu cyfeiriad at y diwygiad o'r Gyfarwyddeb honno gan y Ddeddf, a
(ii) drwy hynny yn estyn rhychwant yr amddiffyniad ar allforion yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny drwy ei wneud yn gymwys os yw'r tramgwydd a gyhuddir yn ymwneud ag un o'r gofynion a geir i labelu yn rheoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hynny ynghylch defnyddio disgrifiadau a neilltuwyd, y mae'r Wladwriaeth gyrchfan yn Wladwriaeth AEE a'i deddfwriaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad cyfatebol a osodir yng Nghyfarwyddeb 2000/114/EC (fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf er mwyn darparu y caiff y labelu o dan sylw fod yn iaith un o'r Aelod-wladwriaethau penodol) (rheoliad 7).
3.
Nid oes arfarniad rheoliadal wedi'i baratoi mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na fydd ganddo effaith ar gostau busnes.
Notes:
[1]
O.S.2003/2901.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
O.S.1990/2615, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[5]
OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34.back
[6]
OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.back
[7]
O.S. 1993/1520, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[8]
O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/249 (Cy.26); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond heb fod yr un ohonynt yn berthnasol.back
[9]
O.S. 1998/994, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10]
O.S. 2000/1866 (Cy.125).back
[11]
O.S. 2003/3053 (Cy.291).back
[12]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091007 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
27 October 2004
|