Wedi'u gwneud | 21 Medi 2004 | ||
Yn dod i rym | 30 Medi 2004 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso. |
2. | Dehongli. |
3. | Dirymu a darpariaethau trosiannol. |
4. | Dyrannu cyllideb ysgolion unigol. |
5. | Amseriad penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau cyllideb. |
6. | Ymgynghori. |
7. | Y fformwla ar gyfer penderfynu cyfrannau cyllideb. |
8. | Niferoedd disgyblion. |
9. | Niferoedd disgyblion : Cofrestru deuol. |
10. | Lleoedd. |
11. | Ysgolion o ddisgrifiad penodol. |
12. | Cyllid gwahaniaethol. |
13. | Ffactorau neu feini prawf ychwanegol. |
14. | Cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol. |
15. | Diwygio grant y Cyngor Cenedlaethol. |
16. | Addasu cyfran o'r gyllideb. |
17. | Ad-drefnu ysgol. |
18. | Ailbenderfynu cyfrannau cyllideb. |
19. | Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad. |
20. | Canran o gyllid "sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion". |
21. | Cywiro gwallau. |
22. | Trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. |
Yr Atodlen | Ffactorau neu feini prawf ychwanegol y caniateir eu cymryd i ystyriaeth mewn fformwla awdurdod addysg lleol o dan reoliad 13 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.
(5) Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).
(6) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at wahardd disgybl yn barhaol yn gyfeiriad at waharddiad parhaol y disgybl fel y'i diffinnir o dro i dro at ddibenion adran 494 o Ddeddf 1996[9].
(7) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i'r geiriau neu'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir isod yn y paragraff hwn yr ystyron a roddwyd iddynt gan y darpariaethau a bennir -
(8) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn a rifwyd felly ac mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff a rifwyd felly yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, dirymir Rheoliadau 1999 (i'r graddau nad ydynt wedi'u dirymu eisoes[13]), Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000[14], Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001[15], Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002[16]) a Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2003[17] o 1 Ebrill 2005 ymlaen.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), caniateir i gyfran cyllideb ysgol gael ei hailbenderfynu o dan Reoliadau 1999, yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2005, os yw'r ailbenderfyniad hwnnw yn gwneud darpariaeth ar gyfer -
(3) Er gwaethaf paragraff (1), mae Rhan IV (Cynlluniau) o Reoliadau 1999 ac Atodlen 5 iddynt yn parhau mewn grym.
Dyrannu cyllideb ysgolion unigol
4. -
Rhaid i awdurdod addysg lleol ddyrannu ym mhob blwyddyn ariannol, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn, y cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol am y flwyddyn ariannol honno fel cyfrannau cyllideb ysgolion y mae'n eu cynnal.
Amseriad penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau cyllideb
5.
- (1) Rhaid i swm cyfran cyllideb ysgol am flwyddyn ariannol gael ei benderfynu i gychwyn gan yr awdurdod addysg lleol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno.
(2) Ar y cychwyn nid oes rhaid i awdurdod addysg lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau blwyddyn ariannol, ac yn lle hynny caniateir iddo ddal ei afael ar swm ar gyfer ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau ond rhaid i'r swm hwnnw gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw neu gael ei ddosbarthu i ysgolion yn unol â gofynion rheoliad 18(4) cyn diwedd y flwyddyn ariannol honno.
Ymgynghori
6.
- (1) Yn ychwanegol at ymgynghori â'r fforwm ysgolion ar gyfer ei ardal[18], rhaid i awdurdod addysg lleol ymgynghori â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol y mae'n ei chynnal am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf a gymerwyd i ystyriaeth, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd yn ei fformwla o dan Reoliadau 1999 neu'r Rheoliadau hyn yn y flwyddyn ariannol flaenorol (gan gynnwys unrhyw ffactorau, meini prawf, dulliau, egwyddorion neu reolau newydd).
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i newidiadau sy'n cael eu gwneud yn unol â rheoliadau 5(2), 15, 18(3) neu 19.
(3) Rhaid bod ymgynghori o dan y rheoliad hwn yn digwydd mewn digon o amser i ganiatáu i'r canlyniad gael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu fformwla'r awdurdod ac wrth wneud penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau cyllideb ysgolion cyn dechrau'r flwyddyn ariannol o dan sylw.
(4) Rhaid i awdurdod addysg lleol hysbysu pob un o'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy o ganlyniad yr ymgynghori.
(5) Ceir bodloni'r gofyniad i ymgynghori ym mharagraff (1), ynglŷn â newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005, drwy ymgynghoriad sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2004 cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Y fformwla ar gyfer penderfynu cyfrannau cyllideb
7.
- (1) Rhaid i awdurdod addysg lleol benderfynu cyn dechrau blwyddyn ariannol, ac ar ôl yr ymgynghori y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 6, y fformwla y byddant yn ei defnyddio i benderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol honno gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol i fformwla o'r fath fod yn syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy, yn rhagweladwy o ran ei heffaith ac wedi'i mynegi'n glir.
(3) Ni chaiff awdurdod addysg lleol ddefnyddio ffactorau na meini prawf yn ei fformwla sy'n cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw swm a ddyrannwyd i'r ysgol o unrhyw grant a dalwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Cenedlaethol.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 22 (trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), rhaid i awdurdod addysg lleol ddefnyddio'r fformwla a benderfynwyd o dan baragraff (1) ym mhob penderfyniad ac ailbenderfyniad ar gyfrannau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
Niferoedd disgyblion
8.
- (1) Wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac ysgolion meithrin, rhaid i awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r niferoedd hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8).
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys -
(3) Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod -
(4) Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna -
(5) Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i ddisgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn eu cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).
(6) Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla -
ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod (a'r cyfrannau hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8)).
(7) Os yw'r awdurdod yn amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig mewn ysgol yn unol â pharagraff (4)(b), rhaid iddo ymgynghori â phennaeth yr ysgol.
(8) Caiff awdurdod addysg lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol -
(9) Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.
Niferoedd Disgyblion: Cofrestru Deuol
9.
Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 1996[19], yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl amser-llawn ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformwla.
Lleoedd
10.
Wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer -
caiff awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla nifer y lleoedd y mae'n dymuno eu hariannu yn yr ysgolion arbennig hynny, yn achos paragraff (a), neu nifer y lleoedd ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn achos paragraffau (b), (c) ac (ch) ac ym mhob achos caiff gymryd i ystyriaeth yr anghenion addysgol arbennig o dan sylw.
Ysgolion o ddisgrifiad penodol
11.
Pan fo awdurdod addysg lleol yn didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir o ddisgrifiad penodol, rhaid iddynt gynnwys ffactorau neu feini prawf yn eu fformwla ar gyfer y gwariant cynlluniedig hwnnw mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwnnw.
Cyllid gwahaniaethol
12.
Rhaid i awdurdod addysg lleol beidio â defnyddio yn ei fformwla unrhyw ffactorau neu feini prawf sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori o dan Ddeddf 1998 ac eithrio lle bo gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau yn cyfiawnhau gwahaniaethu o'r fath.
Ffactorau neu feini prawf ychwanegol
13.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 11 a 12, caiff awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla, fel y mae'n credu ei bod yn briodol, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen.
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.
(3) Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o'r Atodlen, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.
Cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol
14.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 16 (Addasiadau i gyfrannau cyllideb), rhaid i'r gyfran o'r gyllideb am flwyddyn ariannol ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol gynnwys swm ('y Swm') ar gyfer disyblion yr ysgol honno sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i'r Swm gynnwys, ar sail net -
(3) I'r graddau nad yw'r Swm yn ddarostyngedig i'r amodau yn y Grant, rhaid i awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ddefnyddio ffactor sy'n dyrannu cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran addysg gorfodol.
Diwygio Grant y Cyngor Cenedlaethol
15.
Rhaid i gyfran cyllideb ysgol uwchradd neu ysgol arbennig am y flwyddyn ariannol o dan sylw gael ei hailbenderfynu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol honno yn unol â hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor Cenedlaethol o ddiwygiad i'r grant y penderfynwyd arno'n wreiddiol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.
Addasu cyfran o'r gyllideb
16.
- (1) I'r graddau yr oedd cyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol -
rhaid i'r awdurdod addysg lleol benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol honno am y flwyddyn ariannol o dan sylw yn y fath fodd ag i gymryd y gwahaniaethau hynny i ystyriaeth.
(2) Caiff awdurdod addysg lleol benderfynu cyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol o dan sylw er mwyn cymryd i ystyriaeth unrhyw newid arall yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol i'r data a ddefnyddiwyd i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn honno, os na chymerwyd y newidiadau hynny i ystyriaeth wrth ailbenderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3) Caiff awdurdod addysg lleol addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol -
(4) Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys yn ei fformwla ffactorau neu feini prawf sy'n bodloni gofynion y rheoliad hwn.
Ad-drefnu ysgol
17.
- (1) Yn achos ysgol a gynhelir sydd -
rhaid i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, mewn unrhyw flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae ysgol yn derbyn disgyblion yn gyntaf ynddi, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran gyllideb.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod addysg lleol -
Ailbenderfynu cyfrannau cyllideb
18.
- (1) Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei alluogi i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol yn ystod blwyddyn ariannol os yw'n dymuno cymryd i ystyriaeth yn y modd hwn (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) -
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol nodi yn ei fformwla y ffactorau neu'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio i ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn unol â pharagraff (1) er mwyn dyrannu'r gwariant cynlluniedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 30 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003[21].
(3) Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla i'w alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu neu ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol -
(4) Pan fo awdurdod addysg lleol yn bwriadu dal ei afael ar ran o'i gyllideb ysgolion unigol yn unol â rheoliad 5(2) ar ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol o dan sylw er mwyn dosbarthu i ysgolion y gweddill sydd heb ei ddyrannu o unrhyw swm y dalwyd gafael arno felly ar sail niferoedd disgyblion yn unol â rheoliad 8(1) neu (6).
Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad
19.
- (1) Pan fo disgybl, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol honno yn unol â pharagraff (2).
(2) Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w gostwng â'r swm A x (B/52) ac -
A yw'r swm, yn y flwyddyn ariannol y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddi (fel y'i diffinnir o bryd i'w gilydd at ddibenion adran 494 o Ddeddf 1996[22] ("y dyddiad perthnasol")), a benderfynwyd gan yr awdurdod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac sydd i'w briodoli am y flwyddyn ariannol lawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod:
At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformwla'r awdurdod neu reoliad 22 drwy ystyried niferoedd disgyblion yn hytrach na nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor neu faen prawf arall nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a
B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:
OND os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵp oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.
(3) Pan fo disgybl yn cael ei dderbyn yn ystod blwyddyn ariannol i ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ("yr ysgol sy'n derbyn") a bod y disgybl hwnnw wedi'i wahardd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir yn y flwyddyn ariannol honno rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).
(4) Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D x (E/F) a -
D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran cyllideb yr ysgol y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu'r swm y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;
E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;
F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.
Canran o gyllid "sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion"
20.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau bod ei fformwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol -
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol yr awdurdod addysg lleol, gyfrannau cyllideb ysgolion sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, cyfrannau cyllideb ysgolion arbennig nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y dalwyd gafael arni yn unol â rheoliad 5(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.
Cywiro gwallau
21.
Caiff awdurdod addysg lleol ailbenderfynu ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol honno er mwyn cywiro gwall mewn penderfyniad neu ailbenderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n codi o wall ynglŷn â nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol neu fel arall.
Trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol
22.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'n ymddangos ei bod yn hwylus i wneud hynny, awdurdodi awdurdod addysg lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau cyllideb, i'r graddau y bydd yn eu pennu, yn unol â threfniadau a gymeradwywyd ganddo yn lle'r trefniadau y darparwyd ar eu cyfer mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[23]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
21 Medi 2004
i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.
16.
Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat fel y diffinnir "private finance transaction" yn rheoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[24] (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).
17.
Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod II o Ran II o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb (o fewn ystyr "budget share" yn Neddf 1996 neu 1998) neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y flwyddyn ariannol fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.
18.
A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw.
19.
Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.
20.
Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.
21.
Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 2002[25] neu ddiogelu cyflogau eraill.
22.
Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 122 o Ddeddf 2002[26] (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).
23.
Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.
24.
Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.
25.
Ysgolion y câi eu cyfrannau cyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.
26.
Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).
27.
Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.
28.
Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.
29.
Effaith trethi ar ysgolion.
30.
Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.
31.
Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.
32.
Mynychder Athrawon Newydd Gymhwyso.
33.
Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y flwyddyn ariannol o dan sylw.
34.
Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.
35.
Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 1998[27]: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwaraint a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.
36.
Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[28] neu mewn unrhyw drefniadau ar gyfer cymorth ariannol a roddwyd yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safonau ysgol yn cael eu gwella drwy leihau meintiau dosbarthiadau.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] Sefydlwyd y Cyngor Cenedlaethol gan adran 30 o Ddeddf 2000.back
[7] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy.40), 2001/495 (Cy. 22), 2002/136 (Cy.19) a 2003/538 (Cy.75).back
[8] O.S. 2003/3118 (Cy.296).back
[9] Amnewidiwyd adran 494 gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
[10] Mewnosodwyd gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 43.back
[11] Mewnosodwyd adran 45A gan adran 41(1) o Ddeddf 2002 (O.S. 2003/2961 (Cy. 278)).back
[12] Diwygiwyd adran 6(1) gan adran 156(1) o Ddeddf 2002.back
[13] Dirymwyd rheoliadau 2, 3 a 5 o Reoliadau 1999, ac Atodlen 2 iddynt, ar 1 Ebrill 2004 gan Reoliadau 2003.back
[14] O.S. 2000/911 (Cy.40).back
[15] O.S. 2001/495 (Cy.22).back
[16] O.S. 2002/136 (Cy.19).back
[17] O.S. 2003/538 (Cy.75).back
[18] Cafodd y fforymau ysgolion eu sefydlu gan reoliad 2 o Reoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2909 (Cy.275)).back
[19] Y Rheoliadau perthnasol, ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud, yw Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 (O.S. 1995/2089) sy'n parhau mewn grym yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 39 i Ddeddf 1996. O.S. 1997/2624 ac O.S. 2001/1109 yw'r offerynnau diwygio.back
[20] Mewnosodwyd adran 113A gan adran 72(1) o Ddeddf 2002.back
[21] O.S. 2003/3118 (Cy.296).back
[22] Amnewidiwyd adran 494 gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y Rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999, O.S. 1999/495, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy.308).back
[24] O.S. 1997/319; diwygiwyd gan O.S. 1998/371 ac O.S. 1999/1852.back
[25] Ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud O.S. 2003/2169 yw'r gorchymyn perthnasol.back
[26] Ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud, Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol 2003 (ISBN 0 11 271146-4) yw'r ddogfen berthnasol. Rhoddwyd effaith i'r ddogfen honno yng Ngorchymyn Addysg (Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol) 2003 (O.S. 2003/2169) a rhoddwyd effaith i ddiwygiadau iddi yn O.S. 2003/2640 a 2004/658.back
[27] Rheoliadau Addysg (Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yw'r Rheoliadau perthnasol ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.back