British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042414w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif2414 (Cy.222)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
15 Medi 2004 | |
|
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(b) |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1), (2)(a), (b), (7)(c) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac adrannau 79C(2), (3)(b), (f) a (104)(a) o Ddeddf Plant 1989[
2], a chan ei fod o'r farn nad yw drwy hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed eisoes gan reoliadau o dan adran 22 o Ddeddf 2000[
3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
O ran y Rheoliadau hyn -
(a) eu henw yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004;
(b) deuant i rym y diwrnod ar ôl iddynt gael eu gwneud.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[4] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "o dan Ddeddf yr Heddlu 1997" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 8";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
8.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[5] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "o dan Ddeddf yr Heddlu 1997" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 8";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
8.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
4.
- (1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[6] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "o dan Ddeddf yr Heddlu 1997" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 9";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
9.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
5.
- (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[7] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 2, ar ôl "os yw'n gymwys" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 10";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
10.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 4, ar ôl "os yw'n gymwys" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 14";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
14.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
6.
- (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[8] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 3, ar ôl "os yw'n gymwys" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 11";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
11.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 3 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 4, ar ôl "os yw'n gymwys" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 13";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
13.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
7.
- (1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[9] fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny -
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "o dan Ddeddf yr Heddlu 1997" mewnosoder "ac yn ddarostyngedig i baragraff 8";
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol -
"
8.
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Medi 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o ganlyniad i gychwyn, ar 26 Gorffennaf 2004, ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n sefydlu rhestr o bersonau yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio ("y rhestr").
Mae rheoliadau 2 i 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 ("y Rheoliadau presennol"). Mae'r Rheoliadau presennol (ac eithrio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004) yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif cofnod troseddol lai na theirblwydd oed fod ar gael o ran darparwyr, rheolwyr a staff penodol yr ymgymeriadau y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. (Nid yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn cynnwys terfyn oedran o'r fath.) Os person y gellir cadarnhau pa un a yw wedi'i gynnwys ar y rhestr ai peidio yw testun y dystysgrif, mae'r Rheoliadau presennol yn darparu bod yn rhaid i'r dystysgrif nodi a yw'r person wedi'i gynnwys felly.
Mae'r diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud i'r Rheoliadau presennol yn darparu, os oedd tystysgrif cofnod troseddol ar gael ar 26 Gorffennaf 2004, nad cymwys unrhyw ofyniad am i'r dystysgrif nodi a yw testun y dystysgrif wedi'i gynnwys ar y rhestr.
Notes:
[1]
2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr "appropriate Minister" mewn perthynas â Chymru yw'r Cynulliad (adran 121(1) o Ddeddf 2000); ystyr "Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000). Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 am y diffiniad o "regulations".back
[2]
1989 p. 41. Rhoddwyd y pwerau i'r Cynulliad. Ystyr "the Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 79B(2) o Ddeddf 1989). Mewnosodwyd adran 79C yn Neddf 1989 gan adran 79(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back
[3]
Mae adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn darparu bod yn rhaid i'r "appropriate Minister", cyn iddo wneud rheoliadau o dan yr adran honno, ymgynghori ag unrhyw berson y mae o'r farn ei fod yn berson priodol, onid yw'r rheoliadau'n diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad ydynt, ym marn y Gweinidog, yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny.back
[4]
O.S. 2002/324 (Cy. 37); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back
[5]
S.I. 2002/327 (Cy. 40); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back
[6]
O.S. 2002/325 (Cy. 38); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).back
[7]
O.S. 2003/2527 (Cy. 242).back
[8]
O.S. 2004/219 (Cy. 23).back
[9]
O.S. 2002/812 (Cy.92); gwnaed y diwygiad perthnasol gan O.S. 2002/2622 (Cy. 254).back
[10]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090997 6
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
29 September 2004
|