British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041826w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1826 (Cy.202)
DATBLYGU ECONOMAIDD, CYMRU
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004
|
Wedi'i wneud |
14 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975[
1], sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2004 a daw i rym ar 1 Awst 2004.
Cynnydd yn y terfyn ariannol
2.
At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £3,000 miliwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Corff Cyhoeddus gweithredol a Noddir gan y Cynulliad yw Awdurdod Datblygu Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 er mwyn hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, hyrwyddo effeithlonrwydd mewn busnes a chystadleurwydd rhyngwladol yng Nghymru a hybu gwelliannau yn amgylchedd Cymru.
Mae isadran 18(3) o Ddeddf 1975 yn pennu terfyn ariannol yr Awdurdod, ac yn darparu i'r terfyn hwnnw gael ei gynyddu drwy gyfrwng gorchymyn. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn o £2000 miliwn i £3,000 miliwn.
Notes:
[1]
1975 (p.70); diwygiwyd adran 18 gan adran 1 o Ddeddf Diwydiant 1979 (p. 32), gan adrannau 5(1) a 21 ac Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant 1980 (p. 33), a chan adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090995 X
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
28 July 2004
|