British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041806w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1806 (Cy.194)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
13 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[
1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Corff a bennir
2.
Pennir First National Home Finance Limited (Cwmni Rhif 592986) yn sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156[
3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu First National Home Finance Limited (Cwmni Rhif 592986) fel sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol.
Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol, sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyg cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.
At ddibenion yr adran mae sefydliadau benthyg cymeradwy yn gymdeithasau adeiladu, yn fanciau, yn gwmnïau yswiriant, yn gymdeithasau cyfeillgar ac yn unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).
Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny.
Notes:
[1]
1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090986 0
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
20 July 2004
|