British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041805w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1805 (Cy.193)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004
|
Wedi'u gwneud |
13 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2004 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4), a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[
1],ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Rheoliadau 2003" ("the 2003 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003[3];
ystyr "Rheoliadau UCD 2003" ("the 2003 PRU Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003[4]).
Darparu gwybodaeth
3.
Yn rheoliad 5(1)(a) o Reoliadau 2003 mewnosoder y geiriau "dyddiad geni," o flaen y gair "rhyw".
4.
Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder y geiriau "dyddiad geni," o flaen y gair "rhyw".
Swyddogaethau'r corff llywodraethu mewn perthynas â disgyblion sydd wedi'u gwahardd
5.
- (1) Yn lle rheoliad 6(3) o Reoliadau 2003 rhodder -
"
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl."
(2) Yn rheoliad 6(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".
(3) Yn rheoliad 6(6) -
(i) yn y fersiwn Cymraeg, yn lle'r geiriau "y dylid derbyn disgybl yn ôl" rhodder y geiriau "na ddylid derbyn disgybl yn ôl"; a
(ii) ar ôl y geiriau "na ddylid derbyn disgybl yn ôl" (fel y'u hamnewidir gan baragraff (i) uchod) mewnosoder y geiriau "neu ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r pennaeth yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl".
Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig
6.
- (1) Yn lle rheoliad 7(3) o Reoliadau UCD 2003 rhodder -
"
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl."
(2) Yn rheoliad 7(4), mewnosoder ar ôl y geiriau "rhaid iddo" y geiriau ", onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,".
(3) Yn rheoliad 7(6), ar ôl y geiriau "na ddylid derbyn disgybl yn ôl" mewnosoder y geiriau ", neu, ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r athro neu athrawes â gofal yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl".
Gwaharddiadau - safon y prawf
7.
Ar ôl rheoliad 8 o Reoliadau 2003 mewnosoder -
"
Gwaharddiadau - safon y prawf
8A.
Os yw'n fater -
(a) i'r pennaeth, wrth arfer pŵer a roddwyd gan adran 52(1) o Ddeddf 2002,
(b) i'r corff llywodraethu, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 6, neu
(c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.".
8.
Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder -
"
Gwaharddiadau - safon y prawf
9A.
Os yw'n fater -
(a) i'r athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion, wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 52(2) o Ddeddf 2002,
(b) i'r awdurdod addysg lleol, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7, neu
(c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'i haddaswyd, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 8,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn ychwanegu dyddiad geni'r disgybl sydd wedi'i wahardd at ystod yr wybodaeth ar bob gwaharddiad y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ac athro â gofal uned cyfeirio disgyblion ei darparu i'r awdurdod addysg lleol bob tymor.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn cywiro camgymeriad yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hynny ac er mwyn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn disgybl yn ôl rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy'n mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl. Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn darparu bod yn rhaid i'r pennaeth, y corff llywodraethu neu'r panel apêl sefydlu'r ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Notes:
[1]
2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr "regulations" a "prescribed".back
[2]
1992 p.53, diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back
[3]
O.S. 2003/3227 (Cy.308).back
[4]
O.S. 2003/3246 (Cy.321).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090985 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
20 July 2004
|