British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041754w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1754 (Cy.187) (C.70)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
7 Gorffennaf 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004 ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("
the Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
Diwrnodau penodedig
2.
- (1) I'r graddau y mae'n rhoi pwerau i wneud rheoliadau, y diwrnod wedi'r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn yw'r diwrnod a benodir ar gyfer adran 58 i ddod i rym.
(2) 1 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf ddod i rym -
(a) adran 48 ac Atodlen 4;
(b) adran 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym[2];
(c) adran 58 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch) adran 67(1) a pharagraff 15(1) o Atodlen 5 i'r graddau y maent yn ymwneud â -
(i) paragraff 15(2); a
(ii) y rhan honno o baragraff 15(3) sy'n mewnosod y geiriau "making of direct payments to a person in respect of his securing provision of community care services or services to carers", a'r cyfeiriadau cysylltiedig at Ran 4 o'r Ddeddf, yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970[3];
(d) adran 67(2) a Rhan 3 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn ymwneud a'r cofnodion yn Rhan 3 ynghylch -
(i) Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[4];
(ii) Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000[5].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6])
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y seithfed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") mewn perthynas â Chymru yn unig yw'r Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn penodi 1 Tachwedd 2004 yn ddiwrnod pan fydd adran 48 ac adrannau 57 a 58 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) o Ddeddf 2001 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae adran 48 yn mewnosod darpariaethau yn Neddf Iechyd 1999 ac sy'n darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud gorchmynion trosglwyddo staff mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff y GIG ac a wnaed o dan Ddeddf 1999.
Mae adran 57 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau gofal cymunedol neu wasanaethau ar gyfer gofalwyr yn uniongyrchol, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.
Mae adran 58 yn mewnosod adran 17A newydd yn Neddf Plant 1989 ac sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n awdurdodi awdurdodau lleol, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau uniongyrchol yn lle darparu gwasanaethau yn uniongyrchol o dan adran 17 o Ddeddf 1989, ac mae'n gwneud darpariaeth o ran effaith y rheoliadau hynny.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2001 sy'n gwneud diwygiadau, a diddymiadau, i ddarpariaethau eraill mewn deddfwriaeth sylfaenol ac yn eu diddymu o ganlyniad i adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2001.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darpariaeth Deddf 2001
|
Dyddiad cychwyn
|
Rhif O.S.
|
Adran 3 |
1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) |
2002/1475 (Cy.147) (C.41) |
Adran 5 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 6(3) |
24 Ionawr 2004 |
2004/103 (Cy.10) (C.6) |
Adran 11 |
1 Rhagfyr 2002 |
2002/1475 |
Adran 12 |
31 Ionawr 2004 |
2004/103 |
Adran 13 |
17 Mawrth 2003 |
2003/713 (Cy.87) (C.36) |
Adran 16 |
26 Awst 2002 |
2002/1919 (C.60) |
Adrannau 19 i 26 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 27 |
26 Awst 2002 |
2002/1919 |
Adrannau 28 i 39 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adrannau 41 i 43 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Adran 49 Adran 50(1) |
3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) a 1 Ebrill 2004 (gweddill) 8 Ebrill 2002 |
2001/3807 (Cy.315) (C.124) a 2004/103 2001/3752 (C.122) |
Adran 50(2) i (10) |
19 Rhagfyr 2001 |
2001/3807 |
Adrannau 51 a 52 |
8 Tachwedd 2001 |
2001/3752 |
Adrannau 53 i 55 |
1 Ebrill 2003 |
2003/939 (Cy.123) (C.50) |
Adran 67(1) ac Atodlen 5 |
1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol) |
2002/1095 (C.26), 2002/1475 a 2002/1919 |
Adran 67(2) ac Atodlen 6 |
1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (pob un yn rhannol) |
2002/1095, 2002/1312 (C.36), 2002/1475 a 2002/1919 |
Atodlenni 2 a 3 |
1 Gorffennaf 2002 |
2002/1475 |
Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi cychwyn darpariaethau Deddf 2001 mewn perthynas â Lloegr yn unig: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36); O.S. 2002/2363 (C.77); O.S. 2003/53 (C.3); O.S. 2003/850 (C.46) ac O.S. 2003/2245 (C.87).
Notes:
[1]
2001 p.15. Rhoddwyd y pwerau i'r "relevant authority" y mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn ei ddiffinio fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr.back
[2]
Gweler adran 70(2)(c) o Ddeddf 2001.back
[3]
1970 p.42.back
[4]
1996 p.30; diwygiwyd adran 1 gan adran 5 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16).back
[5]
2000 p.16.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090979 8
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
19 July 2004
|