Wedi'u gwneud | 8 Gorffennaf 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Tachwedd 2004 |
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y rheoliadau hyn -
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau - gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr
3.
- (1) At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person sy'n dod fewn adran 57(2) o'r Ddeddf honno[9] o ddisgrifiad rhagnodedig -
(2) Dyma'r disgrifiadau -
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau - gwasanaethau plant
4.
At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person sy'n dod fewn adran 17A(2) o'r Ddeddf honno[11] o ddisgrifiad rhagnodedig -
Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol
5.
- (1) Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol wneud y taliadau hynny ("taliadau uniongyrchol") y penderfynir arnynt yn unol â rheoliad 6 mewn perthynas â'r canlynol -
o ran sicrhau darparu gwasanaeth perthnasol.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr gwasanaeth perthnasol yw -
(3) Dyma'r amodau -
Swm a thaliad taliadau uniongyrchol
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), gwneir taliad uniongyrchol yn daliad gros[14] oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y dylid ei wneud yn daliad net[15].
(2) At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu, ar ôl ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os o gwbl) y mae'n rhesymol ymarferol iddo'u talu tuag at sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol (boed drwy ad-daliad fel y crybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu drwy gyfraniad fel y crybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno)[16].
(3) Os yw'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, heblaw am y rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal) -
(4) Os gwneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989[17]) -
(5) Ceir talu taliad uniongyrchol -
Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol
7.
- (1) Bydd taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod na sicrheir y gwasanaeth a wneir mewn perthynas ag ef gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni bai -
(2) Dyma'r personau -
(ch) priod unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a
(d) person sy'n byw gydag unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod i'r person hwnnw.
(3) Nid yw paragraff (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c) o Ddeddf 1989[20].
(4) Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau eraill (os oes rhai) fel y gwêl orau.
(5) Gall yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), yn benodol, ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r talai -
Mwyafswm cyfnodau llety preswyl y gellir eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ar gyfer darparu llety preswyl iddo am gyfnod sy'n fwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2) Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), mewn unrhyw gyfnod o 12 mis -
(3) Ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 4 ar gyfer darparu llety preswyl -
Disodli swyddogaethau a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol
9.
- (1) Ac eithrio'r hyn a ddarperir gan baragraff (2), ni fydd y ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau o ran darparu'r gwasanaeth, o dan y deddfiad perthnasol, y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.
(2) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth o ran y darparu'r gwasanaeth o dan y deddfiad perthnasol y mae'r taliad yn ymwneud ag ef cyhyd â'i fod yn fodlon fod yr angen sy'n galw am ddarparu'r gwasanaeth yn dod o drefniadau'r talai ei hun.
(3) Ym mharagraff (1) a (2), mae cyfeiriadau at ddeddfiad perthnasol, mewn perthynas â darparu gwasanaeth, yn gyfeiriad at ddeddfiad y byddai'r gwasanaeth yn cael ei darparu odano heblaw am y Rheoliadau hyn.
Ad-dalu taliad uniongyrchol
10.
- (1) Os bydd awdurdod cyfrifol sydd wedi gwneud taliad uniongyrchol wedi'i fodloni, mewn perthynas â'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad -
gall ei gwneud yn ofynnol i'r taliad neu, yn ôl y digwydd, ran o'r taliad gael ei ad-dalu.
(2) Gellir adennill unrhyw swm sydd i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod.
Terfynu taliadau uniongyrchol
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson -
(2) Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson rhagnodedig os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001[21].
(3) Os bydd y person y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn perthynas ag ef yn peidio â bod yn alluog i reoli taliadau o'r fath, caiff awdurdod cyfrifol serch hynny barhau i wneud taliadau o'r fath -
Diwygiadau canlyniadol
12.
Bydd y diwygiadau a wnaed gan reoliad 11 o Reoliadau 2003 ac a gynhywsir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys yng Nghymru.
Dirymu
13.
- (1) Dirymir drwy hyn Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997[22], i'r graddau nas dirymwyd hwy gan Reoliadau 2003, a Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Diwygio (Cymru) 2000[23].
(2) Dirymir drwy hyn reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001[24].
(3) Dirymir drwy hyn Reoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001[25].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[26].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2004
(d) person sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1983;
(dd) person sy'n destun ôl-ofal o dan oruchwyliaeth yn ystyr adran 25A o Ddeddf 1983[28];
(e) person y mae amod a osodwyd mewn perthynas ag ef mewn grym yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) o Ddeddf 1983 (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3) o'r Ddeddf honno);
(f) person y mae gorchymyn goruchwylio a thriniaeth mewn grym mewn perthynas ag ef yn ystyr Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anffitrwydd i Bledio) 1991[29];
(ff) person sy'n glaf ac yn destun ôl-ofal o dan orchymyn gofal cymunedol o dan adran 35A o Ddeddf 1984[30];
(g) person sy'n glaf sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd o dan adran 27 o Ddeddf 1984;
(ng) person sy'n destun gorchymyn gwarcheidiaeth yn ystyr adran 57 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000[31]) oherwydd, neu am resymau sy'n cynnwys, analluedd drwy anhwylder meddwl;
(h) person sy'n glaf cyfyngedig yn ystyr adran 63(1) o Ddeddf 1984 y rhoddwyd rhyddhad amodol iddo o dan adran 64 neu 68 o'r Ddeddf honno;
(i) person sy'n destun gorchymyn llys o dan adran 57(2)(a), (b), (c) neu (d), 58 neu 59 o Ddeddf 1995;
(j) person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn prawf yn ystyr adrannau 228 i 230 o Ddeddf 1995, neu sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 234B o'r Ddeddf honno[32];
(l) person a ryddhawyd ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carcharau (yr Alban) 1989[33]) neu o dan adran 1 o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (yr Alban) 1993[34] a'i fod yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.
1.
Teitl y deddfiad |
2.
Y darpariaethau sydd i'w diwygio |
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Asesu Adnoddau) 1989[35] |
Atodlen 2, paragraff 6(2) Atodlen 3, paragraff 8(b) |
Rheoliadau Cyngor a Chymorth Cyfreithiol 1989[36] | Atodlen 2, paragraff 9A(2) |
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Troseddol ac Achosion Gofal (Cyffredinol) 1989[37] | Atodlen 3, paragraff 6(2) |
Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000[38]) | Rheoliadau 19(b) a 33(b) |
Rheoliadau Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cyffredinol) (Rhif 2) 2001[39] | Atodlen 1, paragraff 8(1)(d) |
1.
Teitl y deddfiad |
2.
Y darpariaethau sydd i'w diwygio |
Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[40] | Atodlen 9, paragraff 58 |
Rheoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987[41] | Atodlen 4, paragraff 67 |
Rheoliadau Credyd Teulu (Cyffredinol) 1987[42] | Atodlen 2, paragraff 57 |
Rheoliadau Lwfans Gweithio i'r Anabl (Cyffredinol) 1991[43]) | Atodlen 3, paragraff 55 |
Rheoliadau budd-dal Treth (Cyffredinol) 1992[44] | Atodlen 4, paragraff 62 |
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992[45]) | Atodlen 2, paragraff 48C |
Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996[46] | Atodlen 7, paragraff 56 |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[47] | Atodlen 3, paragraff 59 |
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[48]) | Atodlen, paragraff 43A |
[2] 1989 t.41. Amnewidiwyd adran 17A o Ddeddf 1989 gan adran 58 o Ddeddf 2001. Rhoddwydd y per i wneud rheoliadau o dan adran 17A i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 68(1) o Ddeddf 2001, ymdrinnir â'r cyfeiriad at Ddeddf 1989 yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel cyfeiriad at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001. Yn unol â hynny, mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 17A o Ddeddf 1989, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, yn arferadwy gan y Cynulliad: gweler Erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 a'r cofnod o ran Deddf 1989 yn Atodlen 1 iddo. Gweler adran 17(6) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "prescribed".back
[3] O dan adran 57(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989, yr "awdurdod cyfrifol" mewn perthynas â'r person rhagnodedig yw'r awdurdod lleol a benderfynodd: (i) bod ei anghenion yn galw am iddynt ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol penodol ar ei gyfer; (ii) darparu gwasanaethau ar ei gyfer yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; neu (iii) bod anghenion plentyn anabl yn galw am ddarparu gwasanaethau i berson rhagnodedig o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989.back
[9] Daw person o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 os yw'r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu: (i) bod ei anghenion yn galw am iddynt ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol penodol ar ei gyfer; neu (ii) darparu gwasanaeth penodol iddo yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.back
[10] 1948 p.47. Mae adran 29 yn gymwys i "persons aged eighteen or over who are blind, deaf or dumb or who suffer from mental disorder of any description, and other persons aged eighteen or over who are substantially and permanently handicapped by illness, injury, or congenital deformity or such other disabilities as may be prescribed…".back
[11] Daw person o fewn adran 17A(2) o Ddeddf 1989: (a) os yw'n berson â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl; (b) os yw'n berson anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn; neu (c) os yw'n blentyn anabl 16 neu 17 oed.back
[14] Gweler adran 57(4) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "gross payments".back
[15] Gweler adran 57(5) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "net payments".back
[16] Mae adran 17A(3) o Ddeddf 1989 yn cymhwyso adrannau 57(3) i (5) a (7) o Ddeddf 2001 i reeoliadau a wnaed o dan adran 17A o Ddeddf 1989.back
[17] Daw person o fewn adran 17A(5) os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl 16 neu 17 oed neu os yw'n berson anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn o'r oed hwnnw neu os yw'n derbyn cymhorthdal incwm, credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio neu gredyd treth i bobl anabl.back
[18] Y raddfa a grybwyllir yn adran 57(4)(a) yw'r raddfa honno y mae'r awdurdod yn amcangyfrif sy'n hafal i gost resymol sicrhau darparu'r gwasanaeth o dan sylw.back
[19] Mae adran 57(4)(b) yn caniatáu i awdurdod wneud taliadau uniongyrchol gros yn ddarostyngedig i'r amod bod y talai yn talu i'r awdurdod, drwy ad-daliad, swm neu symiau y penderfynir arnynt o dan y rheoliadau.back
[20] Plentyn anabl 16 neu 17 oed yw'r person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c).back
[21] Mae adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001 yn caniatáu i'r awdurdod cyfrifol wneud taliad gros uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod bod y talai yn talu iddo, drwy ad-daliad, swm neu symiau y penderfynir arnynt o dan y rheoliadau. Mae adran 17A(3) o Ddeddf 1989 yn cymhwyso adran 57(4)(b) i daliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf honno.back
[23] O.S. 2000/1868 (Cy.127).back
[24] O.S. 2001/2186 (Cy.150).back
[25] O.S. 2001/2192 (Cy.154).back
[28] Mewnosodwyd adran 25A gan adran 1(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) ("Deddf 1995").back
[30] Mewnosodwyd adran 35A gan adran 4 o Ddeddf 1995.back
[32] Mewnosodwyd adran 234B gan adran 90 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37).back
[36] O.S. 1989/338; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/778, 1996/2309, 1997/753; gweler hefyd O.S. 2000/774, erthygl 5.back
[37] O.S. 1989/340; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/790 ac 1997/751; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.back
[38] O.S. 1989/344; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/789 ac 1997/752; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.back
[40] O.S. 1987/1967; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back
[41] O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2863.back
[42] O.S. 1987/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back
[43] O.S. 1991/2887; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back
[44] O.S. 1992/1814; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back
[45] O.S. 1992/1815; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/3196. Dirymwyd O.S. 1992/1815 gydag arbedion gan O.S. 2001/155.back
[46] O.S. 1996/207; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back
[47] O.S. 1996/2890; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/808.back