British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041734w.html
[
New search]
[
Help]
2004 Rhif1734 (Cy.177)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
6 Gorffennaf 2004 | |
|
Yn dod i rym |
|
ac eithrio erthygl 4(3) |
31 Gorffennaf 2004 | |
|
erthygl 4(3) |
31 Awst 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], ar ôl dilyn y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998[
3]:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004.
(2) Ac eithrio erthygl 4(3) daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
(3) Daw erthygl 4(3) i rym ar 31 Awst 2004
(4) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "yr enwad crefyddol perthnasol" ("
the relevant religious denomination") yw'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau mewn ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Dynodi
2.
Dynodir yr ysgolion a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
3.
Yr enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas ag ysgol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yw -
(a) Yr Eglwys yng Nghymru, yn achos ysgol a restrir yn Rhan I o'r Atodlen;
(b) Catholig, yn achos ysgol a restrir yn Rhan II o'r Atodlen; ac
(c) Eglwys Loegr yn achos ysgol a restrir yn Rhan III o'r Atodlen.
Diwygio Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999
4.
- (1) Diwygir Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999[4] fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw -
(a) hepgorwch y cofnodion ar gyfer:
(i) Jeffreyston Voluntary Controlled Primary School;
(ii) Manordeifi Upper Voluntary Controlled Primary School;
(iii) Ysgol Gynradd Wirfoddol Myddfai; a
(iv) Portskewett Voluntary Controlled Infants School; a
(b) hepgorwch y cofnod ar gyfer St. Paul's Primary School o'r rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir a mewnosodwch gofnod union debyg ar gyfer St. Paul's Primary School yn y rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir.
(3) Yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw hepgorwch y cofnod ar gyfer St Winefrides Roman Catholic School, Sir Ddinbych.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
YR ATODLENRheoliadau 2 a 3
RHAN
I
YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
AALl
|
Enw'r Ysgol
|
Categori'r Ysgol
|
Sir Fynwy |
Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams - Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir |
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Sir Benfro |
Ysgol Gynradd Sant Oswallt - Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Powys |
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanelwedd - Ysgol Wirfoddol a Reolir |
Ysgol Wirfoddol a Reolir |
RHAN
II
YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL CATHOLIG
AALl
|
Enw'r Ysgol
|
Categori'r Ysgol
|
Sir Ddinbych |
Ysgol y Santes Ffraid |
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
RHAN
III
YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL EGLWYS LOEGR
AALl
|
Enw'r Ysgol
|
Categori'r Ysgol
|
Powys |
Ysgol Eglwys Loegr Sarn |
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Gorffennaf 2004, yn dynodi ysgolion yng Nghymru sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Dynodir yr ysgolion hyn yn ogystal â'r ysgolion hynny a restrir eisoes yng Ngorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 ("Gorchymyn 1999").
Mae dynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol yn berthnasol ar gyfer nifer o ddibenion o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("y Ddeddf"), yn arbennig:
(a) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addysg grefyddol sydd i'w darparu o dan Atodlen 19 i'r Ddeddf;
(b) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addoli ar y cyd sydd i'w ddarparu o dan Atodlen 20 i'r Ddeddf;
(c) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar faterion staffio ysgol o dan adrannau 58-60 o'r Ddeddf;
(ch) at ddibenion penderfynu ar y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion o dan adran 89 o'r Ddeddf; a
(d) at ddibenion cael gwared ar asedau o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, er mwyn ailgyfeirio asedau er lles ysgolion o'r un crefydd neu o'r un enwad crefyddol.
Nid yw'r dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Mae dynodiad yn cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (O.S. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.
Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod yr enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf 1998, yn Gatholig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Gatholig neu beidio yn unol â chyfraith ganon.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1999 er mwyn adlewyrchu'r ffaith:
(i) bod rhai ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi cau: a
(ii) bod un o'r ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi newid categori.
Notes:
[1]
1998 p.31.back
[2]
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddi (O.S.1999/672).back
[3]
O.S. 1998/2535.back
[4]
O.S. 1999/1814.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090968 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
13 July 2004
|